麻豆约拍

Diagramau Venn

Er mwyn defnyddio diagramau Venn wrth siarad am ddigwyddiadau, rhaid i ni鈥檔 gyntaf ddeall y term 鈥榗yd-anghynhwysol鈥. Dychmyga fod yna ddau ddigwyddiad: digwyddiad A a digwyddiad B. Os na all y ddau ddigwydd ar yr un pryd, yna mae A a B yn gyd-anghynhwysol.

Enghraifft

Mae Jim yn mynd i daflu dis.

Gad i ni ddweud mai digwyddiad A yw taflu odrif a digwyddiad B yw taflu鈥檙 rhif 2. Yn amlwg, mae鈥檙 ddau ddigwyddiad hyn yn gyd-anghynhwysol gan nad yw鈥檔 bosib i ti daflu rhif 2 ac odrif wrth daflu鈥檙 dis unwaith yn unig.

Gallwn gynrychioli hyn ar ddiagram Venn fel hyn:

Diagram Venn gyda dau gylch ar wah芒n wedi eu labelu ag A a B.

Mae鈥檙 ffaith nad yw鈥檙 ddau gylch yn gorgyffwrdd yn dangos bod y ddau ddigwyddiad yn gyd-anghynhwysol.

Golyga hyn fod y tebygolrwydd y bydd A neu B yn digwydd = Tebygolrwydd A + tebygolrwydd B.

Ysgrifennwn hyn fel P(A neu B) = P(A) + P(B).

Fe edrychwn ni ar ail enghraifft 鈥 digwyddiad A yw cael eilrif a digwyddiad B yw cael rhif sy鈥檔 fwy na 3. Nid yw鈥檙 digwyddiadau hyn yn gyd-anghynhwysol gan ein bod yn bodloni鈥檙 ddau faen prawf os byddwn yn taflu 4 neu 6.

Diagram Venn gyda dau gylch yn gorgyffwrdd.

Mae 4 a 6 yn cael eu gosod yn y rhan sy鈥檔 gorgyffwrdd yn y canol gan eu bod yn cynrychioli canlyniadau sy鈥檔 bodloni鈥檙 ddau ddigwyddiad.

Golyga hyn fod y tebygolrwydd y bydd A neu B yn digwydd yn hafal i debygolrwydd A + tebygolrwydd B 鈥 tebygolrwydd A a B.

P(A neu B) = P(A) + P(B) 鈥 P(A a B).

Gad i ni weld a yw hyn yn gywir:

Mae P(A neu B) yn golygu鈥檙 tebygolrwydd o gael eilrif neu rif sy鈥檔 fwy na thri. Golyga hyn ein bod yn llwyddo os cawn ni {2,4,6} neu {4,5,6} felly, mewn geiriau eraill, rydyn ni鈥檔 llwyddo os cawn ni {2,4,5,6}.

Tebygolrwydd hyn yw \(\frac{4}{6}\).

Ystyr P(A) yw鈥檙 tebygolrwydd o gael eilrif. Golyga hyn ein bod yn llwyddo os cawn ni {2,4,6}, felly鈥檙 tebygolrwydd yw \(\frac{3}{6}\).

Ystyr P(B) yw鈥檙 tebygolrwydd o gael rhif sy鈥檔 fwy na thri. Golyga hyn ein bod yn llwyddo os cawn ni {4,5,6}, felly tebygolrwydd hyn hefyd yw \(\frac{3}{6}\).

Ystyr P(A a B) yw鈥檙 tebygolrwydd o gael eilrif sydd hefyd yn fwy na 3. Golyga hyn ein bod yn llwyddo os cawn ni {4,6}, felly鈥檙 tebygolrwydd yw \(\frac{2}{6}\).

\(\frac{4}{6}~=~\frac{3}{6}~+~\frac{3}{6}~-~\frac{2}{6}\). Felly mae鈥檙 fformiwla鈥檔 gweithio.

Yn yr adran flaenorol, roedden ni鈥檔 defnyddio鈥檙 nodiant P(A a B) sy鈥檔 cael ei alw鈥檔 A croestoriad B. Dyma鈥檙 canlyniadau sy鈥檔 bodloni digwyddiad A a digwyddiad B - ysgrifennwn hyn fel P(A 鈭 B) a dyma鈥檙 rhan sy鈥檔 gorgyffwrdd ar y diagram Venn.

Fe wnaethon ni hefyd ddefnyddio鈥檙 nodiant P(A neu B) sy鈥檔 cael ei alw鈥檔 A uniad B. Dyma鈥檙 canlyniadau sy鈥檔 bodloni naill ai digwyddiad A neu ddigwyddiad B ac ysgrifennwn hyn fel:

P(A 鈭 B)

Mae鈥檔 cael ei gynrychioli gan y ddau gylch ar y diagram Venn, gan gynnwys y rhan sy鈥檔 gorgyffwrdd.

Mae鈥檔 bwysig i ni nodi bod yr holl ganlyniadau sydd ddim yn bodloni digwyddiad A yn cael eu hysgrifennu fel A鈥. Cyflenwad A yw鈥檙 enw arno, ac mae鈥檔 cael ei gynrychioli gan yr holl ardal sydd y tu allan i gylch A ar y diagram Venn.

Question

Mae bag yn cynnwys 4 p锚l werdd, 3 p锚l goch a 7 p锚l o liwiau eraill. Llunia ddiagram Venn ar gyfer yr wybodaeth hon.

Question

Llunia ddiagram Venn ar gyfer canlyniad g锚m rygbi lle mae digwyddiad A yn cynrychioli鈥檙 t卯m cartref yn sgorio cais a digwyddiad B yn cynrychioli鈥檙 t卯m cartref yn ennill y g锚m.