Main content

Cartrefi Cymru: Trefeca

Twm Morys

Cyflwynydd Cartrefi Cymru

Gan ei bod yn drichanmlwyddiant geni Hywel Harris, tad Anghydffurfiaeth yng Nghymru, waeth ichi ddweud, ac un o'r Cymry mwyaf dylanwadol fu erioed, roedd hi'n ddyletswydd arnaf ddilyn OM i gartref y dyn, .Ìý

Yma y sefydlodd Harris ei ashram anghydffurfiol ryfedd yn y 18fed ganrif, a hel ei 'Deulu' o'i amgylch. Cefais hanes y lle gan un oedd yn y Coleg efo fi, ond sydd bellach yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru, y Parch. Meirion Morris. A chefais wybod sut le ydi Trefeca i fyw ynddo heddiw gan y Warden, Mair Jones o Groesoswallt.

Coleg Trefeca, 1892

Doedd Mair a Meirion ddim yn canmol rhyw lawer ar ysgrif OM, a hynny, efallai, am fod mwy o le ynddi i benillion Williams Pantycelyn nag i hanes Hywel Harris, a'r penillion hynny yn eithaf beirniadol mewn gwirionedd o'r Diwygiwr mawr - mi aeth 'oddi ar y rêls' yng ngolwg llawer.

Ond daeth arnaf i awydd aros yn Nhrefeca, fel y byddai'r hen feirdd gynt yn mynd i aros i fynachlogydd yn y diwedd...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf