Main content

Rheolau Cystadleuaeth John ac Alun

Telerau ac Amodau

TELERAU AC AMODAU CYSTADLEUAETH JOHN AC ALUN

Pwy sy’n gymwys

1. Mae'r gystadleuaeth ar agor i holl breswylwyr y DU, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, heblaw am weithwyr y Βι¶ΉΤΌΕΔ, gweithwyr cwmni GrΕµp y Βι¶ΉΤΌΕΔ, eu perthnasoedd agos ac unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.

Sut mae rhoi cynig arni?

2. Mae modd rhoi cynnig ar y gystadleuaeth drwy ffonio 03703 500 500. Ffonio yw’r unig ffordd o gystadlu. Codir prisiau daearyddol safonol am alwadau o ffonau sefydlog a ffonau symudol.

3. Bydd y gystadleuaeth fel arfer yn cael ei chynnal bob wythnos ar raglen John ac Alun ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru ar nos Sul (ac eithrio pan fydd gofynion golygyddol yn arwain at newid amserlen neu newid yng nghynnwys y rhaglen). Bydd y llinellau ar agor rhwng tua 2215 a 2255. Bydd y rheini sy’n ffonio yn defnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth i ateb cwestiwn sy’n seiliedig ar gerddoriaeth.

4. Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu dewis ar hap gan feddalwedd gyfrifiadurol briodol o’r rhestr o geisiadau cymwys. Bydd y staff cynhyrchu yn rhoi gwybod i'r cyflwynwyr fod y llinellau ffôn wedi cau, a bydd y cyflwynydd yn rhoi gwybod i’r gwrandawyr.

5. Rhaid i rif ffôn yr ymgeisydd fod yr un rhif â’r ffôn a ddefnyddir i gofrestru. Rhaid i’r ymgeisydd fod yn ymgeisio ar ei ran ei hun. Mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn cadw’r hawl i wahardd unrhyw ymgeisydd nad oedd wedi cofrestru ar ei ffôn ei hun neu ar ei ran ei hun. Gall hyn olygu bod ymgeisydd arall yn cael ei ddewis o blith yr holl ymgeiswyr.

Y Wobr

6. Bydd y wobr fuddugol yn cael ei disgrifio ar yr awyr gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ. Caiff y wobr ei danfon i'r enillydd drwy’r post. Nid oes unrhyw opsiwn ariannol yn lle’r wobr ac nid oes modd gwerthu na throsglwyddo’r wobr o dan unrhyw amgylchiadau.

7. Mae penderfyniad y Βι¶ΉΤΌΕΔ o ran yr enillydd yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebu’n digwydd mewn perthynas â’r gystadleuaeth.

8. Os nad oes modd i’r Βι¶ΉΤΌΕΔ gysylltu â’r enillydd, mae’n cadw’r hawl i beidio â dyfarnu’r wobr.

Cyffredinol

9. Rhaid i bob ymgeisydd gytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd ar ôl y gystadleuaeth, os bydd angen.

10. Ni chaiff enillwyr y gystadleuaeth gystadlu eto am 2 fis.

11. Mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn cadw’r hawl i’r canlynol (i) diwygio’r telerau ac amodau hyn; (ii) anghymhwyso unrhyw ymgeisydd sy’n torri’r rheolau, sydd wedi ymddwyn yn dwyllodrus mewn unrhyw ffordd neu sydd wedi dwyn anfri ar y Βι¶ΉΤΌΕΔ (ar ei ddisgresiwn ei hun) a; (iii) lle bo’n berthnasol, anghymhwyso ymgeisydd neu enillydd, tynnu unrhyw wobr yn ôl, neu gynnig gwobr arall yn ei lle, os bydd unrhyw ymgeisydd, enillydd neu eu gwestai ar unrhyw adeg yn arddangos ymddygiad amhriodol neu beryglus (gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i fod dan ddylanwad alcohol, sylweddau cemegol neu gyffuriau anghyfreithiol neu achosi niwsans) cyn iddo ddod ar yr awyr neu pan mae ar yr awyr, pan mae’n mynychu adeiladau’r Βι¶ΉΤΌΕΔ neu os yw’r wobr yn cynnwys mynd i ddigwyddiad, cael ei wahardd o’r digwyddiad hwnnw; a (iv) canslo’r gystadleuaeth, ar unrhyw adeg, os yw’n tybio yn ei farn ef fod hynny’n angenrheidiol neu os cyfyd amgylchiadau y tu allan i’w reolaeth.

12. Ystyrir bod ymgeiswyr wedi derbyn y rheolau ac yn cytuno i gael eu rhwymo ganddynt wrth roi cynnig ar y gystadleuaeth hon.

13. Mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn cadw’r hawl i anghymhwyso unrhyw gystadleuydd y mae’n amau ei fod wedi twyllo.

14. Ni chaiff y Βι¶ΉΤΌΕΔ, ei isgontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol neu unrhyw broblem arall â’r Rhyngrwyd neu fel arall gydag unrhyw weinydd, system, rhwydwaith neu ddarparwr gwasanaeth neu fel arall a allai olygu bod unrhyw gofnod yn cael ei golli neu ei gofrestru'n anghywir.

15. Ni all y Βι¶ΉΤΌΕΔ dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros ansawdd y wobr, nam ar y wobr, na phroblemau yn ymwneud â danfon. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (boed difrod neu golledion o’r fath wedi’u rhagweld, yn rhagweladwy, yn hysbys neu fel arall) gan gynnwys colled neu siom ariannol neu i enw da.

16. Ystyrir bod ymgeiswyr wedi derbyn y rheolau hyn ac yn cytuno i gadw atynt wrth gofrestru.

17. Mae’r gystadleuaeth hon yn cyd-fynd â Chod Ymddygiad y Βι¶ΉΤΌΕΔ ar gyfer Cystadlaethau a Phleidleisio, sydd i'w weld yn

18. Y Βι¶ΉΤΌΕΔ sy’n cynnal y gystadleuaeth hon. Cyfraith Cymru a Lloegr sy’n berthnasol i'r hysbysiad a’r telerau hyn.

Hysbysiad Preifatrwydd

(Diweddariad i’r Hysbysiad Preifatrwydd 03/04/24. Mae’r cyfnod cadw data wedi ei ddiweddaru.)

Cystadleuaeth Teleffoni John ac Alun Radio Cymru 2024-25
Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y Βι¶ΉΤΌΕΔ wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydyn ni’n defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.

Pam ydyn ni’n gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?
Mae cynulleidfaoedd wrth galon popeth a wnawn yn y Βι¶ΉΤΌΕΔ. Rydym yn ymroi i ymgysylltu â’n cynulleidfa ac yn gofyn iddi gymryd rhan a chyfrannu mewn amrywiol ffyrdd, gan gynnwys drwy gystadlaethau teleffoni.

Bydd gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn cael ei hegluro ar yr awyr neu ar-lein, gan gynnwys y rheolau sy’n berthnasol i gystadlaethau penodol.

Os byddwch chi’n ymddangos ar yr awyr, gall hyn olygu bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gellir defnyddio’ch cyfraniad eto mewn darllediad yn y dyfodol.

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio eich ymddangosiad ar yr awyr (os yw’n berthnasol) at ddibenion hyrwyddo ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol y Βι¶ΉΤΌΕΔ.

Pa ddata personol fydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn ei gasglu a sut byddwn yn ei ddefnyddio?
Bydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn casglu ac yn prosesu eich data personol er mwyn gweinyddu’r gystadleuaeth teleffoni; er mwyn cadw cofnod o’r enillwyr at ddibenion cydymffurfio ac archwilio; er mwyn creu cynnwys darlledu; ac er mwyn rhoi’r wobr i’r enillydd.

Data personol
Gan ddibynnu ar natur y gystadleuaeth, efallai y bydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol amdanoch chi:
• Enw llawn
• Rhif ffôn
• Eich oedran, neu gadarnhad eich bod yn ddigon hen i gymryd rhan
• Recordiad darlledu o’ch llais
• Eich barn, eich atebion i’n cwestiynau a gwybodaeth fywgraffyddol yr hoffech ei rhannu

Efallai y byddwn hefyd yn casglu eich cyfeiriad e-bost neu eich cyfeiriad post os ydych chi’n enillydd er mwyn i ni allu anfon eich gwobr atoch.

Pwy yw’r Rheolydd Data?
Y Βι¶ΉΤΌΕΔ yw “rheolydd data” eich data personol. Mae hyn yn golygu mai’r Βι¶ΉΤΌΕΔ fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond at y dibenion sydd wedi’u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i brosesu. Fel y rheolydd data, mae gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data, a dangos ei fod yn cydymffurfio â hi.

Sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol
Y sail gyfreithlon a ddefnyddia'r Βι¶ΉΤΌΕΔ ar gyfer prosesu data personol yw er mwyn cyflawni ei rôl gyhoeddus.β€―Rôl y Βι¶ΉΤΌΕΔ yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.

Mae gennym hefyd rwymedigaeth gyfreithiol i brosesu data personol yr enillwyr er mwyn cydymffurfio â rheoliadau cystadleuaeth perthnasol.

Rhannu eich data personol
Mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Mae’r partneriaid hyn yn defnyddio’ch data personol ar ran y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn unig, ac nid yn annibynnol ar y Βι¶ΉΤΌΕΔ. Ar gyfer cystadlaethau teleffoni, rydym yn defnyddio llwyfan teleffoni trydydd parti.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti, os bydd y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny.

Cadw eich data personol
Bydd data personol sydd wedi’i storio ar y llwyfan ffôn, fel rhif ffôn cyswllt ac unrhyw recordiadau o alwadau yn cael eu cadw am 6 mis ac yna’n cael eu dileu.

Bydd data personol eraill gan ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael ei gadw tan ddiwedd cystadleuaeth y diwrnod hwnnw.

Rydym yn cadw cofnodion o enillwyr a'r rhai a ddaeth yn ail am ddwy (2) flynedd at ddibenion archwilio a chydymffurfio.

Os byddwch yn ymddangos ar ddarllediad, bydd y rhaglen yn cael ei chadw a’i harchifo am byth gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ.

Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Eich hawliau a rhagor o wybodaeth
Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:
• Gallwch ofyn am gopi o’r data personol mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn ei storio amdanoch chi.
• Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.
• Mae gennych chi hawl i ofyn i’r data personol rydyn ni’n ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a allai roi’r hawl i’r Βι¶ΉΤΌΕΔ wrthod eich cais.
• Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych chi hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.
• Mae gennych chi hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.

Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych chi am gael gwybod mwy am eich hawliau, edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn http://www.bbc.co.uk/privacy.

Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ wedi delio â’ch data personol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) .

Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydyn ni’n defnyddio’ch data personol yn newid yn sylweddol.