Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Awst 2010

Sioe Meirion ...a Tom, ac Iola!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 15:39, Dydd Iau, 26 Awst 2010

Sylwadau (0)

Ar gyrion Harlech y cynhaliwyd Sioe Merion eleni, ac fe gawson ni ddiwrnod i'w gofio. Er bod dynion a merched y tywydd, yn darogan glaw - ni ddisgynnodd hyd yn oed
ddropyn ar faes y sioe, er ei bod hi'n glawio lawr y ffordd yn Aberystwyth.

Ysgrifennydd y sioe ydi Douglas Powell, a'r tro diwethaf i mi ei gyfarfod o oedd yn Ysgol Gyfun Llangefni, lle 'roeddan ni'n dau'n ddisgyblion.
Tydi amser yn hedfan? (fel dduodd y dyn ar ôl lluchio cloc larwm ar draws y 'stafell!).

Llongyfarchiadau Douglas a'r tîm, am drefnu sioe wych. Fel yn yr Eisteddfod, 'da chi'n siŵr o daro ar hen ffrindiau yn y sioe hefyd, ac yn wir, un o'r rhai cynta' i mi ei weld oedd Tom Gwanas, ac fe lwyddais i'w berswadio i ganu deuawd efo mi (oedd yn dipyn o anrhydedd iddo fo) ar raglen Jonsi.

'Wrth fynd efo Deio i Dywyn' oedd y gân, a'r sôn ydi fod cwmni recordio Sain, am i ni wneud cryno ddisg o ddeuawdau enwog efo'n gilydd - y Pysgotwyr Perl, Hywel a Blodwen, ac yn y blaen. Gawn ni weld!

Sêr eraill yn y sioe oedd Dei Lloyd ac Iola Horran. Fe enillodd Dei bymtheg o wobrau cyntaf am ddangos ei ieir bantam - ac fel y ceiliogod yn y babell Ffwr a Phlu, roedd ynta'n clochdar yn fuddugoliaethus.

Yn y babell fwyd y g'nes i gyfarfod Iola, Iola Horran, ac 'roedd hithau hefyd wedi ennill gwobrau lu gan gynnwys y cerdyn coch am y bara brith gora' neu Bara Brithdir, fel y bydd o'n cael ei alw o hyn ymlaen yn ardal Dolgella'- gan mai hogan o'r dre ydi Iola.

Ac mae'n wir i ddeud fod pawb ddaeth i Sioe Meirion ar eu hennill.
'Dwi eisoes yn edrych ymlaen at Sioe Llansannan, ger Dinbych. Fanno y bydda' i ar Å´yl y Banc, ac yn Llanystumdwy y diwrnod canlynol yn crwydro o gwmpas TÅ· Newydd.

Mae tymor y sioeau yn dirwyn i ben, ond mae 'na un ddwy eto ar ôl, ac os 'da chi am hysbys i'ch sioe chi, neu unrhyw ddigwyddiad o bwys yn yr ardal, yna, cysylltwch efo fi - hywel@bbc.co.uk. Wela i chi yn Llansanan.

Enwogion Glyn Ceiriog

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 15:25, Dydd Iau, 26 Awst 2010

Sylwadau (0)

Yn Neuadd y pentre', sy'n dathlu ei phen-blwydd y flwyddyn nesa yn gant oed, mae 'na nifer o ffenestri lliw trawiadol, ac uwchben y llwyfan mae'r ffenestr fwyaf yn dangos llun o'r bardd enwog John Ceiriog Hughes, sydd ddim yn syndod gan mai fo ydi un o enwogion y cylch.

Fe'i ganwyd ar fferm Penybryn yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, ac mae'r neuadd, lle mae ei wyneb barfog, fictorianaidd i'w weld, ym mhentref Glyn Ceiriog.

Un arall o enwogion y pentref ydi Theo Davies, a 'dwi'n cofio holi Theo flynyddoedd yn ôl pan gafodd ei gomisiynu i wneud cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, Bro Delyn 1991. Gyda llaw, pwy enillodd y gadair honno? Ateb ar y diwedd.

Erbyn hyn mae Theo wedi ymddeol, ac mae'r meibion, Peris, Einion ac Arwyn, sy'n gofalu am y busnes. Cofiwch chi, mae Theo yn dal i gadw golwg arnyn nhw, ac fe fuon ni'n dau yn hel atgofion am yr hen amser, pan oedd o mewn busnes crefftau efo un o lenorion enwoca' Cymru - Islwyn Ffowc Ellis - a fo oedd yn gyfrifol am gynllunio'r arwydd uwchben y sied fechan lle'r oedd y crefftau Cymreig yn cael eu creu.

Bellach mae'r busnes gwneud dodrefn wedi tyfu ac eangu hefyd i feysydd meddygol a gofal, fel y cewch chi glywed yr wythnos nesa' ar Radio Cymru a rhaglen Nia Roberts (Dydd Llun Awst 30ain).

Mae'n bur debyg eich bod chi eisoes wedi sbecian ar yr ateb i'r cwestiwn - pwy eisteddodd yng nghadair Theo Davies, yn Eisteddfod Bro Delyn 1991.
A'r ateb? Robin Llwyd ap Owain, o Ruthun.

Cofiwch gysylltu efo mi os wyddoch chi am straeon yn eich ardal chi, ar gyfer gwasanaeth Radio Cymru. Yr e-bost ydi hywel@bbc.co.uk

Angelina a Sioe Meirionydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 11:11, Dydd Llun, 23 Awst 2010

Sylwadau (0)

Gwylio, dathlu, darllen, chwilio a ffarwelio, dyna fues i'n ei 'neud bwrw'r Sul.

Gwylio ffilm ddiweddara, Angelina Jolie, 'SALT'.
Mae'r wasg ar y cyfan wedi beirniadu SALT yn hallt - peidiwch â gwrando arnyn nhw. Mae hi'n ffilm gyffrous sy'n symud yn gyflymach nag mae Angelina yn neidio o do lori i do bws sy'n digwydd mynd heibio, er mwyn dianc oddi wrth yr heddlu sydd ar ei hôl hi.
Mae 'na fwy o droadau yn y stori na sy 'na yn yr A470, ac wrth gwrs, fel basach chi'n disgwyl, mae Angelia yn...yn......yn...wel yn Angelina. Dwy awr o fwynhad pur bnawn Sadwrn.

Wedyn y 'dathlu'. Dathlu pen-blwydd Aled Gwyn, y prifardd, ac un o fois Parcnest, mewn tafarn ar gyrion Caerdydd, lle mae 'na fwyd blasus ac awyrgylch gartrefol braf.

Fel mae hi'n digwydd, mae Aled yn byw rhyw 5 drws lawr y lôn, ac yn anffodus iddo fo, pan fyddai'n credu mod i o'r diwedd wedi llunio llinell o gynghanedd gywir, fe fyddai'n cnocio ar ei ddrws ac yn gofyn am ei farn.
Ac yn amlach na pheidio, yr ymateb dwi'n ei gael ydi: "Diawch. Oet ti'n weddol agos tro 'na!" Pen-blwydd hapus, Aled.

Yn llyfrgell y dre' y bûm i'n gwneud y chwilio. Ymchwilio i hanes Ryan a Ronnie, gan fod 'na gofiant ar y gweill i'r ddau. Darllen drwy ôl rifynnau'r Cymro a'r Western Mail, a'u gweld unwaith eto yn diddanu neuaddau llawn led-led Cymru. Os oes ganddoch chi stori amdanyn nhw, neu adnabyddiaeth bersonol ohonyn nhw - cysylltwch efo mi.

Ac yn olaf, ffarwelio. Ffarwelio efo un o'r meibion Huw, sydd ar ei ffordd y funud hon, heb flodau yn ei wallt, i San Francisco am bythefnos o wyliau.

Ac ar fy ffordd 'dw inna', i Glyn Ceiriog lle bydda i fory yn siarad efo criw o'r pentre' am yr ardal, ac yn ymweld â gweithdy Theo Davies a'i feibion. Wedyn teithio draw i ardal Harlech ar gyfer Sioe Meirionydd.

Ar hyn o bryd, a hithau'n hanner awr wedi wyth ar fore Llun, mae'r haul yn gwenu'n braf- ond mae 'na wellintons yn y bŵt, rhag ofn. Os 'da chi am glywed hanes Sioe Meirionydd ddydd Mercher, cofiwch wrando ar raglen Nia yn y bore, Jonsi yn y pnawn a Geraint Lloyd gyda'r nos, ar Radio Cymru. Hwyl am y tro.

Sioe Aberhosan

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 09:26, Dydd Gwener, 20 Awst 2010

Sylwadau (0)

Pan glywodd Nia Roberts mod i'n mynd i Sioe Aberhosan, fe ymledodd gwên fach chwareus dros ei hwyneb: "Reit" medda hi, ar ei rhaglen "Mae Hywel, yn Aberhosan bore 'ma, sydd ddim yn bell o Fachynlleth. Wyddoch chi am enwau llefydd eraill yng Nghymru sy'n cynnwys enw dilledyn o ryw fath? Ffoniwch fi ar 03703500500".

Aberteifi, Cardigan, Betws y Côt, Abersoc. Ond, och a gwae - nid Aberhosan oedd enw'r lle yn wreiddiol, er mai Aberhosan mae pawb yn ei ddeud ar lafar, ers yr 16ganrif pan ymddangosod yr enw am y tro cyntaf.

Yn ôl y Beibl ar darddiad enwau llefydd yng Nghymru - sef 'Enwau Llefydd yng Nghymru' - yr enw gwreiddiol oedd Aber y Rhosan, gan mai afon fechan yn llifo drwy rostir ydi'r Rhosan. Ac mae'r afon fechan yma yn ymuno â Nant Cynddu, i ffurfio'r afon Carrog.

Ta waeth, fe ges i ddiwrnod wrth fy modd yng nghwmni pobol Aberhosan a'r cylch ddoe yn y sioe flynyddol, a diolch i Iola Jones yr ysgrifennydd am drefnu'r cwbwl.

sioe_aberhosan2010-2.jpg

'Roedd 'na glamp o babell fawr wen ym mhen pella'r cae lle 'roedd y beirniaid yn un gornel yn brysur yn blasu'r cacennau, y pwdins, y jams a'r chytnis, i weld pa rai oedd yn haeddu'r cerdyn coch, a Bert Davies yn y gornel arall yn edrych yn graff ar faint y nionod, hyd y cennin, a chochni'r tomatos.

"Sioe 'bnawn ydi hon, cofiwch" medda Iola, pan gyrhaeddais y cae - a gwir y gair. Erbyn un o'r gloch 'roedd 'na geffylau yn prancio yn y cylch, defaid yn cael eu barnu, rhesau hir o hen dractorau wrth ymyl y castell gwynt, wedi cael eu hadnewyddu ac yn werth eu gweld, a chŵn o bob maint yn ennill cwpanau arian a rosets amryliw.

Do, fe ges i ddiwrnod wrth fy modd, ac fe lwyddon ni i rannu'r hwyl a'r gweithgarwch hefyd ar raglenni Nia, Jonsi a Geraint Lloyd. Fe fydd 'na gyfle i neud yr un fath eto'r wythnos nesa' pan fydda i'n treulio'r diwrnod yn Sioe Meirionydd, yn Harlech.

Gyda llaw, tra'n blogio, 'dwi 'di meddwl am le arall yn cynnwys enw dilledyn- Castell y Beret! Os fedrwch chi feddwl am fwy, wel cofiwch 'mod i ar Facebook neu anfonwch e-bost i hywel@bbc.co.uk neu'n well byth- cysylltwch efo Nia!

sioe_aberhosan2010-1.jpg

Sioe Sir Benfro 2010

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:17, Dydd Mercher, 18 Awst 2010

Sylwadau (0)

sioe_penfro_2010_1.jpg

Awyr lwyd, glaw mân, a chroeso cynnes. Dyna oedd yn fy aros i ar gae Sioe Penfro, y sioe fwyaf yng Nghymru, ar wahân i'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Erbyn diwedd y prynhawn roedd yr awyr lwyd, yn las, a'r glaw mân wedi cilio, a phawb yn eu hwyliau, yn crwydro o gwmpas y safle enwog. 'Roedd 'na wartheg duon yn cerdded o amgylch un cylch a chobiau Cymreig yn prancio'n llawn bywyd yn y cylch arall ac o 'nghwmpas i ym mhobman, stondinau amrywiol a phebyll yn cynnig cyngor, anrhegion, byrgyrs, lluniau, dillad, offer i lanhau carpedi, a thrugareddau o bob math.

Roeddwn i wedi trefnu cyfarfod Siân James un o ferched Brian Llywelyn perchennog tafarn enwog a hynafol Rosebush, neu'r 'Dafarn Sinc' fel mae hi'n cael ei hadnabod am reswm amlwg. Tra 'roedd dad adre yn sicrhau fod y cwrw yn y casgenni yn barod ar gyfer yfwyr sychedig y nos, 'roedd Siân ar gae'r sioe yn ceisio temtio'r ffermwyr i wario'u pres.

Ar y llaw arall, cynnig help ariannol i fusnesau bychain yr oedd Dai Davies, hogyn o Lanberis yn wreiddiol, ond bellach yn byw yn y Drenewydd, ac yn treulio'r cyfnod yma, fel finna', yn crwydro Cymru o sioe i sioe.

Yn y babell fwyd fe ddois i ar draws Anne Davies a Mandy Phillips wrthi'n profi teisennau a phot neu ddau o jytni, yn rhinwedd eu gwaith fel beirniad.
Ac fe alla i gadarnhau be' ddwedodd Anne Davies am y cacennau -roeddan nhw'n 'ffein' iawn, iawn.

Taith braf iawn, sydd o fy mlaen i heddiw, dros y Bannau i Fachynlleth, ac yna bore fory fe fydda i ar gae sioe Aberhosan - safle dipyn llai na safle sioe Penfro- ond yn sioe bwysig iawn i'r ardal, ac yn gyfle gwych i gyfarfod mwy o bobol ddiddorol.

Fe gewch chi glywed rhai ohonyn nhw'n siarad ar raglen Nia bore fory, wedyn yn y pnawn ar raglen Jonsi, a gyda'r nos ar raglen Geraint Lloyd.
Cofiwch gysylltu os 'da chi am i mi ddod i'ch ardal chi -hywel@bbc.co.uk

'Sgwn i fydd na ddarn o Victoria Sponge, neu Vanilla Slice yn fy nisgwyl i yn Sioe Aberhosan?

sioe_penfro_2010_2.jpg

A Bu Distawrwydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:57, Dydd Llun, 16 Awst 2010

Sylwadau (0)

Do wir, ers y 'steddfod mae petha' wedi arafu dipyn, a'r fan las a finna' wedi cael seibiant. Wel, seibiant o fath.

Mae hi wedi bod yn wythnos o baratoi, edrych ymlaen, edrych o gwmpas, gweld beth sy'n digwydd. Fel canlyniad mae'r crwydro'n dechrau 'fory, pan fyddai'n codi'n blygeiniol yn teithio i Hwlffordd ac yn treulio diwrnod yn Sioe Penfro. Fe gewch chi hanesion o'r sioe ar raglen Nia yn y bore, Jonsi yn y p'nawn a Geraint Lloyd gyda'r nos.

Dydd Iau fe fydda' i yn Sioe Aberhosan, rhyw ychydig filltiiroedd o Fachynlleth, yn profi'r cynyrch lleol. Ac efallai y cawn ni gyfarfod ymhen yr wythnos yn Sioe Meirionydd ar gyrion Harlech.

hywel_car.jpg

Cyn bo hir 'dwi am gymryd rhyw wythnos o wyliau-o gwmpas dechra' Tachwedd. Pan dwi'n son am fy mwriad wrth ffrindiau a chydweithwyr, yr ymateb fel arfer ydi edrych yn syn , neu chwerthin yn afreolus , oherwydd fy mod i'n gymaint o wyrcaholic. Cofiwch chi fe fyddai rhai yn gofyn "Sut mae crwydro Cymru yn siarad efo pobol yn cael ei gyfrif yn waith?" Ella bydd hwnnw'n gwestiwn fydd yn cael ei ofyn yn Lol y flwyddyn nesa'! Ond mae 'na elfen o wirionedd ymhlyg yn y cwestiwn.

'Dwi'n cyfrif fy hun yn ffodus yn cael y rhyddid i deithio a gweithio. Ta waeth. 'Dwi ddim yn mynd ymhell, dim ond i Sir Benfro ac ardal Trefdraeth , neu Tudraeth fel mae o'n cael ei alw'n lleol. Gneud dim, fydd y nod, a threulio wythnos gyfa' yn 'i neud o. Cerdded ychydig, darllen dipyn a bwyta mwy.

Cyn hynny, fodd bynnag, fe fyddai'n crwydro Cymru unwaith eto, ac os oes yna ddigwyddiad neu stori yn eich ardal chi, sy'n haeddu sylw cenedlaethol, anfonwch ebost i hywel@bbc.co.uk

Cynan a fi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:26, Dydd Gwener, 6 Awst 2010

Sylwadau (0)

1957 oedd hi. Bu farw Humphrey Bogart, Toscanini, Sibelius a Gigli. Penodwyd Harol Macmillan yn brif weinidog. Anfonodd Rwsia y roced gyntaf i'r gofod, ac yn ddiweddarach, ar ôl y Sputnik, fe aeth y ci bach, Leika, i fynny i weld sut le oedd ynno. Daeth y 'beatniks' i'r amlwg efo'i geirfa newydd-'dig', 'hip' a 'groovy', ac roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni, lle 'roedd yr actor Hugh Griffith yn edrych yn weddol 'groovy' yn ei wisg wen orseddol newydd. Gyda llaw 'does 'na ddim gwirionedd yn y stori ei fod o wedi gwisgo'r wisg wen ar gyfer ei ran fel y Sheik yn y ffilm enwog 'Ben Hur' ddwy flynedd yn ddiweddarach.

1958_cynananeurinpaul.jpg

Fe ddaeth atgofion yn ôl i mi o'r eisteddfod honno, yn fy nhref enedigol, yn 1957, ar ôl gweld llun o Cynan yng nghwmni Paul Robeson, yn eisteddfod Glyn Ebwy ym 1958. Comisiynwyd Cynan i ysgrifennu drama ar gyfer y Genedlaethol yn Llangefni , ac fe gefais i ran yn y ddrama honno-Absalom fy mab, yn rhanol, mae'n bur debyg, oherwydd fy mod i ar y pryd, yn actio dipyn ar y radio i'r Â鶹ԼÅÄ, o Neuadd y Penrhyn, Bangor.

Yn y ddrama, fi oedd Meffiboseth, y bachgen cloff. Ond gan nad oeddwn yn gallu cofio fy llinellau, ac oherwydd nerfusrwydd, yn baglu dros fy ngeiriau, fe ail fedyddiwyd Meffiboseth yn Mess o bobpeth! Yn ychwanegol at y broblem o gofio fy ngeiriau, fe gododd problem arall yn gysylltiedig ar ffaith fy mod i'n gloff, yn y ddrama. Yn anffodus roedd y cloffder hwnnw, yn symud o'r naill goes i'r llall gan ddibynnu ar gyfeiriad fy ngherddediad, ac o dan pa fraich yr oedd y ffon fagl ar y pryd. Wrth groesi'r llwyfan o'r dde i'r chwith, y goes dde oedd y broblem. Yna, yn wyrthiol (neu efallai y dylwn ddweud 'yn amaturaidd') byddai'r goes dde yn gwella, ar goes chwith yn mynd yn ddiffrwyth.

Prin iawn fu'r amser ymarfer. Ni chyrhaeddodd ein dillad o storfa yn Birmingham mewn pryd ac felly 'roedd yn rhaid dibynnu ar unrhyw ddilledyn Beiblaidd yr olwg (pyjamas, sandalau, llian golchi llestri, gwisg laes) oedd yn digwydd bod o gwmpas y tÅ·, ac heb os roedd y drychineb thetarig yma yn dwyn i gof ffawd y Titanic.

Ar y noson agoriadol, yn Neuadd y Dref Llangefni, 'roedd Cynan yn eistedd yn y sedd flaen, yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld perfformiad cofiadwy o'i ddrama fawr. Ac heb os, fe fyddai'n cofio'r perfformiad am flynyddoedd i ddod, ond nid am y rhesymau cywir, 'roedd y duwiau yn ein herbyn. Boddodd y storm o fellt a tharanau a glaw dibaid, leisiau'r actorion. Aeth y golau allan ar ddiwedd yr act gynta, ac aeth Cynan allan ar ddiwedd yr ail,"ac a wylodd yn chwerw dost" mae'n bur debyg i mewn i wisgi mawr yn y Bull Hotel.

Llythyr am Gwm Rhymni

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 14:32, Dydd Iau, 5 Awst 2010

Sylwadau (0)

Yda' chi'n cofio'r hen amser flynyddoedd maith yn ôl, pan oedd Daniel Owen yn hogyn a Kate Roberts yn dringo'r mynydd efo'i ffrindia bach i chwarae yn yr haul a chael te yn y grug?

Os ydach chi yna mi ydach chi hefyd yn cofio'r hen arferiad o 'sgwennu eich hanes ar ddarn o bapur, ei roi o mewn amlen, a'i stwffio fo i mewn i dwll yn y wal. Ymhen amser fe fyddai'r darn paur hwnnw yn cyrraedd pen ei daith, a'r derbynydd yn gallu mwynhau ei gynnwys. Os cofia i'n iawn 'llythyr' oedd yr enw ar y darn papur hwnnw.

Beth bynnag 'does na neb yn anfon 'llythyrau' (sef mwy nag un 'llythyr') at eu gilydd, ac o'r herwydd mae nhw wedi mynd yn drysorau prin iawn. Dyna pam yr oeddwn i wedi cyffroi y diwrnod o'r blaen ar ôl derbyn llythyr ar bapur gwyn, mewn ysgrifen du, taclus.

eisteddfod_llythyr.jpg

Cynthia Dodd ydi'r llythyrwr, ac mae hi'n byw ym Mhontardawe.Ond fe'i magwyd hi yn Rhymni, un o drefi Blaenau Cymoedd, ac 'roedd hi'n teimlo y dylai rhaglen a ddarlledwyd ar Radio Cymru yn ddiweddar, lle 'roeddwn i'n crwydro bro'r Eisteddfod, fod wedi rhoi mwy o sylw i Gwm Rhymni.

Pam? Wel mae llythyr Cynthia yn esbonio. Dim sôn am Thomas Jones, un o wyr enog Rhymni, ac-Ysgrifenydd y Cabinet pan oedd Lloyd George yn weinidog. A dyna i chi Y Parchedig Rhys Bowen. Mae'r brif wobr i'r partion llefaru yn yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ei henwi ar ei ol-ymladdwr diflino dros yr iaith, ac addysg Gymraeg. Nac anghofiwn Ysgol y Lawnt, ar safle hen gartre un o'r meistri haearn Syr Benjamin Hall, gŵr Arglwyddes Llanofer a'r dyn yr enwyd y Big Ben ar ei ôl. Am ei fod o'n 'big boy' yn ôl yr hanes - hynny ydi yn dal iawn. Dyma i chi ffaith ddiddorol yn llythyr Cynthia yn gysylltiedig ac Eistedddod Glyn Ebwy 1958 - merch o'r Rhymni oedd yn cyflwyno'r aberthged ar ran Mamau'r Fro. Ond mae dylanwad Rhymni yn parahu hyd heddiw, ac yn wir heddiw'r pnawn 'roedd na gyfarfod yn y Babell Lên i ddathlu bywyd a gwaith Hywel Teifi Edwards. A phwy oedd yn gyfrifol am y trefniadau - merch o'r Rhymni Sioned Williams.

Diolch yn fawr i chi Cynthia am anfon y llythyr ata i, ac erbyn diwedd y 'Steddfod yma fe fyddai wedi defnyddio nifer fawr o'r ffeithiau eraill sydd yn eich llythyr. Ac felly os bydd pobol yn dweud "Ew! Ma' Hywel Gwynfryn yn gwbod popeth am yr ardal yma" mi fyddai'n gwennu ac yn deud "I Cynthia mae'r diolch."

O Batagonia yn ôl i Gymru

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:07, Dydd Mercher, 4 Awst 2010

Sylwadau (0)

Mae fy nghysylltiad i a Patagonia (ydio'n treiglo? Phatagonia? Cofiaf i mi unwaith dreiglo Basingstoke -"Gadewch i ni weld beth sy'n digwydd ym Masinstoke." A beth am gravy a golf? Mwy o ravy, gêm o olff) Gadewch i mi ddechrau eto.

Mae fy nghysylltiad i a'r Wladfa yn mynd yn ôl ddwy ganrif i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyna pryd y penderfynodd fy nhadcu, David Evans, ffarwelio a Chydweli, gadael 10, Bridge Street a mynd i'r Wladfa.

Yn ôl yr hanes 'roedd o wedi meddwl mynd ar y Mimosa, ond pan glywodd o mai John ac Alun oedd yn gyfrifol am yr adloniant fe arhosodd o am y cwch nesa'. (Tydi 'cwch' ddim yn treiglo, onibae eich bod chi'n dwad o Sir Fôn, lle 'da ni'n dueddol o son am 'y gwch' )

Byr iawn fu arhosiad fy nhadcu ym Mhatagonia, ac yn ôl ffrind mawr i fy nhad, y diweddar Tom Gravell, pan ddychwelodd o, roedd o'n gwisgo poncho, het Fexicanaidd ei maint ar ei ben, a pharot ar ei ysgwydd. Fe'i hail fedyddiwyd gan bawb yn Dai Patagonia.

Gan mlynedd a mwy yn ddiweddarach fe es i draw i Batagonia yng nghwmni Rhisiart Arwel, gitarydd, cynhyrchydd a siaradwr Sbaeneg, er mwyn darlledu Eisteddfod y Gaiman yn fyw ar Radio Cymru. Rhywsut neu'i gilydd fe lwyddon ni.

Un o'r atgofion sy'n aros yn fy meddwl i am y daith honno, ydi aros am dacsi oedd wedi cael ei drefnu, er mwyn i mi allu dychwelyd i'r Gaiman lle 'roeddwn i'n aros. Yn brydlon am 8 cyrhaeddodd y tacsi, agorodd y ffenest, ac fe ddaeth pen allan yn perthyn i Louvane James. "Esgusodwch fi" medda hi, "Ai chi yw y Cymro tal sydd isho mynd i'r Gaiman" Roedd clywed gyrrwr tacsi yn siarad Cymraeg ar y stryd mewn tref yn Ne America yn dipyn o sioc, ac fe ges i sioc debyg fwy nag unwaith yn ystod fy ymweliad.

eisteddfod_patagonia2.jpg

Un diwrnod, (ac fe gymerodd ddiwrnod cyfa hefyd) fe es i ar draws y paith, i dref Esquel wrth droed yr Andes i gyfarfod Edith Macdonald, a aned ar fferm Coed Newydd Trelew. 'Dwi'n gobeithio ei chyfarfod hi eto heddiw ar faes y Brifwyl, gan mai hi ydi Arweinydd Cymru a'r Byd.

Roedd Edith yn un o sylfaenwyr Ysgol Gerdd Talaith Chubut, ac un gefnogwr brwd i Gynllun yr iaith Gymraeg yn Chubut,ac mae hi a'i chor newydd fod ar daith o amgylch Cymru. Fe fydd hi'n anerch y dorf yn y Pafiliwn y prynhawn yma ar ddechrau Seremoni'r Fedal Ryddiaeth, ac fe gewch chi glywed ei hanerchiad a mwynhau y Seremini hefyd ar Radio Cymru. Gyda llaw ame'r cystadlu yn y pafiliwn yn para tan rhyw unarddeg heno, ac fe fydd Radio Cymru yn darlledu'r cyfan. Tan y pnawn 'ma- Hasta la Vista.

eisteddfod_patagonia.jpg

Â鶹ԼÅÄ Eisteddfod - Merch cerdd yn arwain

Dydd Mawrth yn yr Eisteddfod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:56, Dydd Mawrth, 3 Awst 2010

Sylwadau (0)

Os oedd Napolen yn iawn, yna, er mwyn sicrhau fod eich milwyr ar eu gora', 'roedd hi'n hanfodol eich bod chi'n eu bwydo nhw.

C'est la soupe qui fait le soldat. Dyna ddudodd-medda nhw. Yr hyn o'i gyfieithu'n llythrenol yw " Os oes 'na gawl ym mol eich milwr, fe neith o fartchio drwy'r dydd. Efallai ein bod ni'n fwy cyfarwydd a'r ymadrodd yn Saesneg "An army marches on it's stomach"

Dim ots am yr iaith, mae'r hyn ddudodd yr hen Boni, yn berffaith wir- gofynwch i'r fyddin o weithwyr sy'n sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod yma. Y genod a'r hogia o bob cwr o Gymru sydd wedi bod y gweithio'n ddygn yn paratoi'r safle'r hen waith dur yma yng Nglyn Ebwy, er mwyn i ni gael mwynhau yr Eisteddfod. Agor traenia', gosod cebls, creu ffyrdd, codi'r babell, llenwi tylla', cario cerrig, mae'r gwaith yn ddiddiwedd.

eisteddfod_brecwast.jpg

Cofiwn yr adnod 'Eraill a lafuriasant, ninnau a aethom i mewn i'w llafur hwynt.' Ond beth sydd gan hyn i gyd i'w wneud efo byddin Napoleon a stumogau ei filwyr. Wel, am hanner awr wedi saith bob bore, mae 'na gaffi ar y Maes, sy'n weddol guddiedig, yn agor ei ddrysau, ac yno y bydd y fyddin o weithwyr yn mynd am frecwast, nad oes eu debyg. Brecwast fydd yn eu cynnal drwy'r dydd, wel, tan amser cinio o leia. A phwy sy'n gyfrifol am fwydo'r fyddin? Ffarmwr o'r Bala, Dylan Lloyd, Ferm Cwm Tylo, a Craig y cogydd. Fe gychwynodd y ddau 'llynedd a'r newyddion da ydi y bydd y fyddin yn cael eu bwydo eto ganddyn nhw yn eisteddfod Wrecsam.

eisteddfod_brecwast2.jpg

A beth sydd ar y fwydlen yn foreol? Cig moch, bêc bîns, sosej, wy, tomato, tost, te, a chroeso cynnes. Fel un sydd wedi profi y wledd foreol fe allai eich sicrhau chi y byddai platiad o frecwast y gweithwyr yn eich galluogi i fartchio o faes y Steddfod ac o amgylch Blaenau'r cymoedd, deirgwaith. Ond cofiwch fynd a set Radio efo chi, er mwyn clywed darllediadau Radio Cymru o'r Maes rhwng 10.30 ac 1 o'r gloch ac yna yn y prynhawn rhwng 2 a 5.30

Diwrnod y Coroni

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 10:49, Dydd Llun, 2 Awst 2010

Sylwadau (0)

Ar y tren i Lyn Ebwy ac yn darllen rhaglen y dydd. Mae hi'n ddiwrnod y coroni - gobeithio.

Llynedd 'roedd y brifardd Iwan Llwyd yn cadw cwmni i mi ar y radio yn ystod y seremoni, pan goronwyd Ceri Wyn Jones. Bellach mae Iwan wedi'n gadael. Bardd y gadair yn y flwyddyn yr enillodd Iwan y goron oedd y Prifardd Myrddin ap Dafydd, ac mae ei gywydd sy'n dathlu bywyd Iwan ac yn tristau o'i golli yn y rhifyn cyfredol o Barn yn cyffwrdd i'r byw.

Yn Eisteddfod Glyn Ebwy, fe enillwyd y goron a'r gadair gan ddau lew. T. Llew Jones yn ennill y gadair a Llywelyn Jones, yn cael ei goroni, ac fe fydd Carys Jones, merch Llywelyn Jones yn y pafiliwn heddiw, yn gwylio'r seremoni. Mewn llythyr a anfonodd at yr Eisteddfod mae hi'n dwyn i gof y diwrnod hapus hwnnw pan goronwyd ei thad.

"Dim ond deg oed oeddwn i ar y pryd ond 'dwi'n cofio bob munud ohono. Mae'r goron fel newydd mewn cabinet. Roedd Lambert Gapper a gynlluniodd y goron yn byw drws nesaf ac yn wir rwy'n cofio fy nhad yn mynd yno i'w gweld. Wrth gwrs 'doedd o ddim yn gwybod ar y pryd hynny y byddai'n ei henill. Ar ol iddo enill, dwi'n cofio mynd ar goron draw i Ysbyty Aberystwyth i'r Matron gael ei gweld, oherwydd mai ei thad oedd wedi talu £150 am y goron."

Cofiwch ymuno a ni heddiw am ein darllediadau o'r Eisteddfod ar Radio Cymru rhwng 10.30 ac i, ac yna rhwng 2 a 6. Fe fydd seremoni'r Coroni am 4.30-gobeithio!

Bandiau pres a phebyll beirniaid

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 09:43, Dydd Sul, 1 Awst 2010

Sylwadau (0)

Singing in the Rain; thema o un o ffilmiau James Bond; un o ganeuon Elton John. Dyna glywson ni ar lwyfan y pafiliwn yn ystod cystadlaethau y bandiau. Fe ddaeth 'na ugain o fandiau i'r gwahanol gystadlaethau, pedwar ohonyn nhw wedi teithio o'r gogledd -Seindorf Arian yr Oakley, Band Tref Llandudno, Seindorf Arian Deiniolen a Band Llanrug.

Rhiannon a Hywel

Band RAF Sain Tathan

Ein cwmni ni, Rhiannon a finna', yn y cwt cerddorol oedd Julian Jones, arweinydd Band Pres Crwbin, ac roedd eleni yn flwyddyn hanesyddol. Pam? 'Roedd y beirniad yn weladwy. Fel arfer mae'r beirniad yn anweledig mewn pabell ynghanol y pafiliwn. 'Doedd ganddo ddim syniad pa fand oedd ar y llwyfan, a phan oedd o'n barod i feirniadu 'roedd o'n chwythu chwiban. Y cwestiwn mawr ydi - beth yn union oedd y beirniad yn ei wneud yn ei babell? Oedd ganddo wely yno, cyfleusterau i goginio bwyd iddo fo'i hun, jacuzzi er mwyn ymlacio? Pwy a ŵyr.

'Rwan, os 'da chi'n credu fod yr olygfa 'dwi newydd ei disgrifio yn debyg i sgetsh gan Monty Python a'i griw - mae 'na well i ddod. Oherwydd, er fod y beirniad cuddedig bellach i'w weld yn ei holl ogoniant ac yn gwybod yn iawn pwy sy'n cystadlu, 'does gan yr arweinydd ar y llwyfan ddim hawl i enwi'r band, er ei fod o'n cael enwi'r arweinydd. Pwy a ŵyr efallai mae'r cam nesa fydd gwneud i'r bandiau wisgo mygydau fel na fedran nhw weld y beirniad.

'Doedd na ddim cyfle i grwydro'r maes ddoe, ar wahân i bicio draw i'r pafilwin bwyd am focs o reis a chyri cyw iar. Ond fe fydd na fwy o gyfle heddiw gan ein bod ni'n cychwyn ein darlledu'n hwyrach ar Radio Cymru - o 2 tan 6 heno. Mwy o fandiau prynhawn 'ma, yn ogystal â'r unawd piano, â'r unawd i offerynnau pres a'r corau dan 35 o leisiau. Un o'r corau sy'n cystadlu ydi côr Glanaethwy sydd newydd ddychwelyd ar ôl bod yn cystadlu mewn Mabolgampau Cerddorol yn China.

Fe ges i gipolwg ar Rhys Lloyd ar y Maes. Mae o a'i frawd Gwyn a'u chwaer Nest yn hel atgofion am eu tad y bardd O M Lloyd yn y Babell Lên heddiw am chwarter i ddau. Mae gen i atgofion plentyn o fod yn stiwdio'r Â鶹ԼÅÄ yn Neuadd y Penrhyn yn cyd-actio o flaen y meic efo Rhys. Os 'dwi'n cofio'n iawn, cyfres hanesyddol oedd hi: 'Ar Grwydr yng Nghymru'.

Gyda llaw am hanner dydd mae Gwilym Roberts yn cynnal gweithdy ar Maes D i ddysgu'r Anthem Genedlaethol. Oes 'na rhywun wedi gweld John Redwood ar y Maes?

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.