Â鶹ԼÅÄ

Y cyhoedd yn cael dweud eu dweud ar Gytundeb Gweithredu’r Â鶹ԼÅÄ ac S4C

Date: 16.07.2012     Last updated: 23.09.2014 at 09.48
Category: Accountability; S4C

Heddiw (dydd Gwener 10 Awst) mae Ymddiriedolaeth y Â鶹ԼÅÄ ac Awdurdod S4C wedi lansio ar y Cytundeb Gweithredu sydd yn amlinellu’r berthynas fydd rhwng y ddau ddarlledwr unwaith y daw mwyafrif cyllid S4C o ffi’r drwydded o fis Ebrill 2013.

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus, a lansiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg, yn gwahodd unigolion a grwpiau i fynegi eu barn ar y Cytundeb Gweithredu dros y 10 wythnos nesaf, gyda dyddiad cau ar ddydd Mawrth 23 Hydref.

Ym mis Hydref 2010 cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Jeremy Hunt, y byddai mwyafrif incwm S4C yn dod o Ffi’r Drwydded o 2013.ÌýÌý

Yn dilyn hynny, ym mis Hydref 2011, daeth Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y Â鶹ԼÅÄ i gytundeb, a fyddai’n weithredol o 2013, er mwyn sicrhau bod annibyniaeth golygyddol a rheolaethol gwasanaeth S4C yn cael ei warchod ac yn sicrhau atebolrwydd addas i Ymddiriedolaeth y Â鶹ԼÅÄ ar gyfer y cyllid Ffi Trwydded i’r sianel. ÌýMae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn i’r cyhoedd farnu a yw’r Cytundeb Gweithredu, a fydd y ddogfen atebolrwydd allweddol rhwng Ymddiriedolaeth y Â鶹ԼÅÄ ac S4C, yn adlewyrchu’n gywir y cytundeb a wnaethpwyd yn 2011 ai peidio.

Dywedodd Ymddiriedolwr Cenedlaethol y Â鶹ԼÅÄ dros Gymru, yr Athro Elan Closs Stephens:

“Fy mhrif flaenoriaeth yw helpu S4C i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith a diogelu annibyniaeth golygyddol S4C tra ar yr un pryd sicrhau bod cyllid ffi’r drwydded yn cael ei wario yn ddoeth. Mae’r cytundeb newydd hwn rhwng y Â鶹ԼÅÄ ac S4C yn adeiladu ar bartneriaeth llwyddiannus rhyngom dros y 30 mlynedd diwethaf.â€

Ychwanegodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C:

“Rwy’n credu bod y Cytundeb Gweithredu yn rhoi sicrwydd bod dyfodol S4C a’i gallu i weithredu’n annibynnol wedi’u diogelu, tra’n sicrhau atebolrwydd priodol i Ymddiriedolaeth y Â鶹ԼÅÄ dros y defnydd o ffi’r drwydded.â€ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý

Nodiadau i olygyddion:

  1. Gellir gweld y Cytundeb Gweithredu a’r ymgynghoriadÌýÌý
  2. Caiff yr ymgynghoriad ei lansio gan Gadeirydd S4C, Huw Jones ac Ymddiriedolwr Cenedlaethol y Â鶹ԼÅÄ dros Gymru, yr Athro Elan Closs Stephens, am 11am ym mhafiliwn S4C, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llandŵ, Bro Morgannwg Ìý
  3. Mae sefyllfa gryno partneriaeth y Â鶹ԼÅÄ ac S4C ar gael
  4. Mae’r ymgynghoriad yn cychwyn ar ddydd Gwener 10 Awst ac yn cau ar 23 Hydref. Gall y cyhoedd gyfrannu at yr ymgynghoriad trwy Ìý