鶹Լ

Janet Cooper, Therapydd Lleferydd ac Iaith ac Arweinydd Cyfathrebu Cynnar yn Stoke Speaks Out
Image caption,
Janet Cooper, Therapydd Lleferydd ac Iaith ac Arweinydd Cyfathrebu Cynnar yn Stoke Speaks Out

Mae’n naturiol cymharu'ch plentyn chi â phlant eraill, ac mae’n gallu bod yn rhwystredig gweld plant eraill yn brysur yn sgwrsio os yw'ch plentyn chi’n dawel, neu’n cael trafferth siarad a deall.

Ond cofiwch, mae pob plentyn yn datblygu ar gyflymder gwahanol. Ac mae cyfathrebu’n digwydd ar sawl ffurf: mae parablu, pwyntio a dweud ambell air i gyd yn arwyddion cadarnhaol bod eich babi eisiau cyfathrebu.
Janet Cooper, Therapydd Lleferydd ac Iaith ac Arweinydd Cyfathrebu Cynnar yn Stoke Speaks Out
Image caption,
Janet Cooper, Therapydd Lleferydd ac Iaith ac Arweinydd Cyfathrebu Cynnar yn Stoke Speaks Out

Pam mae cyfathrebu’n bwysig?

Mae cyfathrebu’n dda yn bwysig iawn ac yn golygu bod plant yn gallu deall y byd, dysgu, siarad ag eraill, gwneud ffrindiau a chyfleu sut maen nhw’n teimlo.

Dylai gwybod bod llawer o blant yn cael trafferth gyda lleferydd ac iaith, ac nad yw hynny bob amser yn golygu bod problem ddyfnach, helpu i dawelu’ch meddwl.

Mae astudiaethau’n amcangyfrif bod 1 plentyn o bob 10 yn datblygu anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar.

Merch fach yn edrych yn bryderus gyda'i llaw i'w cheg.
Image caption,
Peidiwch â dychryn – mae llawer o blant yn cael trafferth gyda lleferydd ac iaith, ac mae llawer o help ar gael os ydych chi’n poeni.

Beth yw’r arwyddion bod fy mhlentyn ar ei hôl hi?

Byddwch chi’n cael cynnig apwyntiadau gydag ymwelydd iechyd ar gyfer eich babi nes bydd yn ddwy oed, er mwyn gallu cadw golwg ar ei ddatblygiad. Bydd yr ymwelydd iechyd yn edrych ar daldra, pwysau a datblygiad corfforol yn ogystal â lleferydd ac iaith, i weld a yw popeth yn iawn.

Y tu hwnt i'r apwyntiadau yma, fe allwch chi gadw golwg ar ddatblygiad eich plentyn a gweld a yw’n . Efallai fod eich plentyn ar ei hôl hi gyda’i sgiliau iaith:

  • os nad yw’n ymddangos bod eich plentyn yn ymateb i synau
  • os nad yw’ch plentyn yn dangos diddordeb mewn rhyngweithio â chi
  • os nad yw’n ymddangos bod eich plentyn yn cyrraedd unrhyw rai o'r cerrig milltir allweddol
  • os yw’n ymddangos bod eich plentyn yn teimlo'n rhwystredig nad yw’n gallu cyfathrebu â chi
  • os yw’ch plentyn yn gwneud llawer o synau siarad nad oes neb yn eu deall

Mae digonedd o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu’ch plentyn, a llawer o gymorth arbenigol ar gael os ydych chi’n poeni – chi sy’n adnabod eich plentyn orau, felly cofiwch ofyn i weithiwr proffesiynol os ydych chi’n poeni. Drwy sylwi ar broblemau’n gynnar, gallwch gael y cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Mae'r fam, Alison, yn edrych ymlaen wrth i'w babi, Austin, wneud ystumiau tuag at degan
Image caption,
Mae parablu, pwyntio a dweud ambell air yn arwyddion bod eich babi eisiau cyfathrebu.

Ydy anawsterau lleferydd ac iaith yn rhedeg mewn teuluoedd?

Mae’n bosibl bod cysylltiad genetig gyda rhai anawsterau lleferydd ac iaith penodol – gallai hyn olygu bod gan nifer o aelodau’r teulu anawsterau tebyg. Fodd bynnag, mae sgiliau cyfathrebu’n cynnwys ystod eang o bethau, felly nid dyna’r rheswm bob amser. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am ddatblygiad lleferydd neu iaith eich plentyn, mae’n well eu trafod gyda’ch ymwelydd iechyd neu weithiwr proffesiynol ym maes y blynyddoedd cynnar.

Efallai bydd efeilliaid ar ei hôl hi gyda’u datblygiad iaith, ond dydy hynny’n ddim byd i boeni yn ei gylch fel arfer – gallwch ddarllen am sut maen nhw’n dysgu cyfathrebu.

Cafodd fy mabi ei eni’n gynnar iawn – a fydd yn datblygu’n arafach?

Mae angen amser ar bob plentyn i ddatblygu, ac os byddan nhw’n cael eu geni’n gynnar iawn, mae’n bosibl na fyddan nhw’n cyrraedd cerrig milltir ar oedran arferol.

Bydd babis sy’n cael eu geni’n gynnar iawn yn cael cynnig archwiliadau iechyd ychwanegol er mwyn cadw golwg ar eu datblygiad, ac er mwyn gallu rhoi cymorth pan fydd angen.

Os bydd eich babi’n cael ei eni’n gynnar iawn, bydd y cerrig milltir yn cael eu hasesu ar sail y dyddiad y dylai fod wedi cael ei eni, nid y dyddiad y cafodd ei eni.

Erbyn i’ch plentyn fod yn ddwy oed, bydd ei ddatblygiad yn debycach i ddatblygiad plant o’r un oedran yn aml iawn, a gallwch ddefnyddio ei ddyddiad geni go iawn yn lle'r dyddiad y dylai fod wedi cael ei eni. Gyda babis sydd wedi cael eu geni llawer iawn yn rhy gynnar, mae hyn weithiau’n cael ei ymestyn i dair oed.

Dad a'i fabi yn chwarae gyda llawer o beli lliw.
Image caption,
Dylech dreulio llawer o amser yn siarad ac yn chwarae gyda’ch gilydd – mae plant yn dysgu am gyfathrebu drwy ryngweithio.

Alla i wneud unrhyw beth i helpu lleferydd fy mhlentyn?

Mae digonedd o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu'ch plentyn:

  • treulio cymaint o amser ag y gallwch chi yn siarad ac yn chwarae gyda’ch gilydd – mae plant yn dysgu am gyfathrebu drwy ryngweithio â chi, ac mae modd cynnwys syniadau am weithgareddau cyfathrebu yn ystod eich diwrnod arferol.
  • lleihau sŵn cefndir (fel y teledu), oherwydd mae hyn yn gallu arafu sgiliau gwrando eich plentyn a’i ddrysu
  • cyfyngu ar yr amser mae’ch plentyn yn defnyddio dymi, er mwyn i’ch plentyn gael mwy o gyfle i siarad
  • cyfyngu ar y defnydd o declynnau a ffonau symudol – mae gorddefnyddio'r rhain yn lleihau'r amser sydd gennych chi i ryngweithio â'ch gilydd
  • mynd â'ch plentyn i grwpiau mewn llefydd fel canolfannau plant, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol, er mwyn i’ch plentyn gael cyfle i gymysgu â phlant eraill

Os ydych chi’n dilyn yr holl ddarnau yma o gyngor ac nad yw’ch plentyn yn dod yn ei flaen, efallai bydd angen i chi gael eich cyfeirio at therapydd lleferydd ac iaith.

Gall eich gwasanaeth GIG lleol eich cyfeirio at y rhan fwyaf o adrannau therapi lleferydd ac iaith. Yn aml iawn gallwch gyfeirio’ch hun, ond mae bob amser yn syniad da holi gweithiwr iechyd proffesiynol, meddyg teulu neu weithiwr meithrinfa eich plentyn yn gyntaf.

Ble nesaf?