鶹Լ

Mae’ch babi'n ceisio cyfathrebu â chi o’r munud mae’n cael ei eni.

Ond dydy hi ddim bob amser yn hawdd gwybod beth mae’ch babi’n ceisio ei ddweud pan nad yw’n gallu dweud unrhyw eiriau.

Gallwch gadw llygad am rai arwyddion er mwyn cael syniad o’r hyn mae’ch babi’n ceisio ei gyfleu.

Mae pob babi’n wahanol, a byddwch chi’n dod i adnabod eich babi eich hun, ond dyma rai arwyddion posibl.

1. Rhwbio’i lygaid neu ei wyneb

Merch fach yn rhwbio ei llygad.
Image caption,
Os yw eich babi’n rhwbio ei lygaid neu ei fochau, fe allai fod yn arwydd ei fod wedi blino.

Os dw i’n rhwbio fy llygaid a fy mochau, yn dechrau syllu i’r pellter ac yn cau fy nwylo’n dynn fel dwrn, mae’n debygol fy mod i’n teimlo braidd yn gysglyd.

Pan fydd babis wedi blino, maen nhw’n aml yn dangos hynny drwy rwbio eu hwynebau, tynnu ar eu clustiau, neu gau eu dwylo’n bêl i greu dwrn. Yn aml iawn mae eu llygaid nhw’n mynd yn llonydd ac yn ddifywyd, ac maen nhw’n syllu heb edrych ar ddim byd yn benodol. Mae’r rhain i gyd yn arwyddion pendant bod angen i’ch plentyn fynd i gysgu.

2. Wyneb coch, cicio coesau

Babi yn crio ac yn cicio ei goesau.
Image caption,
Os yw eich babi’n eithaf coch ac yn cicio ei goesau, efallai ei fod angen torri gwynt.

Dw i’n cicio fy nghoesau ac yn anadlu ychydig yn gyflym, mae fy ngwyneb i’n mynd yn goch… fe allai fod yn arwydd fy mod i angen gwneud rhywbeth gwahanol neu dorri gwynt.

Byddai codi a chicio coesau, anadlu’n gyflym a golwg boenus ar ei wyneb yn gallu bod yn arwydd bod y babi naill ai’n teimlo’n rhwystredig neu ei fod angen codi gwynt.

3. Wyneb 'Wwww!'

Image caption,
Have you seen your baby pulling the baby o face? Now you will know what it means!

Beth bynnag rwyt ti’n ei ddweud neu'n ei wneud, dw i’n edrych fel fy mod i’n ymateb gydag ‘wwww’! Pan fydda i’n gwneud siâp ‘O’ bach gyda fy ngwefusau ac yn agor fy llygaid yn fawr, mae hi’n amser chwarae.

Mae’r edrychiad yma, llygaid yn llydan ar agor a cheg fach grwn, yn un cyffredin i fabis sydd wedi cyffroi ac eisiau chwarae gyda’u rhieni. Efallai byddan nhw hefyd yn clapio, yn codi llaw, neu hyd yn oed yn gwneud ambell sŵn.

4. Sugno dwylo

Babi yn agor ei cheg wrth i nain gyffwrdd â'i boch.
Image caption,
Os bydd babis yn ceisio sugno’ch bys pan fyddwch chi’n cyffwrdd â’u boch, efallai eu bod nhw eisiau bwyd.

Os wyt ti’n cyffwrdd fy wyneb i, a fy mod i’n dal i droi at dy law i sugno dy fysedd, fe allai fod yn arwydd fy mod i eisiau bwyd.

Mae chwilio am ffynhonnell fwyd gyda’i geg – sy’n cael ei alw’n ‘rooting’ yn Saesneg – yn beth naturiol i’ch babi ei wneud pan fydd eisiau bwyd.

Yn aml, bydd babis sydd eisiau bwyd yn ceisio sugno bysedd, dwylo, trwyn, gwddw, cadwyni a dillad rhieni pryd bynnag y byddan nhw’n dod yn agos at eu hwynebau.

5. Troi i ffwrdd

Image caption,
We all get fed up sometimes, especially young children. If your baby is turning away, they probably want a change of activity.

Os dw i’n troi fy mhen oddi wrth dy ben di wrth chwarae, neu’n ceisio osgoi a chropian i ffwrdd, efallai ei bod hi’n bryd stopio!

Pan fydd babis wir yn mwynhau gweithgaredd, byddan nhw’n syllu arnoch chi gyda’u llygaid yn llydan ar agor. Ond pan fydd gormod o bethau’n mynd â’u sylw, neu pan fyddan nhw wedi cael digon ar rywbeth, efallai y byddan nhw’n dweud wrthych chi drwy edrych neu gropian i ffwrdd.

Cynhyrchwyd yr erthygl gyda chymorth Sheena Flack, Therapydd Lleferydd ac Iaith i’r GIG yn Dundee

Ble nesaf?