Main content

Kizzy Crawford

Mae Kizzy Meriel Crawford o Ferthyr Tudful wedi cyflawni llawer yn barod yn ystod ei 18 mlynedd.

Prin iawn yw'r adegau hynny pan ddaw artist â'r fath grebwyll cerddorol naturiol, diymdrech a hunanfeddiannol i’r amlwg fel bod yn rhaid i ni, sy’n gweithio'n feunyddiol yn chwilio am gerddorion newydd a diddorol, sefyll yn ôl a diolch i’r nef. Enillodd wobr Canwr-Cyfansoddwr Gwreiddiol Arts Connect yn 2012. Mae wedi perfformio’n fyw gerbron cannoedd o filoedd ar deledu Cymru, ac mae wedi chwarae yn WOMEX pan gafodd yr ŵyl ei chynnal yng Nghaerdydd yn 2013. Mae hefyd wedi rhyddhau E.P. ‘The Starling’, a gafodd ei chanmol gan y beirniaid, a ddaeth yn rhan cyson o rhestrau chwarae Â鶹ԼÅÄ Radio Wales a Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru.

Mae gallu aruthrol Kizzy i ysgrifennu caneuon yn cyfuno genres amrywiol yn naturiol (gwerin / soul /jazz) ac yn dod â rhywbeth newydd, pur a chyffrous i'r dirwedd gerddorol. Meddyliwch am Joan Armatrading yn canu John Martyn, ond wedyn meddyliwch eto, oherwydd ni all yr un datganiad syml grynhoi cerddoriaeth Kizzy.

(Gan Adam Walton, cyflwynydd Â鶹ԼÅÄ Radio Wales)

Gwefannau Eraill