Main content

Ar Y Marc: Tymor newydd Wrecsam a Chasnewydd

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Cychwyn cymysg i Wrecsam gyda rheolwr, chwaraewyr a threfn newydd o fewn y clwb.

Roedd y cychwyn a gafwyd oddi cartref yn Dartford gerllaw Llundain yn arwydd addawol o'r hyn sydd i ddod gyda’r asgellwr Wes York yn rhwydo dwywaith ac yn dangos digon o ddoniau i gynhyrfu unrhyw amddiffynnwr o fewn y gyngres.

Cadwyd yr un tîm ar gyfer y gêm ar Gae Ras Prifysgol Glyndŵr nos Fawrth diwethaf ond gyda Gateshead yn cynnig llawer mwy o rwystrau na Dartford, fe welwyd fod yna lawer o ffordd i fynd i’r Dreigiau wrth iddynt golli o dair gôl i ddim.

Gwelwyd chwech o newydd ddyfodiad yn nhîm y rheolwr newydd Kevin Wilkie ac mae hyn yn cynnwys blaenwyr addawol megis Louis Moult a Connor Jennings a sgoriodd 23 o goliau rhyngddynt y tymor diwethaf cyn ymuno a Wrecsam.

Ar ôl tymhorau maith o weld Wrecsam wedi cyfyngu i un arddull o chwarae, sef pedwar amddiffynnwr, tri yng nghanol cae a thri blaenwr, mae’n eithaf amlwg o'r cychwyn fod Kevin Wilkie wedi datblygu carfan sydd yn gallu ymateb yn llawer mwy hyblyg eu trefn.

Cafwyd cip o hyn yn y gêm agoriadol, gan ddangos parodrwydd i newydd patrwm a threfn y tîm, ynghyd ac addasu cyfrifoldebau yng nghyd-destun rhediad y gêm. Dyma yn wir agwedd sydd i'w groesawu yn fawr ar y Cae Ras.

Mae newid yn y gôl hefyd gyda’r chwaraewr ifanc o Awstria, Danny Bachmann wedi ymuno ar fenthyg o Stoke City, ond ni allai o wneud llawer o ddim i gadw Gateshead allan nos Fawrth.

Mae’r atyniad o weld tîm newydd, a threfn newydd yn amlwg wedi gafael ar gefnogwyr Wrecsam gyda torf o dros bedair mil ar y Cae Ras nos Fawrth.

Gyda cyn glwb Kevin Wilkie, Nuneaton Town yn ymweld â’r dref bnawn Sadwrn siawns na fydd yna dorf sylweddol arall yn mynychu’r gêm? Cyfle i Wrecsam gynnig perfformiad cystal a gafwyd yn Dartford, ond er gwaethaf y newidiadau a’r ffresni, does ond obeithio na fyddwn yn ail adrodd yr hen gŵyn flynyddol, sef bod angen mwy o gysondeb ym mherfformiadau tîm y Cae Ras!

Un sydd wedi ymadael o'r Cae Ras ydi'r amddiffynnwr David Artell sydd bellach yn chwarae i dîm y Bala ar Faes Tegid yn Uwch gynghrair Cymru. Ond nid y Bala ydi'r unig dîm i Artell chwarae iddo ar hyn o bryd. Mae o’n gymwys i gynrychioli gwlad Gibraltar mewn gemau rhyngwladol ac mae o eisoes wedi ennill pedwar cap, a chael ei enwi yn y garfan i wynebu Gwlad Pwyl ar ddechrau mis Medi yn rowndiau cymhwysol Pencampwriaeth Ewrop. Mae’r grŵp yma hefyd yn cynnwys yr Almaen gyda gemau Gibraltar yn cael eu cynnal yn stadiwm yr Algarve yn Faro, Portiwgal.

Draw yng Ngwent, bydd angen i Gasnewydd ddangos gwelliant ar ol rhediad siomedig a fu ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Collwyd y gêm gyntaf eleni adref yn erbyn Wycombe ond gyda wynebau newydd ar Rodney Parade, mae gobaith y gwnaiff hyn gynnig gwell cyfle i Gasnewydd ddatblygu arddull mwy effeithiol yn eu chwarae.

Byddai canlyniad ffafriol ddydd Sadwrn oddi cartref ym Morecambe yn siŵr o godi gobaith am well canlyniadau gweddill y tymor.

Ond fydd hi’m yn hawdd y penwythnos yma, a gyda gem arall oddi cartref yn Mansfield nos Fawrth nesaf bydd yna gryn fesur o allu ac ysbryd o fewn y garfan.

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Tra Bo Dau