Â鶹ԼÅÄ

Rheolau Gwobrau RAP 2012

Mae'r gwobrau yn cael eu cyfeirio atynt fel "Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru 2012".

Bydd y gwobrau yn cael eu rhoi ar gyfer y cyfnod rhwng Ionawr 2011 a diwedd Rhagfyr 2011.

Mae'r gwobrau yn cael eu dyfarnu gan Banel o gynrychiolwyr o'r sîn gerddoriaeth gyfoes yng Nghymru.

Mae'r Panel yn cynnwys un cynrychiolydd yr un o gwmnïau recordio (sydd wedi rhyddhau albwm gan o leiaf 2 artist yn ystod y flwyddyn dan sylw), cylchgronnau sy'n rhoi sylw i'r sîn gerddoriaeth gyfoes yng Nghymru, cwmnïau teledu sy'n cynhyrchu rhaglenni cerddoriaeth gyfoes, gwefannau sy'n adlewyrchu'r sîn gerddoriaeth gyfoes, trefnwyr cyngherddau ar lefel genedlaethol ac Undebau Myfyrywr Prifysgol Cymru. Bydd angen pleidlais o leiaf 70% o aelodau'r panel ar gyfer dilysrwydd y Gwobrau.

Bydd y Panelwyr yn derbyn rhestr o gategorïau y maent yn cael bwrw pleidlais arnynt.

Mae pob aelod o'r Panel yn cael UN bleidlais.

Ni chaiff aelodau o'r panel bledleisio dros unrhyw grŵp neu artist mae ganddynt gysylltiad personol agos â hwy neu gysylltiad masnachol. Ni fydd cynrychiolwyr cwmniau recordio yn cael pledleisio dros artist ar eu labeli hwy. Bydd aelodau'r panel yn cadarnhau mewn ysgrifen nad oes unrhyw wrthdaro yn bodoli.

Os ydi'r pledleisiau yn gyfartal mewn unrhyw gategori bydd y panel yn pledleisio eto. Os fydd y bleidlais yn gyfartal am yr eilwaith yna bydd Golygydd Radio Cymru yn bwrw'r bleidlais derfynol.

Bydd Gwobr Sesiwn C2 yn cael ei dyfarnu gan dîm gynhyrchu presennol C2 (llawn amser a rhan amser, 10 yn 2012) yn dilyn trafodaeth a phleidlais rhwng y cynhyrchwyr. Os ydi'r pledleisiau yn gyfartal bydd y panel yn pledleisio eto. Os fydd y bleidlais yn gyfartal am yr eilwaith yna bydd Golygydd Radio Cymru yn bwrw'r bleidlais derfynol.

Bydd Gwobr Siart C2 yn cael ei rhoi i'r grŵp neu artist sydd wedi bod yn rhif un Siart C2 am y nifer fwyaf o wythnosau rhwng Ionawr 2011 a Rhagfyr 2011. Rhennir y wobr os yw'r cyfanswm wythnosau yn gyfartal.

Bydd y pledleisiau yn cael eu cyfrif gan gynhyrchwyr y Â鶹ԼÅÄ ac yn cael eu harolygu gan Is-Olygydd Radio Cymru.

Bydd y rhestrau byrion yn cael eu cyhoeddi ar nifer o raglenni Radio Cymru yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 30 Ebrill 2012. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar nifer o raglenni ar Radio Cymru yn ystod ddydd Llun Mai 7fed 2012, rhwng 8:30am a 11pm.

Bydd y rheolau uchod yn cael eu cyhoeddi ar wefan Radio Cymru.

Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddiarddel unrhyw aelod o'r Panel os nad ydynt yn cadw at reolau'r Gwobrau, neu os ydynt yn ceisio dylanwadu ar aelodau eraill o'r Panel neu yn dwyn perswad ar eraill i wneud hynny.

Mae'r Â鶹ԼÅÄ hefyd yn cadw'r hawl i ganslo'r Gwobrau unrhyw bryd os yw hynny'n addas ym marn y Â鶹ԼÅÄ neu os oes amglychiadau'n codi sydd y tu hwnt i reolaeth y Â鶹ԼÅÄ.

Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddiarddel unrhyw artist neu fand o'r Gwobrau os ydynt yn ceisio dylanwadu ar y panel mewn unrhyw fodd neu yn ceisio dwyn perswad ar eraill i wneud hynny.

Bydd yr enillwyr, a'r artistiaid neu fandiau ar y rhestrau byrion, yn derbyn pecyn yn dynodi sut y gallent ddefnyddio eu teitl neu statws yn dilyn y Gwobrau. Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i dynnu'r teitl neu statws oddiar unrhyw artist neu fand os ydynt yn camddefnyddio'r teitl neu statws neu os oes posibilrwydd y bydden nhw'n dwyn anfri ar y Â鶹ԼÅÄ.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Lisa Gwilym

Haia Un o fy hoff CDs o 2012 oedd un nes i ...

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.