鶹Լ

Yn ystod yr oriau a’r dyddiau ar ôl rhoi genedigaeth, mae’n debygol eich bod chi’n treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yn dod i arfer â bod yn rhiant.

Ac nid chi yw’r unig un sy’n addasu i’ch bywyd newydd. Mae'ch babi’n mynd drwy newidiadau mawr hefyd. Mae ymennydd babis yn brysur iawn, ac yn gweithio’n galed i wneud synnwyr o’r byd newydd cyffrous o’u cwmpas. Ac fe allwch chi eu helpu…

Dad yn gorwedd ar soffa yn cusanu ei fabi bach
Image caption,
Mae ymennydd eich babi’n brysur iawn, er ei fod yn treulio llawer o amser yn cysgu.

Yn ôl Dr Sarah Lloyd-Fox o , “Mae’r ffordd rydych chi’n rhyngweithio â’ch babi ar ôl iddo gael ei eni yn cynyddu ei allu i ymateb a rhyngweithio â’r hyn sydd o’i gwmpas.”

Dyma bum ffaith annisgwyl am ymennydd eich babi wrth iddo ddatblygu.

1. Mae’ch babi'n cyfathrebu â chi o’r munud mae’n cael ei eni

Efallai ei bod hi’n ymddangos mai’r unig beth mae’n ei wneud yw bwyta a chysgu, ond mae hynny ymhell o fod yn wir.

“Yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd, mae’ch babi’n cyfathrebu â chi mewn mwy o ffyrdd nag y tybiech”, yn ôl Dr Lloyd-Fox. “Wrth i’ch babi fynd yn hŷn, bydd yn cael mwy a mwy o gyfnodau o fod yn effro ac yn ymwybodol o’r hyn o’i gwmpas, pan allwch chi gyfathrebu â’ch gilydd.”

Awgrym:

Pan fydd eich babi’n cŵan ac yn gwneud cyswllt llygad, mae eisiau i chi wneud yr un peth. Ac mae ymchwil yn dangos bod siarad yn syml mewn llais canu sy’n codi a gostwng gyda'ch babi yn gallu rhoi hwb i’w ymennydd. Peidiwch â phoeni os ydych chi’n teimlo braidd yn wirion weithiau. Yn aml iawn i rieni newydd, dyma fydd y tro cyntaf i chi siarad mewn llais gor-wneud fel hyn sy’n addas i fabis. Bydd eich plentyn wrth ei fodd – ac yn dysgu oddi wrth hynny – ond cadwch lygad am arwyddion ei fod wedi cael digon.

“Efallai bydd eich babi’n troi i ffwrdd neu’n tisian,” medd Dr Lloyd-Fox. “Gall y pethau hyn fod yn arwyddion bod angen seibiant ar eich babi, felly yn hytrach na siarad yn uwch neu symud yn nes, rhowch ychydig o eiliadau i’ch babi. Efallai bydd yn gadael i chi ddal ei sylw eto ar ôl ychydig o eiliadau o orffwys.”

2. Mae'ch babi’n deall beth rydych chi’n ei ddweud... hyd yn oed cyn gallu siarad

Er nad yw’ch babi’n gallu siarad, dydy hynny ddim yn golygu nad yw’n deall beth rydych chi’n ei ddweud.

“Mae babis yn deall geiriau’n llawer cyflymach na byddech chi’n ei feddwl,” medd Dr Lloyd-Fox. “Maen nhw’n deall llawer o eiriau cyn gallu eu dweud nhw.” Yn ôl un astudiaeth, mae babis naw mis oed yn gwybod pryd mae gair yn cyfateb – a ddim yn cyfateb – i lun cyfarwydd. Er enghraifft, drwy ddweud, ‘Edrych ar yr hwyaden’ ac yna dangos hwyaden neu fanana, mae ymennydd babis yn dangos gwahanol batrymau o ymateb i bob llun.”

Awgrym:

Mae’ch babi’n dysgu’n gyflym. Ond mae angen ychydig mwy o amser arno o hyd i gofio beth yw ystyr y geiriau newydd mae’n eu clywed. Yn ôl Dr Lloyd-Fox, “Gallwch ddechrau edrych ar lyfrau gyda'ch babi pan fydd yn chwe mis oed. Pan fydd eich babi ychydig o fisoedd yn hŷn a chithau’n darllen iddo, gofynnwch gwestiwn fel, ‘ble mae’r gath?’. Cyfrwch 10 eiliad yn eich pen cyn gofyn eto. Mae babis angen mwy o amser na byddech chi’n ei feddwl i ddeall beth rydych chi wedi gofyn iddyn nhw.”

Dad yn gwenu ac yn edrych ar ei fabi bach sy'n edrych yn ôl arno
Image caption,
Mae ymennydd eich babi’n elwa o’r holl ryngweithio bach ac ystyrlon gyda’ch gilydd.

3. Mae’ch babi’n dysgu gennych chi drwy’r amser

Mae babis yn gwneud synnwyr o’r byd drwy wylio beth mae pobl eraill yn ei wneud. Ac mae hyn yn golygu mai gennych chi maen nhw’n dysgu y rhan fwyaf o’r amser.

“Helpwch eich babi drwy roi arwyddion i’w helpu i ddysgu,” medd Dr Lloyd-Fox. “Gallai’r arwyddion yma fod yn unrhyw beth, yn amrywio o wneud cyswllt llygad uniongyrchol cyn newid i edrych ar wrthrychau diddorol, gwenu neu ebychu. O'r misoedd cyntaf yn ei fywyd, mae cyfuno gwahanol arwyddion wrth ryngweithio â’ch babi yn ysgogi rhannau o’i ymennydd sy’n cael eu defnyddio i ddeall y byd o’i gwmpas.”

Awgrym:

Does dim angen teganau arnoch chi i roi hwb i ymennydd eich babi. “Defnyddiwch dasgau bob dydd i greu perthynas glós â’ch babi, fel llwytho’r peiriant golchi, rhoi dillad allan i sychu neu baratoi bwyd,” medd Dr Lloyd-Fox. “Mae siarad mewn lleisiau gwirion yn ogystal ag arwyddion eraill yn gweithio llawn cystal â chwarae gyda thegan.”

4. Mae’ch babi’n chwerthin wrth ddysgu

Mae clywed eich babi’n chwerthin am y tro cyntaf pan fydd rhwng tri mis a chwe mis oed yn foment anhygoel. Ond efallai byddwch chi’n synnu o wybod bod chwerthin yn ei helpu i wneud synnwyr o’r byd o’i gwmpas.

Yn ôl Dr Lloyd-Fox, “Mae ymchwil yn awgrymu bod teimlo ychydig o ansicrwydd wrth gael profiad newydd yn gwneud i fabis chwerthin. Er enghraifft, llais gwirion gan rywun mae’n ei adnabod; rhywun yn esgus bwrw ei ben gan wneud sŵn gwirion neu gyda golwg gwirion ar ei wyneb, neu chwythu a chrynu’ch gwefusau ar ei fol ac achosi teimlad corfforol newydd.”

Awgrym:

Wrth i’ch babi dyfu, peidiwch â digalonni os nad yw’n gwenu ar bethau oedd yn arfer gwneud iddo chwerthin dros bob man pan oedd yn fach iawn. Yn ôl Dr Lloyd-Fox, “Mae babis yn chwerthin ar bethau gwahanol wrth fynd yn hŷn. Mae beth sy’n gwneud iddyn nhw chwerthin yn dangos sut mae eu hymennydd yn datblygu. Er enghraifft, yn aml iawn mae cuddio'ch wyneb y tu ôl i flanced ac ymddangos eto yn ddoniol pan fydd babis yn dechrau dysgu cysyniad sy’n cael ei alw’n ‘sefydlogrwydd gwrthrych’. Mae hyn yn golygu deall bod gwrthrych yn dal i fodoli hyd yn oed pan fydd o’r golwg. Pan na fydd babis yn chwerthin mwyach wrth chwarae pi-pô, mae'n golygu eu bod wedi dysgu beth sy’n mynd i ddigwydd ac yn dechrau ei ragweld.”

Mam yn canu i'w babi
Image caption,
Wrth i'ch babi fynd yn hŷn ac wrth i’w ymennydd ddatblygu, bydd ei synnwyr digrifwch yn newid.

5. Mae ymennydd eich babi’n newid yn gyflym iawn

O’r eiliad caiff eich babi ei eni, mae ei ymennydd yn ymateb i bethau sy’n digwydd o’i gwmpas.

“Pan fydd pobl yn siarad ac yn rhyngweithio â babis (fel wrth chwarae pi-pô), mae'r rhannau o ymennydd babi newydd-anedig sy’n ymateb i hynny yr un fath â’r rhannau sy’n ymateb mewn ymennydd oedolion,” medd Dr Lloyd-Fox. “Beth sy’n rhyfeddol yw bod eu hymatebion yn newid hyd yn oed yn ystod dyddiau cyntaf eu bywyd, sy’n awgrymu bod eu hymennydd yn datblygu'n gyflym.”

Awgrym:

Ar yr adegau pan nad yw’ch babi’n cysgu neu’n bwydo yn y dyddiau cyntaf hynny, daliwch eich babi’n agos atoch chi; dim ond hyd at 30cm mae babis newydd-anedig yn gallu gweld. “Ceisiwch ddal llygaid eich babi wrth siarad,” medd Dr Lloyd-Fox. “Bydd hyn yn ei alluogi i ddysgu mwy am wynebau. Bydd hefyd yn dysgu bod y llais roedd yn ei glywed pan oeddech chi neu’ch partner yn feichiog yn gysylltiedig â’r wyneb sydd o’i flaen.”

Ble nesaf?