Twm Elias
Twm Elias yw un o aelodau selocaf tim Galwad Cynnar.
Darlithydd a Threfnydd Cyrsiau yn Nghanolfan Astudiaethau Amgylcheddol Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch ydi o yn swyddogol, ond mae o hefyd yn olygydd y cylchgrawn Fferm a Thyddyn, yn gyd-olygydd Llygad Barcud (cylchgawn Cymdeithas Ted Breeze Jones) ac yn gyfranwr cyson i Llafar Gwlad. Fel pe bai hynny ddim yn ddigon, mae Twm, hefyd, yn awdur llond silff o lyfrau ar fyd natur, hanes amaethyddiaeth, llen gwerin ac arwyddion tywydd.
Yn ogystal a'i gyfraniadau wythnosol i Galwad, mae Twm wedi cyfrannu i raglenni eraill megis Natur Wyllt a Byd Iolo.Cyn ymuno a thim Galwad Cynnar, ryw dro tua diwedd y ganrif ddwythaf, roedd Twm yn aelod cyson o banel Seiat Byd Natur, ac w'chi be? Mae o hyd yn oed wedi darlledu ar radio a theledu yn yr iaith fain!
Rydym ni yn pryfocio tipyn ar Twm, ond mae gan pob un o'r tim barch mawr tuag ato mewn gwirionedd oherwydd, y ffaith yw fod Twm, rwdlyn chwareus ag ydi o, yn chwip o naturiaethwr.