麻豆约拍

Mathau o gwestiynau

Y mathau gwahanol o gwestiynau sy'n gallu cael eu defnyddio mewn holiadur yw:

  • cwestiynau aml-ateb/cwestiynau rhestr wirio

Cwestiynau agored

Mae cwestiynau agored yn tueddu i gael eu defnyddio pan fydd ymchwilwyr yn chwilio am wybodaeth ansoddol. Mae gwybodaeth ansoddol yn ceisio egluro pam a sut mae pobl yn ymddwyn mewn ffordd benodol. Mae鈥檔 rhoi gwybodaeth fanwl am ymddygiad dynol.

Dyma enghraifft o gwestiwn agored.

Beth yn eich barn chi yw鈥檙 prif ffactorau sy鈥檔 achosi gordewdra yn y Deyrnas Unedig?

Byddai鈥檙 sawl sy鈥檔 llenwi鈥檙 holiadur yn rhoi ymateb mewn blwch sy鈥檔 cael ei ddarparu, neu鈥檔 gadael i鈥檙 cyfwelydd lenwi鈥檙 blwch ar ei ran.

Er hyn, mae鈥檔 bosibl troi cwestiynau agored sy鈥檔 arwain at wybodaeth ansoddol yn gwestiynau caeedig.

Os yw'r ymchwilydd yn chwilio am wybodaeth feintiol, mae鈥檔 bosibl mesur gwybodaeth feintiol a鈥檌 hysgrifennu mewn rhifau. O ganlyniad, bydd y data hyn yn cael eu dadansoddi gan ddefnyddio dulliau mathemategol.

Efallai bydd y cwestiwn yr un fath, ond byddai dewisiadau penodol yn cael eu hychwanegu er mwyn llywio atebion yr ymatebwr, ee

Beth yn eich barn chi yw鈥檙 prif ffactorau sy鈥檔 achosi gordewdra yn y Deyrnas Unedig? Ticiwch y rhai sy鈥檔 berthnasol.

Holiadur 芒 blychau i'w ticio gyferbyn 芒 datganiadau, a blwch yn dweud  'Os gwnaethoch ddewis 'Arall', rhowch fwy o fanylion yma:'.

Yn aml iawn mae categori 鈥榓rall鈥 yn cael ei ychwanegu, oherwydd mae鈥檔 bosibl na fydd yr ymchwilydd wedi meddwl am bob ateb posibl.

Cwestiynau caeedig

Mewn cwestiynau caeedig, rhaid i鈥檙 ymatebwyr ddewis ymateb penodol, hyd yn oed os mai 鈥榓rall鈥 neu 鈥榙dim yn gwybod鈥 yw鈥檙 ymateb, ee

Yn eich barn chi, ai diffyg ymarfer corff sydd wrth wraidd gordewdra yn y Deyrnas Unedig?

Bydd yr ymatebwyr yn gallu ateb ie, nage, ddim yn gwybod neu ymhelaethu ar eu barn yn y categori 'arall'.

Cwestiynau aml-ateb/cwestiynau rhestr wirio

Weithiau nid yw ymchwilwyr eisiau cyfyngu ar nifer yr ymatebion. Efallai byddan nhw eisiau i'r ymatebwyr ddewis faint bynnag o鈥檙 ymatebion sy鈥檔 berthnasol. Mae dau enw ar y math yma o gwestiynau, sef cwestiynau aml-ateb neu gwestiynau rhestr wirio.

Rhestr a'r geiriau 'Rho gylch o amgylch y gweithgareddau allgyrsiol sydd o ddiddordeb i ti': Mae cylch coch o amgylch Clwb gwyddbwyll, Clwb badminton a Chlwb mathemateg.

Question

Os wyt ti鈥檔 ymchwilio i wisg ysgol ac yn awyddus i wybod beth yw barn plant ysgol am orfod gwisgo gwisg ysgol, pa fath o gwestiynau fyddai鈥檔 gweithio orau?

Question

Os wyt ti鈥檔 ymchwilio i鈥檙 syniad o drefnu trip ysgol i amgueddfa ac yn awyddus i ganfod a fyddai鈥檙 disgyblion yn dod ar y trip ai peidio, pa fath o gwestiwn fyddai鈥檔 gweithio orau?