Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Angelina a Sioe Meirionydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 11:11, Dydd Llun, 23 Awst 2010

Gwylio, dathlu, darllen, chwilio a ffarwelio, dyna fues i'n ei 'neud bwrw'r Sul.

Gwylio ffilm ddiweddara, Angelina Jolie, 'SALT'.
Mae'r wasg ar y cyfan wedi beirniadu SALT yn hallt - peidiwch â gwrando arnyn nhw. Mae hi'n ffilm gyffrous sy'n symud yn gyflymach nag mae Angelina yn neidio o do lori i do bws sy'n digwydd mynd heibio, er mwyn dianc oddi wrth yr heddlu sydd ar ei hôl hi.
Mae 'na fwy o droadau yn y stori na sy 'na yn yr A470, ac wrth gwrs, fel basach chi'n disgwyl, mae Angelia yn...yn......yn...wel yn Angelina. Dwy awr o fwynhad pur bnawn Sadwrn.

Wedyn y 'dathlu'. Dathlu pen-blwydd Aled Gwyn, y prifardd, ac un o fois Parcnest, mewn tafarn ar gyrion Caerdydd, lle mae 'na fwyd blasus ac awyrgylch gartrefol braf.

Fel mae hi'n digwydd, mae Aled yn byw rhyw 5 drws lawr y lôn, ac yn anffodus iddo fo, pan fyddai'n credu mod i o'r diwedd wedi llunio llinell o gynghanedd gywir, fe fyddai'n cnocio ar ei ddrws ac yn gofyn am ei farn.
Ac yn amlach na pheidio, yr ymateb dwi'n ei gael ydi: "Diawch. Oet ti'n weddol agos tro 'na!" Pen-blwydd hapus, Aled.

Yn llyfrgell y dre' y bûm i'n gwneud y chwilio. Ymchwilio i hanes Ryan a Ronnie, gan fod 'na gofiant ar y gweill i'r ddau. Darllen drwy ôl rifynnau'r Cymro a'r Western Mail, a'u gweld unwaith eto yn diddanu neuaddau llawn led-led Cymru. Os oes ganddoch chi stori amdanyn nhw, neu adnabyddiaeth bersonol ohonyn nhw - cysylltwch efo mi.

Ac yn olaf, ffarwelio. Ffarwelio efo un o'r meibion Huw, sydd ar ei ffordd y funud hon, heb flodau yn ei wallt, i San Francisco am bythefnos o wyliau.

Ac ar fy ffordd 'dw inna', i Glyn Ceiriog lle bydda i fory yn siarad efo criw o'r pentre' am yr ardal, ac yn ymweld â gweithdy Theo Davies a'i feibion. Wedyn teithio draw i ardal Harlech ar gyfer Sioe Meirionydd.

Ar hyn o bryd, a hithau'n hanner awr wedi wyth ar fore Llun, mae'r haul yn gwenu'n braf- ond mae 'na wellintons yn y bŵt, rhag ofn. Os 'da chi am glywed hanes Sioe Meirionydd ddydd Mercher, cofiwch wrando ar raglen Nia yn y bore, Jonsi yn y pnawn a Geraint Lloyd gyda'r nos, ar Radio Cymru. Hwyl am y tro.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.