Main content

Y Parchedig John Owain Jones

Beti George yn sgwrsio gyda'r Parchedig J Owain Jones. Beti George chats to Reverend John Owain Jones from The United Church of Bute.

Mae'r Parchedig John Owain Jones yn ymddeol fel Gweinidog ar Ynys Bute yn mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel Gweinidog yno. Cafodd ei eni yn Llanelwy a’i fagu yn Rhyl nes roedd yn 13 oed, cyn symud i Gaernarfon. Roedd ei Dad yn gweithio i’r Swyddfa Bost a chafodd swydd fel Post feistr yn Nghaernarfon.

Mae cysylltiad Owain â'r Alban wedi bod yno bron o’r cychwyn. Wedi i’w rieni ddyweddïo roedd ei Dad eisiau arian i brynu tŷ felly aeth i weithio am gyfnod i’r Swyddfa Bost yn Rhodesia. Ar y llong ar ei ffordd draw yno rhannodd fync ar y llong gyda David Walker a oedd yn dod o Ynys Bute. Daeth ei Dad ac yntau’n ffrindiau pennaf a bu’n was priodas i’w Dad. Priododd ei fam a’i dad yn Salisbury, Rhodesia (Harare bellach). Priodwyd y ddau yn y Second Presbyterian Church ac roedd y Gweinidog yn dod yn wreiddiol o St Andrews (lle bu Owain yn y Brifysgol), a dychwelodd David yn ôl i Ynys Bute yn ddiweddarach. David hefyd oedd tad bedydd Owain a’i frawd Gethin.

Bob haf roedd y teulu’n mynd draw i Ynys Bute ar wyliau. Roedd hynny yn un o’r rhesymau pam y dewisodd Owain Brifysgol St Andrews. Yn ddiweddarach fe aeth Owain i Rhodesia am gyfnod i weinidogaethu.

Mae Owain yn cyfrannu’n gyson i’r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i’r Daily Service ar Radio 4. Fe fydd hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru.

Mae'n rhannu straeon am ei fywyd ac yn dewis ambell i gân.

Ar gael nawr

52 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 1 Rhag 2022 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Ulrik Spang-Hanssen

    Prelude and Fugue in A Minor, BWV 543: Fugue

    • Bach in Italy.
    • CDklassisk.
    • 5.
  • The Tornados

    Telstar

    • Rediscover The 60's - Sealed With A K.
    • Old Gold.
  • Donna Summer

    MacArthur Park

    • The Dance Collection.
    • Casablanca.
    • 4.
  • German Symphony Orchestra Berlin & Riccardo Chailly

    Symphony No. 7 in E major

    • Bruckner: The Symphonies.
    • Decca Music Group Ltd..
    • 30.

Darllediadau

  • Sul 27 Tach 2022 13:00
  • Iau 1 Rhag 2022 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad