鶹Լ

Babi yn crio wrth gael ei ddal gan ei dad.
Image caption,
Crïo yw un o’r prif ffyrdd y mae babis bach yn cyfathrebu o’r eiliad maen nhw’n cael eu geni.

Os oes gennych chi fabi sydd newydd gael ei eni, mae’n siŵr eich bod chi wedi’i glywed yn crïo cryn dipyn.

Ar gyfartaledd, mae babis yn crïo am ryw 2-3 awr y dydd yn ystod eu misoedd cyntaf, sy’n fwy nag ar unrhyw adeg arall yn eu bywyd.

Mae'n bwysig gwybod ei bod hi’n iawn os yw eich babi'n crïo llawer. Os ydych chi’n gweld hynny’n anodd, treuliwch eiliad neu ddwy oddi wrth y babi, gan sicrhau ei fod yn gwbl ddiogel, i gael eich gwynt atoch a pheidiwch â chynhyrfu.

Wrth i’ch babi fynd yn hŷn, bydd yn dysgu ffyrdd mwy effeithiol o gyfathrebu, ond crïo yw un o’r prif ffyrdd y gall babis roi gwybod i chi bod angen rhywbeth arnynt yn y dyddiau cynnar.

Felly, beth allai’ch babi fod yn ceisio ei ddweud wrthych chi?

1. Dw i eisiau cwtsh!

Darlun o fenyw yn cofleidio ei babi.
Image caption,
Mae babis wrth eu bodd yn cael cyswllt agos â’u teuluoedd – a pheidiwch â phoeni am roi gormod o faldod iddyn nhw.

Mae babis wrth eu boddau yn bod yn agos at eu rhieni – meddyliwch am y peth, fe wnaethon nhw dreulio naw mis yn nes at eu mam nag y byddan nhw byth eto, felly mae’n cymryd ychydig o amser i arfer â bod allan yn y byd!

Weithiau, y ffordd orau o wneud i fabis stopio crïo yw eu codi, eu cadw'n agos a chael sgwrs neu ganu.

Does dim y fath beth â rhoi gormod o faldod i fabis, felly peidiwch â gwrando ar neb sy’n dweud yn wahanol wrthych chi. Mae’n gwneud iddyn nhw ymlacio ac yn hybu llif yr hormon cariad, ocsitosin, sy’n eu helpu i deimlo perthynas glós a chariadus gyda’u teulu.

2. Dw i wedi cael digon!

Babi yn troi cefn ar ei fam wrth iddo gael ei ddal.
Image caption,
Os yw eich babi’n troi ei ben neu ei gorff oddi wrthych chi wrth chwarae, mae’n bosibl ei fod wedi cael digon.

Bydd babis yn aml yn crïo os oes gormod o bethau’n mynd â’u sylw, ac os ydyn nhw wedi cael llond bol ar beth bynnag rydych chi’n ei wneud.

Cadwch lygad i weld a yw eich babi'n troi ei ben neu ei gorff i ffwrdd oddi wrthych chi yng nghanol amser chwarae.

3. Dw i wedi diflasu!

Efallai byddwch chi’n gweld bod eich babi’n ddigon hapus yn cŵan ac yn parablu, ac yna’r funud nesaf mae’n crïo ac yn cwyno.

Y rheswm am hynny yw bod eich babi’n ceisio cael eich sylw a rhyngweithio â chi.

Felly ceisiwch sylwi pan fydd yn gwneud synau – ceisiwch gopïo'ch babi neu siarad i’w ateb.

4. Dw i wedi blino!

Merch fach yn rhwbio ei llygad.
Image caption,
Os yw eich babi’n rhwbio ei lygaid neu ei fochau, fe allai fod yn arwydd ei fod wedi blino.

Po ieuengaf yw babis, yr anoddaf yw hi i wybod pryd maen nhw wedi blino.

Cyn iddyn nhw allu mynegi eu bod wedi blino, yn aml iawn crïo yw’r ffordd orau i fabis cysglyd gyfleu hynny.

Er mwyn osgoi bod eich babi’n crïo oherwydd ei fod wedi gorflino, cadwch olwg am wahanol arwyddion:

  • Bod yn dawel iawn a llonydd
  • Syllu i wagle
  • Rhwbio a chyffwrdd ei lygaid/bochau ei hun
  • Cau ei law yn ddwrn tynn

Mae’r rhain i gyd yn arwyddion bach ei bod efallai’n amser i roi’r babi i lawr i gysgu.

5. Dw i'n rhy boeth neu'n rhy oer!

Y lle gorau i brofi tymheredd eich babi yw ei fol neu ei gefn, felly cyffyrddwch â'r mannau hyn i weld a oes angen mwy neu lai o haenau neu flancedi.

6. Dw i angen codi gwynt!

Babi yn crio ac yn cicio ei goesau.
Image caption,
Os yw eich babi’n eithaf coch ac yn cicio ei goesau, efallai ei fod angen torri gwynt.

Weithiau dim ond torri gwynt sydd ei angen ar eich babi, ond y ffordd orau o gyfleu hynny yw drwy grïo.

Rhai o'r arwyddion eraill i chi gadw llygad amdanyn nhw yw cicio coesau, anadlu’n gyflym a golwg boenus ar ei wyneb.

7. Dw i angen cewyn/clwt newydd!

Dad yn tynnu wyneb wrth iddo newid cewyn ei fabi.
Image caption,
Weithiau os nad ydych chi’n gallu deall pam mae'ch babi’n crïo, aroglwch eich babi!

Os ydych chi’n ansicr, edrychwch i weld a oes angen newid cewyn neu glwt eich babi.

Os nad oes rheswm amlwg pam mae’ch babi’n crïo, efallai ei fod wedi gadael anrheg fach hyfryd i chi!

Ceisiwch ganu i’r babi wrth newid ei gewyn/clwt, er mwyn gwneud iddo anghofio am ei ddagrau.

8. Dw i eisiau bwyd!

A baby opening her mouth as grandma touches her cheek.
Image caption,
Os bydd babis yn ceisio sugno’ch bys pan fyddwch chi’n cyffwrdd â’u boch, efallai eu bod nhw eisiau bwyd.

Mae bod eisiau bwyd yn rheswm cyffredin sy'n gwneud i fabis grïo, yn enwedig pan fyddan nhw’n ifanc iawn. Mae stumog babis yn fach, felly byddan nhw angen cael eu bwydo eto cyn bo hir.

Un arwydd amlwg bod eich babi eisiau bwyd yw ei fod yn mynd i chwilio am fwyd gyda’i geg – ceisiwch gyffwrdd â’i foch i weld a yw’n agor ei geg. Mae hyn yn ymateb greddfol gan fabis pan fyddan nhw eisiau bwyd, er mwyn ceisio dod o hyd i ffynhonnell o laeth.

Mae arwyddion eraill yn cynnwys eich babi’n gwneud synau murmur, yn troi ei ben o un ochr i’r llall, ac yn troi ei ben at eich brest pan fyddwch chi’n rhoi maldod iddo. Ac mewn babis hŷn, sugno eu bysedd neu eu dwrn.

Beth os nad yw’r babi’n stopio crïo?

Peidiwch â chynhyrfu.

Mae nifer o bethau gallwch chi eu gwneud i geisio tynnu sylw’r babi a’i dawelu drwy ddefnyddio synau a chyffwrdd.

Ond weithiau does dim ots beth rydych chi’n ei wneud, mae’n ymddangos nad oes dim byd yn gweithio. Ac mae angen i chi wybod bod hynny’n iawn. Mae llawer o fabis yn mynd drwy gyfnod o grïo, a bydd hyn yn cyrraedd penllanw pan fyddan nhw tua saith wythnos oed fel arfer.

Y peth gorau gallwch chi ei wneud yw peidio â chynhyrfu – mae’n debygol bydd unrhyw gyfnodau o grïo cyson yn dod i ben ymhen dim o dro. Os ydych chi’n gweld hynny’n anodd, treuliwch eiliad neu ddwy oddi wrth y babi i gael seibiant, gan sicrhau bod y babi yn gwbl ddiogel cyn gwneud hynny.

Os ydych chi’n poeni bod eich babi yn sâl, neu os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ymdopi â’r crïo, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu’ch meddyg teulu ar unwaith.

Mae gan gyngor ar sut i ymdopi gyda babi sy'n crïo.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'ch babi'n crïo, mae gan linell gymorth (Saesneg) sy’n cynnig cefnogaeth ynghylch babis yn crïo, ar 08451 228 669.

Ble nesaf?