Main content

Seazoo

Dechreuodd Seazoo o Wrecsam fel prosiect ystafell wely ar gyfer Ben Tro o Camera a Mowbird, a Llinos Griffiths.

Teitl ffaith Data ffaith
Aelodau :
Llinos Griffiths (Allweddellau), Ben Trow Gitar/Llais), Dan West (Gitar), Mike Smith (Bas) a Steffan Owens (Drymiau)

Cafodd momentwm annisgwyl ei greu a doedd dim modd i’r radio (Â鶹ԼÅÄ Radio Wales / Amazing Radio / Steve Lamacq ar Â鶹ԼÅÄ 6Music) anwybyddu athrylith ‘Sesame-Street-yn-gwneud-Pavement’ eu recordiadau cyntaf. Dydw i ddim wedi chwarae unrhyw beth ar fy sioe yn ddiweddar sydd wedi ennyn ymateb mor frwdfrydig gan y gwrandawyr. Mae na rywbeth anhygoel o orfoleddus a dyrchafol, heb fod yn siwgwraidd o gwbl, am gerddoriaeth Seazoo.

Efallai mai’r isleisiau seicedelig annisgwyl yn arddull y Gorky’s neu’r teimlad eich bod yn dyst i atgyfodiad Grandaddy, a hynny mewn ystafell wely fechan rywle yn Wrecsam, sy’n sail i fywiogrwydd breuddwydiol gorfoleddus eu halawon sy’n aros yn y cof.

Ac mae aros yn y cof yn berffaith wir.

Byddwch yn wyliadwrus – mi fydd yr alawon hyn yn glynu’n sownd yn y cof.

(Gan Adam Walton, cyflwynydd Â鶹ԼÅÄ Radio Wales) 

Galleries

Gwefannau Eraill