Βι¶ΉΤΌΕΔ

RAP yn gwobrwyo'r goreuon

Magi Dodd a Hefin Thomas

Mae'r noson fawr wedi cyrraedd ac uchafbwynt i wythnosau o drafod a dyfalu o fewn y byd cerddoriaeth yng Nghymru wrth i enillwyr Gwobrau RAP Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru gael eu datgelu.

Fe gyhoeddwyd yn barod mai enillwyr categori Cyfraniad Oes Gwobrau RAP yw Richard a Wyn Jones o grwp Ail Symudiad a Stiwdio Fflach yn Aberteifi a heno bydd rhaglen gyffrous a bywiog yn cyhoeddi gweddill yr enillwyr.

Bydd prif raglen Gwobrau RAP yn cael ei darlledu am 8pm gyda Hefin Thomas a Magi Dodd yn cyflwyno yn fyw o stiwdios Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru ym Mangor . Bydd Dyl Mei, (sydd ei hun yn enillydd casgliad o wobrau RAP yn y gorffennol), a Huw Evans yn cyflwyno rhaglen amgen yn eu ffordd ddihafal eu hunain a fydd ar gael ar bbc.co.uk/radiocymru, hefyd am 8pm. Bydd Lisa Gwilym yn cyflwyno sesiynau byw yn ystod y rhaglen gan Mr Huw, Huw M a Fflur Dafydd, hefyd yn fyw o stiwdio'r Βι¶ΉΤΌΕΔ ym Mangor.

Meddai John Roberts, Golygydd dros dro Radio Cymru:

"Gwobrau'r diwydiant ei hun yw gwobrau RAP Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru, gwobrau y mae'r cerddorion, y cwmnΓ―au recordio, y darlledwyr, y wasg a'r trefnwyr gigs yn eu dyfarnu, felly ar un ystyr y maent yn llawer iawn mwy arwyddocaol i berfformwyr. Mae safon aelodau'r rhestr fer yn uchel iawn eleni a llongyfarchiadau mawr i'r holl enillwyr."

Dyma restr fer Gwobrau RAP Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru 2010:

Cyfansoddwr y flwyddyn
Gai Toms
Al Lewis
Huw M*
Daniel Lloyd

Can y flwyddyn
Dere Mewn - Colorama
Fel Hyn Am Byth - Yr Ods*
Seisnigeiddio - Promatics
Cacen Mamgu - Race Horses

Artist Benywaidd y Flwyddyn
Fflur Dafydd*
Lowri Evans
Cerys Matthews
Cate Le Bon

Cynhyrchydd y Flwyddyn
Rich Roberts
Dave Wrench*
Tim Hamill
John Lawrence

Gwobr Siart C2 ( y grwp sydd wedi bod ar frig y siart amlaf )
Gwibdaith Hen Fran

Digwyddiad Byw y Flwyddyn
Gwyl Gardd Goll
Swn
Maes B*
Gwyl Gwydir

Artist Gwrywaidd y Flwyddyn
Huw M*
Al Lewis
Mr Huw
Endaf Presli

Sesiwn C2 y flwyddyn
Mr Huw*
Colorama
Masters in France
Bandana

Grwp a ddaeth i amlygrwydd
Masters in France
Y Niwl*
Promatics
Yr Ods

Band Byw y Flwyddyn
Derwyddon Dr Gonzo
Race Horses
Yr Ods
Sibrydion*

Albym y Flwyddyn
Byd Bach - Fflur Dafydd
Stonk - Derwyddon Dr Gonzo
Os Mewn Swn - Huw M
Hud a Llefrith - Mr Huw*

Band neu Artist y Flwyddyn
Masters in France
Yr Ods
Race Horses
Sibrydion*

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Lisa Gwilym

Haia Un o fy hoff CDs o 2012 oedd un nes i ...

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.