Â鶹ԼÅÄ

Sut rydw i'n newid fy nghod post?

Diweddarwyd: 6 Mehefin 2017

1. Yn gyntaf, rhaid gwneud yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi i'ch cyfrif Â鶹ԼÅÄ.

2. Yna, ar unrhyw wefan Â鶹ԼÅÄ, cliciwch ar yr eicon "Eich cyfrif" ar frig y dudalen. (Os oes gennych chi enw arddangos, yna dyna beth fyddwch chi'n ei weld, nid "Eich cyfrif"). Gallwch ddod o hyd iddo yn y bar llywio, ger y logo Â鶹ԼÅÄ. 

3. Dewiswch "Gosodiadau" yn y ddewislen. Os ydych chi'n gwneud hyn ar gyfrifiadur, byddwch yn cyrraedd eich manylion personol yn syth, felly ewch yn syth i gam 5 isod.

4. Os ydych chi ar ffôn symudol, yna bydd rhaid i chi glicio ar "Manylion personol". 

5. Unwaith rydych chi yn yr adran "Manylion personol", cliciwch "Golygu" ger eich cod post. 

6. Ar y dudalen nesaf, rhowch eich cod post newydd. Os ydych chi angen newid y wlad be rydych chi'n byw i rywle tu allan i'r DU, gallwch wneud hynny yma hefyd. 

7. Yna cliciwch "Arbed a pharhau".

Change language: