John Jones
Gellir gwrando ar John ac Alun yn cyflwyno eu rhaglen wythnosol.
Holi John Jones
Beth sy'n gwneud i ti ymlacio?
Cerdded y ci a siarad hefo hi gan wbod na neith hi ateb yn ôl.
Pa atgof sy'n gwneud i ti gochi fwyaf?
Deud celwydd wrth mam nad o'n i yn ysmygu pan yn unarddeg oed.
Pa raglen deledu wyt ti'n mwynhau fwyaf ar hyn o bryd?
Waking the Dead.
Pa raglen sy'n gwneud i ti ddiffodd y teledu?
Unrhyw raglenni realiti - erchyll!
Petai ti'n cael newid un peth am dy hun - beth fyddai hynny?
Fy ngwallt - mae yn tyfu rhy gyflym.
Oes gen ti lysenw?
John Felin - 'di byw hefo taid yn y Felin fy holl blentyndod ac arddegau.
Pe na fyddet ti'n gyflwynydd radio, beth fyddai dy swydd ddelfrydol?
Gyrrwr trên.
Beth oedd dy hoff losin pan yn blentyn?
Doeddwn i byth yn byta losin pan yn blentyn. Fe ddwedodd taid y byddai fy nannedd yn disgyn allan cyn i mi fod yn ddeg oed.
Pwy sydd yn dy ysbrydoli di?
Jonathan Ross - mae o mor glyfar yn holi gwesteion.
Pa eitem yn dy gwpwrdd dillad sy'n codi'r cywilydd mwyaf arnat ti?
Does dim un yn codi cywilydd - dwi'm yn un am wario ar ddillad ac mae'r hyn sy' gen i yn fy mhlesio yn iawn.
Beth yw dy leoliad picnic delfrydol?
Hanner ffordd i ben y Wyddfa i orffen y picnic nes'i ddechra nôl yn 1966.
Petai ti'n ennill y loteri - beth fyddai'r peth cyntaf i ti wneud?
G'neud yn saff bod fy nwy ferch yn gyfforddus yn ariannol.
Pwy fydde ti'n hoffi gweld yn dy actio di mewn ffilm am dy fywyd?
Bryn Fôn, er mwyn iddo gael dysgu canu go iawn de!!