鶹Լ

Os ydych chi’n siarad mwy nag un iaith yn y cartref, efallai eich bod yn meddwl am sut a phryd i gyflwyno'r iaith i’ch babi. Ac efallai eich bod chi wedi clywed rhai pethau nad ydyn nhw’n wir am ddysgu iaith – mae sawl myth am hynny.

Un myth cyffredin yw bod siarad mwy nag un iaith yn drysu plant ac yn gallu achosi oedi gyda’u lleferydd. Ond mewn gwirionedd, mae gallu siarad mwy nag un iaith yn arwain at fanteision enfawr yn ôl Catherine Pape, Therapydd Arbenigol Lleferydd ac Iaith.

Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y byd yn siarad mwy nag un iaith. Mae babis yn cael eu geni’n barod i ddysgu ieithoedd, ac yn gallu ymdopi gydag unrhyw iaith sy’n cael ei siarad o’u cwmpas,” eglura Catherine. “Bydd magu’ch plentyn mewn dwy iaith neu fwy yn helpu i ddatblygu ei ymennydd, ei hunanhyder, ei les a’i sgiliau dysgu; ac mae hefyd yn golygu y bydd mewn gwell sefyllfa i ddysgu ieithoedd eraill yn nes ymlaen mewn bywyd.

Mae manteision diwylliannol hefyd: bydd eich plentyn yn teimlo’n agosach at bobl ac yn rhan o’r gymuned.
Teulu ar soffa
Image caption,
Bydd eich plentyn yn elwa mewn sawl ffordd o siarad mwy nag un iaith.

Cefnogi’ch plentyn – cyngor gan arbenigwyr a rhieni eraill

Mae Catherine yn argymell eich bod yn dechrau siarad â’ch plentyn yn yr ieithoedd eraill cyn gynted ag y bo modd. “Siaradwch â’ch babi cyn iddo gael ei eni, gan ddefnyddio pa bynnag iaith rydych chi’n teimlo fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio.”

Mae Maria yn magu ei merch yn Saesneg, Swahili a Gwjarati. “Mae’n bwysig dechrau pan fydd eich plentyn yn ifanc iawn, gyda ffyrdd syml o gyfathrebu,” medd Maria. “Rydym yn defnyddio geiriau o bob iaith, ond Swahili yw’r un anoddaf i’w chynnwys.”

Peidiwch â phoeni os yw eich plant yn cymysgu rhwng yr ieithoedd – mae hynny’n arferol, a dydy hynny ddim yn golygu nad ydyn nhw’n deall yr ieithoedd, medd Catherine.

Mae eu hymennydd wedi cael ei greu i ddeall mwy nag un iaith, a dydy clywed sawl iaith ddim yn ddryslyd.

Mae tri phlentyn Delphine yn ddwyieithog. Maen nhw’n siarad Ffrangeg a Saesneg ac yn cymysgu’r ddwy iaith, sy’n golygu bod cyfuniad o'r ddwy iaith yn cael ei siarad yn y cartref (mae Delphine a’i gŵr yn Ffrancwyr). “Maen nhw’n dod ar draws Saesneg fwy. Felly mae hi’n ymddangos mai Saesneg sydd gryfaf yn eu hymennydd, ac maen nhw’n defnyddio mwy ar strwythur brawddegau Saesneg wrth siarad Ffrangeg.”

Dynes yn dal ei babi i fyny ac yn gwenu
Image caption,
Mae'n syniad da dechrau siarad â'ch plentyn yn yr ieithoedd eraill pan fydd yn ifanc iawn.

Mae Catherine hefyd yn dweud dylech chi ymateb i beth bynnag mae eich plentyn yn dangos diddordeb ynddo, a manteisio ar y cyfleoedd hyn i gyflwyno geiriau newydd. “Pan fyddan nhw’n dechrau siarad, efallai mai dim ond mewn un iaith bydd rhai plant yn ymateb, ac mae rhieni’n gweld hynny’n anodd weithiau. Does dim angen poeni, atebwch drwy ddefnyddio’r gair yn yr iaith rydych chi’n ei defnyddio. Bydd y plentyn yn dysgu deall yr iaith boed yn siarad yr iaith ei hun ai peidio.”

Peidiwch â theimlo bod angen i chi ddweud wrth y plentyn am ddefnyddio iaith benodol, medd Catherine.

Dilynwch yr un rheol ar gyfer eich plentyn a chi'ch hun: defnyddiwch ba bynnag iaith rydych chi’n teimlo fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio ar y foment honno.

Ond mae Mandeep, sy’n fam, yn argymell ei bod hi’n werth bod yn gyson wrth siarad eich holl ieithoedd, hyd yn oed os ydy’ch plentyn yn fwy awyddus i siarad un iaith nag ieithoedd eraill. “Rydyn ni’n gwneud ymdrech fwriadol i siarad Pwnjabeg, er ei bod hi’n well gan fy mab siarad Saesneg.” Yn yr un modd mae Zeynep, sy’n dysgu Tyrceg i’w mab, yn dweud bod amynedd yn bwysig hefyd. “Rydw i’n ceisio peidio â rhoi gormod o bwysau arno i ddefnyddio iaith benodol, oherwydd gallai hyn greu agwedd fwy negyddol yn y tymor hir.”

Pan fydd eich plant yn hŷn, esboniwch beth mae bod yn ddwyieithog neu’n amlieithog yn ei olygu mewn gwirionedd, er mwyn iddyn nhw wybod pam eu bod yn siarad ieithoedd gwahanol i’w ffrindiau. Eglurwch sut gall hyn eu helpu i deimlo cysylltiad â’u cefndir teuluol.

Dywed Mandeep fod ei mab yn fwy agored i wahanol ddiwylliannau, ac yn ymwneud mwy â’i gymuned oherwydd ei fod yn siarad Pwnjabeg. “Mae’n beth da iddo siarad â Sikhiaid hŷn yn y gurdwara, er mwyn iddo beidio teimlo’n unig.”

Cwestiynau cyffredin am ddwyieithrwydd

Cwestiwnٱ…
Ydy fy mhlant i'n ‘rhy hen’ i ddysgu iaith os nad ydyn nhw’n siarad yr iaith ers cael eu geni?“Po gynharaf y bydd y plentyn yn cael profiad o iaith arall, a pho fwyaf y daw i gysylltiad â’r iaith honno, yr hawsaf fydd hi i’r plentyn ddysgu’r iaith. Ond, dydy hyn ddim yn golygu ei bod hi'n rhy hwyr i blant hŷn, na hyd yn oed i oedolion! Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddod yn rhugl mewn iaith,” medd Catherine.
Oes angen i mi newid i iaith arall pan fydd fy mhlentyn yn dechrau yn yr ysgol?Mae llawer o rieni’n poeni am hyn. Fodd bynnag, does dim angen defnyddio’r iaith y bydd eich plentyn yn cael ei addysgu ynddi (Cymraeg neu iaith arall, fel Saesneg) yn y cartref. Byddan nhw’n cael digon o gyswllt â’r iaith honno yn yr ysgol, ac yn ei dysgu’n gyflym. Efallai mai dim ond yn y cartref a'ch cymuned y bydd eich plentyn yn clywed iaith (ieithoedd) y cartref, felly mae'n well ei defnyddio cymaint â phosibl.
Ddylwn i roi’r ffidil yn y to os nad yw fy mhlentyn yn ymateb i iaith?“Os oes mwy na dwy iaith yn eich cartref, peidiwch â phoeni, bydd eich babi’n gallu deall popeth ymhen amser,” medd Catherine. “Dylai pawb ddefnyddio’r iaith maen nhw’n teimlo fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio.”
Mam yn siarad gyda'i phlentyn ifanc
Image caption,
Mae canu a dweud straeon mewn gwahanol ieithoedd yn gallu helpu’ch plentyn i ddysgu.

Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer magu’ch plentyn yn ddwyieithog neu'n amlieithog:

  • Treuliwch amser yn siarad â’ch plentyn ym mhob iaith, a neilltuo amser penodol i siarad ieithoedd mae’n llai cyfarwydd â nhw. Peidiwch â phoeni am newid rhwng ieithoedd gan fod hyn yn rhywbeth arferol a defnyddiol, ac mae’r rhan fwyaf o bobl ddwyieithog neu amlieithog yn gwneud hynny heb sylweddoli hyd yn oed.
  • Dylech chi ganu ac adrodd straeon mewn gwahanol ieithoedd – mae odl ac ailadrodd yn helpu plant i gofio geiriau a sut maen nhw’n cael eu creu. Mae rhai teuluoedd yn meddwl ei bod yn ddefnyddiol ychwanegu arwyddion wrth siarad, gan eu bod nhw yr un fath mewn gwahanol ieithoedd.
  • Os yw hi’n bosibl, gwyliwch y teledu neu osod DVDs a gwasanaethau ffrydio yn eich ail iaith o bryd i’w gilydd.
  • Darllenwch i’ch plant mewn gwahanol ieithoedd. Defnyddiwch lyfrau heb eiriau os na allwch chi ddarllen iaith y cartref, neu os nad oes ffurf ysgrifenedig i’r iaith.
  • Gosodwch ddyfeisiau symudol yn eich ieithoedd eraill.
  • Chwiliwch am gyfleoedd cymdeithasol i’ch plant ddefnyddio eu hieithoedd; gallen nhw ymuno â grŵp neu ymweld â ffrindiau neu berthnasau sydd hefyd yn siarad yr ieithoedd.

Edrychwch ar (cynnwys Saesneg).

Ble nesaf?