Â鶹ԼÅÄ

Mae gwyliau’r haf wedi cyrraedd. Gall fod yn adeg gyffrous, ond hefyd yn adeg o banig i rieni a gofalwyr ledled y wlad. Mae pryderon yn dod i’r meddwl: ‘Pa weithgareddau allwn ni eu gwneud fel nad yw'r plant yn diflasu?’ neu ‘Sut gallwn ni ddiddanu’r teulu drwy’r haf heb dorri’r banc?’

Wrth i gostau byw gynyddu, efallai eich bod yn poeni sut i gadw’r gwariant yn is yr haf yma, tra’n gwneud eich gorau i sicrhau bod eich plant yn mwynhau bywyd ac yn dysgu ar yr un pryd. Peidiwch â phoeni! Dyma 22 o weithgareddau teuluol hwyliog am ddim ar gyfer yr haf. Maen nhw'n sicr o godi gwên a gwella sgiliau cyfathrebu eich plentyn ar yr un pryd.

Mae gemau pêl yn weithgareddau hafaidd gwych ac mae iddynt lawer o fanteision i ddatblygiad eich plentyn.
Image caption,
Mae gemau pêl yn weithgareddau hafaidd gwych ac mae iddynt lawer o fanteision i ddatblygiad eich plentyn.

Gweithgareddau awyr agored yn yr haf

1. Chwarae gêm bêl newydd

Allwn ni ddim dibynnu ar y tywydd bob amser ond pan mae’r haul yn penderfynu tywynnu, mae’n bryd mynd allan i'r awyr agored. Oeddech chi'n gwybod bod gemau pêl yn gallu helpu sgiliau echddygol (motor skills), sgiliau cymdeithasol a sgiliau cyfathrebu?

Mae sawl gêm hwyliog a syml i'w chwarae gyda phêl. Gallech chi chwarae gemau dynwared (cynnwys Saesneg), neu os ydy eich plentyn ychydig yn hŷn, beth am ein fersiwn ni sy'n gallu helpu i gynyddu geirfa eich plentyn.

2. Casglu cerrig

Does dim ots lle rydych chi’n treulio eich amser, rydych chi’n sicr o weld cerrig mân gerllaw. Boed chi ar y traeth, yn y parc lleol, neu yn eich gardd gefn, gallwch chi archwilio byd natur gyda’ch plentyn.

Mae’r gweithgaredd hafaidd yma yn rhad ac am ddim, a gellir ei wneud yn fwy creadigol fyth drwy gasglu cerrig a mynd â nhw adref i’w peintio neu eu haddurno. Gallech hyd yn oed roi enwau neu gymeriadau i'r cerrig ar ôl eu haddurno!

3. Chwarae hopsgotsh

Oeddech chi'n gwybod bod chwarae hopsgotsh yn gallu annog sgiliau darllen cynnar plentyn?

Bydd y gêm hwyliog hon yn rhad ac am ddim, bydd yn mynd â chi a’ch plentyn bach i'r awyr agored ac eich gwneud yn egnïol a bydd dilyn rheolau hopsgotsh hefyd yn annog eich plentyn i gymryd ei dro, gwrando ar gyfarwyddiadau a chydweithredu ag eraill.

I chwarae’r gêm syml hon yn yr awyr agored, bydd angen sialc neu garreg (un rydych chi wedi’i chasglu efallai!) a lle gwastad i dynnu llun o’r sgwariau hopsgotsh.

4. Adeiladu cwrs rhwystrau

Drwy adeiladau cwrs rhwystrau syml, naill ai yn eich tŷ neu mewn gardd, gallwch chi helpu i ddatblygu sgiliau echddygol eich plentyn a’u dysgu am waith tîm.

Bydd eich plentyn bach yn cael llawer o hwyl yn y broses, a hefyd yn dysgu sgiliau datrys problemau ar yr un pryd.

Os ydy hi’n bwrw glaw, gellir addasu'r gweithgaredd i'w chwarae dan do hefyd!

5. Helfa drysor ffonig

Mae pawb yn hoffi helfa drysor, beth bynnag eu hoed! Beth am droi eich helfa drysor nesaf yn helfa drysor ffonig (cynnwys Saesneg)?

Mae’r gweithgaredd yn berffaith os nad ydych eisiau dibynnu ar bropiau. At hynny, mae modd chwarae’r gweithgaredd yn unrhyw le.

Os ydych chi gartref, gofynnwch i’ch plentyn godi rhywbeth yn yr ystafell ac yna dweud yr enw’n uchel. Yna, gofynnwch iddo godi rhywbeth sy'n dechrau gyda sŵn tebyg. Mae’n gêm syml, a bydd yn hybu sgiliau llafar a darllen eich plentyn, yn ogystal ag yn herio ei allu i ganolbwyntio.

6. Gwylio’r cymylau

Wrthi'n cael picnic a’ch plentyn bach yn mynd yn aflonydd? Beth am wylio’r cymylau?

Mae’n weithgaredd syml sy’n siŵr o annog creadigrwydd. Drwy edrych ar yr awyr ac esbonio beth mae’r cymylau’n debyg iddynt, gallwch adael i’ch creadigrwydd lifo!

Bydd y gweithgaredd hefyd yn annog eich plentyn bach i esbonio beth mae’n ei weld, a gall hefyd helpu plant i ymdawelu.

7. Hel blodau a chreu gardd fach

Mae gerddi a pharciau lleol ledled y wlad yn eu blodau ar hyn o bryd. Cyfle perffaith i chi a’ch plentyn greu eich gardd fach eich hun.
Y cwbl sydd ei angen ar gyfer y gweithgaredd ydy rhywle i roi’r pethau a gasglwch (bydd plât papur yn iawn) a ffordd o gael gafael ar blanhigion a blodau.

Bydd y gweithgaredd hwyliog yma yn annog eich plentyn i archwilio ei ddychymyg a dysgu geiriau newydd.

8. Dawnsio yn y glaw

Rydym yn gwybod pa mor anwadal ydy'r tywydd. Yn hytrach na chuddio rhagddo, beth am fynd allan gydag ymbarél!

Mae cerddoriaeth a dawnsio yn dda i fabanod a phlant ifanc (cynnwys Saesneg). Mae bod yn egnïol gyda babanod a phlant bach yn gallu bod yn wych ar gyfer eu datblygiad corfforol a meddyliol yn ogystal â’u perthynas gyda chi.

Bydd mynd allan i'r glaw a dawnsio i’ch hoff ganeuon yn codi gwên.

Mae gemau pêl yn weithgareddau hafaidd gwych ac mae iddynt lawer o fanteision i ddatblygiad eich plentyn.
Image caption,
Mae gemau pêl yn weithgareddau hafaidd gwych ac mae iddynt lawer o fanteision i ddatblygiad eich plentyn.
Mae chwarae gyda phypedau hosan yn ffordd hwyliog o ddatblygu sgiliau cyfathrebu eich plentyn.
Image caption,
Mae chwarae gyda phypedau hosan yn ffordd hwyliog o ddatblygu sgiliau cyfathrebu eich plentyn.

Gweithgareddau rhad ac am ddim ar gyfer teuluoedd

9. Mynd i’ch llyfrgell leol

Erbyn hyn, mae llyfrgell yn fwy na lle i lyfrau. Mae llyfrgelloedd yn ganolfan i'r gymuned leol ac mae llawer ohonyn nhw'n cynnig grwpiau ysgrifennu ac iaith, sesiynau chwarae i blant bach, a dosbarthiadau creadigol.

Edrychwch ar yr hysbysfwrdd yn eich llyfrgell leol neu ar wefan i weld pa weithgareddau teuluol hwyliog sydd ar gael i chi.

10. Creu theatr bypedau hosan eich hun

Gofynnwch i’r teulu gymryd rhan a chreu eich sioe bypedau hosan eich hun! Dewch â straeon syml yn fyw o gysur eich cartref gydag ychydig iawn o bropiau.

Fel mae’r enw’n awgrymu, yr unig bethau sydd ei angen arnoch yw ’sanau a lleisiau gwirion i wneud i’ch plentyn chwerthin.

11. Cael hwylnos deuluol

Mae plant bach yn hoffi hwylnos (sleepover), a’r peth gorau? Dydyn nhw’n costio dim! Gallech osod blancedi cysgu yn eich ystafell fyw, neu os oes gennych babell, gallech ei chodi yn yr ardd gefn.

Er mwyn cael eich plant i ymlacio cyn noswylio, gallech chwarae gemau amser cysgu i’w helpu i ymlacio a chael noson dda o gwsg. Mae gemau amser cysgu yn weithgareddau gwych ar gyfer sefydlu trefn, yn enwedig yn ystod egwyl oddi wrth ofal plant neu'r ysgol.

12. Sesiwn tynnu lluniau teuluol

Byddwch yn greadigol gyda’ch plant a gwneud y gweithgaredd teuluol perffaith yma!

Trefnwch sesiwn tynnu lluniau teuluol ac albwm luniau (cynnwys Saesneg) er mwyn cofnodi atogofion arbennig. Bydd cael lluniau wrth law yn gymorth i gyflwyno wynebau cyfarwydd i’ch plentyn. Byddan nhw hefyd yn wych i edrych yn ôl arnyn nhw mewn blynyddoedd i ddod.

13. Mwynhau picnic tedi bêrs

Gofynnwch i'r teulu gymryd rhan yn y gweithgaredd annwyl yma i blant bach. Mae trefnu picnic tedi bêrs syml yn gyfle perffaith i chwarae rôl a datblygu sgiliau cyfathrebu eich plentyn.

Defnyddiwch hoff deganau eich plentyn a gosodwch gwpanau a soseri. Gallwch gynllunio gyda’ch plentyn bach pa fwyd a diod i'w rhannu, a chwarae rôl drwy siarad â’u teganau.

Mae chwarae gyda phypedau hosan yn ffordd hwyliog o ddatblygu sgiliau cyfathrebu eich plentyn.
Image caption,
Mae chwarae gyda phypedau hosan yn ffordd hwyliog o ddatblygu sgiliau cyfathrebu eich plentyn.
Mae chwarae sgitls cartref gydag eitemau'r cartref yn gwella sgiliau cydsymud a chyfathrebu eich plentyn.
Image caption,
Mae chwarae sgitls cartref gydag eitemau'r cartref yn gwella sgiliau cydsymud a chyfathrebu eich plentyn.

Gweithgareddau hafaidd hwyliog i’w gwneud gartref

14. Creu lolis rhew

Mae pawb yn gobeithio am haf poeth, a pha ffordd well i oeri na chreu lolis rhew gyda’ch plant. Mae’r gweithgaredd hawdd yma yn ffordd wych o gyflwyno geirfa newydd a thorri eu syched!

Os oes gennych awydd ychydig mwy o antur, beth am wneud hufen iâ sydyn mewn bag, er y bydd y gweithgaredd hwn yn fwy addas i blant ychydig yn hŷn.

15. Chwarae bowls poteli plastig

Dyma gêm syml i'w chwarae yn yr ardd neu'r cyntedd. Os nad oes gennych ddigon o boteli plastig ar gyfer eich sgitls, gallwch chi ddefnyddio rholiau papur tŷ bach.

Gêm hwyliog i annog eich plant i chwarae gyda’i gilydd, cymryd tro a disgrifio beth maen nhw’n wneud.

16. Creu teganau

Taniwch ddychymyg eich plentyn drwy greu eich teganau eich hunain (cynnwys Saesneg)!

Does dim angen i deganau fod yn ffansi nac yn ddrud. Gyda’r gweithgaredd haf syml hwn, gallwch wneud teganau allan o unrhyw beth, fel cartonau wy, caeadau poteli neu focsys creision ŷd. Rhowch enwau a chymeriadau i’ch teganau, a pharatoi i gael oriau o hwyl!

17. Creu eich jig-so eich hun

Helpwch i ddatblygu sgiliau canolbwyntio a chydsymud eich plentyn drwy greu eich jig-so eich hun.

Y cwbl sydd ei angen ydy hen bapurau newydd, cylchgronau neu focsys creision ŷd. Torrwch neu rhwygwch y tudalennau neu'r bocsys ac yna helpu eich plentyn i’w rhoi at ei gilydd eto.

Cofiwch ddefnyddio siswrn sy’n addas i blant, a chadw llygad drwy'r amser.

18. Creu eich offerynnau cerdd eich hun

Mae plant yn hoffi cerddoriaeth, a’r peth gorau yw bod modd eu cynnwys mewn unrhyw weithgaredd bron. I ganu wrth fwydo neu ganu caneuon arbennig wrth gael bath, does dim angen llais fel angel i ganu gyda’ch plentyn.

Mae creu eich offerynnau cerdd eich hun (cynnwys Saesneg) yn weithgaredd hwyliog i'w wneud gartref. Y cwbl sydd ei angen ydy hen botiau iogwrt neu ganiau coffi, ac ambell falŵn.

Awydd creu band llawn? Er mwyn creu eich gitâr eich hun, y cwbl sydd ei angen ydy hen focs creision ŷd a bandiau elastig. A nawr, beth am gynhesu'r llais?!

19. Creu awyrennau papur

Mae creu awyren bapur yn ddefod bwysig ar ôl i’ch plant ddechrau yn yr ysgol. Dechreuwch yn gynnar a gwneud awyrennau papur lliwgar gyda’ch plant. Gallwch chi eu paentio a’u haddurno, a’u gwylio’n hedfan o gwmpas yr ystafell fyw neu'r ardd.

Os ydy eich plentyn braidd yn ifanc i greu awyrennau papur, beth am rwygo papur? Mae plant yn hoffi’r gweithgaredd swnllyd yma, ac mae’n gyfle i gyflwyno geirfa newydd fel ‘siffrwd’ a ‘chrensian’.

20. Pobi rhywbeth gyda’ch gilydd

Crëwch atgofion gyda’ch plant drwy bobi gyda’ch gilydd. Mae'r gweithgaredd hafaidd yma yn gallu annog plant bach ffyslyd i roi cynnig ar fwydydd newydd sydd â gwahanol flasau ac ansawdd.

Byddai ychwanegu hwiangerddi neu ganeuon i’ch gweithgareddau pobi hefyd yn gallu helpu plant i gofio ryseitiau syml a threfn.

21. Creu clai cartref

Dyma rybudd y gallai'r gweithgaredd hafaidd hwyliog yma greu ychydig o lanast!

Mae creu clai yn weithgaredd synhwyraidd creadigol i blant ac i oedolion! Mae ein rysáit clai cartref yn hawdd i'w ddilyn (cynnwys Saesneg) ac mae’n defnyddio cynhwysion cyffredin.

Mae creu clai cartref yn weithgaredd teuluol perffaith ar gyfer diwrnodau gwlyb yn yr haf. Gall helpu i ddatblygu sgiliau echddygol manwl, gwella sgiliau ieithyddol a chymdeithasol, a hyd yn oed tawelu plant os ydynt yn rhy egnïol adeg noswylio.

22. Codi caer

Codi caer ydy ein gweithgaredd hwyliog olaf. Y peth gorau am y gweithgaredd yma yw bod modd ei gyfuno â thacluso!

Wrth i chi dacluso, gall eich plentyn helpu i roi'r teganau a’r bocsys yn bentwr a dweud beth mae’n ei adeiladu. Gall eich plentyn arwain a phenderfynu i ble mae’r teganau'n mynd. Mae hyn hefyd yn helpu i sefydlu trefn a chadw ei ystafell ychydig yn daclusach.

Boed chi'n dewis gwylio cymylau, codi caer neu chwarae hwylnos fel gweithgaredd, rydych chi’n siŵr o greu atgofion a fydd yn para oes.

Mae cymaint o ddewis o weithgareddau fel gallai fod yn anodd penderfynu pa un i’w wneud yn gyntaf. Os ydych eisiau ychwanegu ychydig o gyffro i wyliau'r haf, beth am ysgrifennu’r holl weithgareddau ar ddarnau o bapur a’u rhoi mewn jar. Gallai eich plentyn ddewis un pan rydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud gyda’ch gilydd.

Ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol ar a a dweud beth yw eich hoff weithgareddau teuluol ar gyfer yr haf.

Mae chwarae sgitls cartref gydag eitemau'r cartref yn gwella sgiliau cydsymud a chyfathrebu eich plentyn.
Image caption,
Mae chwarae sgitls cartref gydag eitemau'r cartref yn gwella sgiliau cydsymud a chyfathrebu eich plentyn.

Ble nesaf?