Main content

Iestyn Davies

Iestyn Davies cyn ditectif ac uwch arolygydd Heddlu Gogledd Cymru yw gwestai Beti George. Retired Detective Superintendent Iestyn Davies, chats to Beti George.

Dros y blynyddoedd mae’r cyn-dditectif a Phrif Arolygydd Iestyn Davies wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr heddlu’n cynnig gwasanaethau Cymraeg.
Wedi treulio 30 mlynedd gyda Heddlu’r Gogledd, mae Iestyn bellach yn Bencampwr y Gymraeg gyda’r cwmni sy’n gyfrifol am redeg cyrsiau i’r rhai sydd wedi eu dal yn goryrru. UKROEd (UK Road Offender Education) sy’n rhoi trwyddedau i gwmnïau eraill i hyfforddi pobol sydd wedi eu dal yn gyrru yn gyflymach na’r terfyn, a gwaith Iestyn yw sicrhau bod y cwmnïau yng Nghymru yn cydymffurfio â rheolau iaith.

Cyn hynny, bu’r gŵr sy’n byw ym Mhorthaethwy ym Môn yn arwain y tîm oedd yn edrych ar droseddau difrifol, gan gynnwys llofruddiaethau a ddenodd sylw'r byd.

Mae Iestyn yn rhannu straeon bywyd ac yn sôn am y sialensiau a'r mwynhad a gafodd o wneud y gwaith.

Ar gael nawr

51 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 24 Tach 2022 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Plethyn

    Seidir Ddoe

    • Goreuon.
    • Sain.
    • 18.
  • Hogia'r Ddwylan

    Y Tangnefeddwyr

    • Sain.
  • Cordia

    Dim Ond Un

    • Tu ôl i'r Llun.
    • Independent.
    • 1.
  • Candelas

    Rhedeg I Paris

Darllediadau

  • Sul 20 Tach 2022 13:00
  • Iau 24 Tach 2022 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad