Diweddarwyd: 20 Ionawr 2017
1. Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi i'ch cyfrif 鶹Լ.
2. Yna, ar unrhyw un o wefannau’r 鶹Լ, cliciwch ar yr eicon "Eich cyfrif" ar ben y dudalen. (Os oes gennych enw arddangos, bydd yn dangos eich enw arddangos, nid "Eich cyfrif"). Mae hwn yn y bar llywio, ger bar cyfeiriad eich porwr gwe.
3. Dewiswch "Gosodiadau" a byddwch yn mynd at eich manylion personol.
4. Ar y sgrîn "Manylion personol”, cliciwch "Golygu" wrth ymyl eich cyfeiriad e-bost a rhowch un newydd. Bydd angen i chi roi eich cyfrinair er mwyn i ni wybod mai chi sydd yno.
5. Yna cliciwch ar “Cadw a bwrw ymlaen”.
6. Cofiwch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost newydd y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi i'r 鶹Լ.
7. Unwaith y byddwch chi wedi newid eich cyfeiriad e-bost, byddwn yn anfon e-bost newydd i wirio mai chi sydd yno. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei ddilysu, neu ni fyddwch yn gallu gwneud pethau fel rhoi sylwadau ar straeon newyddion y 鶹Լ.
Methu cofio eich cyfrinair cyfredol?
Bydd yn rhaid i chi ei ailosod. Cewch wybod sut i wneud hynny yn “Rydw i'n cael trafferth gyda fy nghyfrinair”.
Dim ond yn Saesneg y medrwn ni gynnig cymorth cyfrif. Ymddheuriadau.