Bethan Wyn Jones
Botanegwraig, darlledwraig, cyfieithydd, awdur, darlithydd, a cholofnydd wythnosol yn y Daily Post Cymraeg.
Botanegwraig, darlledwraig, cyfieithydd, awdur, darlithydd, a cholofnydd wythnosol yn y Daily Post Cymraeg. Ychwanegwch deithio at y rhestr hefyd, ac fe welwch fod Bethan Wyn Jones yn ddynes brysur iawn !
Mae gan Bethan lond silff o lyfrau i'w henw erbyn hyn : Bwrw Blwyddyn, Chwyn Joe Pye a Phincas Robin Goch, Y Doctor Dail, Y Wiwer Goch, a Blodau Gwyllt, ac ail gyfrol o Y Doctor Dail .
Un o raddedigion Adran Swoleg Prifysgol Aberystwyth, yw Bethan. Ei phrif ddiddordeb yw planhigion a bywyd gwyllt y traeth a'r cynefin rhyng-lanw. Ond mae ganddi diddordeb mewn planhigion yn gyffredinol hefyd, ac yn nefnydd meddiginiaethol y ddynoliaeth ohonnyn nhw. Fe fu Bethan yn gynhyrchydd gyda Radio Cymru ar un adeg hefyd ac yn gyfrifol am raglenni fel Awyr Agored a iGweld Llais a Chlywed Llun