Cam un - gwybodaeth
Meddylia am bwrpas yr ymchwil a cheisio canfod pa wybodaeth sydd ei hangen, ee a oes angen gwybodaeth meintiol Mae ymchwil meintiol yn egluro ffenomena drwy gasglu data rhifiadol. Mae鈥檙 data hyn yn cael eu dadansoddi wedyn gan ddefnyddio dulliau mathemategol. neu wybodaeth ansoddolMae ymchwil ansoddol yn ceisio ateb cwestiynau yngl欧n 芒 pham a sut y mae pobl yn ymddwyn mewn ffordd benodol. Mae鈥檔 darparu gwybodaeth fanwl am ymddygiad dyn.?
Enghraifft bywyd go iawn
Os wyt ti鈥檔 ymchwilio i farn pobl yngl欧n 芒 beth sy鈥檔 gwneud ffilm dda, bydd angen i ti gael gwybodaeth ansoddol, oherwydd ymchwil ansoddol sy鈥檔 cael gwybodaeth am farn pobl.
Cam dau - pwy i'w dargedu
Penderfynu pwy yn union mae鈥檙 ymchwilydd eisiau ei holi. Fel arfer ni fydd ymchwilydd yn gallu holi pob unigolyn mewn poblogaethMewn arolwg mae poblogaeth yn golygu pob unigolyn y gallai rhywun ei holi. benodol, felly bydd yn dewis sampl cynrychioliadolDylai nodweddion y sampl fod yn debyg i nodweddion y boblogaeth..
Mae hyn yn golygu meddwl pa fath o bobl dylai鈥檙 ymchwilydd eu holi. Mae鈥檔 bwysig iawn, oherwydd bydd yn anodd mynd ymlaen i gamau tri a phedwar heb wybod hyn.