Main content

Cyfoeth Cerddoriaeth Cymru

Newyddion

’Da ni newydd ddadflino ar ôl , wedi dod dros y sioc o glywed  – ac yn barod am gyfnod rhyfeddol o gerddoriaeth yma ar Radio Cymru yn ystod yr wythnos nesaf.

O gerddoriaeth werin i’r Gerddorfa; o oes aur y sîn roc i gerdd dant; ac o’r gerddoriaeth gyfoes fwya cyffrous i recordiadau gwerin y 1920au, mae’r cyfnod nesaf am adlewyrchu cerddoriaeth Cymru yn ei holl gyfoeth.

’Da ni’n lwcus iawn fod gennym griw o gyflwynwyr a chynhyrchwyr sy’n angerddol am gerddoriaeth o bob math, ac mi fydd hi’n andros o braf clywed pobol fel Siân Pari Hughes, Lisa Gwilym, Georgia Ruth ac Idris Morris Jones yn cyflwyno cerddoriaeth sy’n agos iawn at eu calonau. Ac yng nghanol y cyfan, mi fydd ’na un neu ddau o bethau go wahanol...

Dyma’r amserlen. Mwynhewch gyfoeth cerddoriaeth Cymru – dim ond ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru!

— Gareth Iwan Jones, Uwch Gynhyrchydd Cerddoriaeth.

 

Sadwrn 14/11/15
7pm GΕµyl Cerdd Dant 2015

Sul 15/11/15
3.30pm Cyngerdd y Gerddorfa ym Mhatagonia

Llun 16/11/15
2pm Sesiwn Welsh Whisperer a Brian yr Organ ar raglen Tommo
6.15pm Meilyr Jones ar raglen Dan yr Wyneb
9pm Hanes hwyl y Ddawns Rhyng-Gol gan Guto Rhun

Mawrth 17/11/15
1pm Trafodaeth arbennig ar Taro’r Post ar ddyfodol ffrydio cerddoriaeth
7pm Team Panda yn westeion arbennig rhaglen Ifan Evans

Mercher 18/11/15
8am Sesiwn Plu ar raglen Dylan Jones
7pm Albwm Plu yn ei chyfanrwydd ar raglen Lisa Gwilym

Iau 19/11/15
7pm Caneuon Cymraeg o 1910 o archif sain yn America hefo Georgia Ruth

Gwener 20/11/15
10am Sesiwn gan Trystan Llyr ar Bore Cothi
12.30pm Oes Na Roc A Rôl Ar Ôl? - gêm banel gerddoriaeth newydd!
2pm Alun Tan Lan yn perfformio’n fyw o siop Bys a Bawd, Llanrwst ar raglen Tudur Owen

Sadwrn 21/11/15
7pm Eisteddfod Ffermwyr Ifanc

Sul 22/11/15
3pm Cyngerdd Ghazalaw ar Y Sesiwn Fach

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 10/11/2015

Nesaf

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 17/11/2015