Sylvia Davies
Beti George yn sgwrsio gyda Sylvia Davies, amgylchedd wraig a sefydlodd ei chwmni ei hun Eto Eto. Beti George chats to Sylvia Davies owner of Eto Eto Fashion accessory designer.
Sylvia Davies, amgylchedd wraig a sefydlodd ei chwmni ei hun Eto Eto yw gwestai Beti George. Mae hi'n creu bagiau ac ategolion allan o wastraff fyddai fel arall yn mynd i'r domen sbwriel.
Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn gwnïo a dysgodd wnïo pan oedd hi’n 4 oed - roedd ei Mam yn arfer gwnïo dillad iddi hi a’i chwaer. Fe wnïodd Sylvia ei ffrog briodas ei hun. Roedd gwnïo felly yn rhywbeth oedd yn ei chysylltu hi â’i mam. Sgil bywyd a ddysgodd ganddi, ac yn dilyn ei marwolaeth fe ddaeth yn llinyn cyswllt ac yn ffordd o ddygymod â’r galar.
Bu Sylvia yn byw a gweithio yn Israel ac yng Ngwlad Thai, a hynny ar ôl astudio ei gradd mewn Anthropoleg yn y Brifysgol yn Llundain. Bu'n dipyn o rebel yn ei harddegau, ac mae hi'n rhannu straeon o'i bywyd cynnar yng Nghaerfyrddin. Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Clip
-
Anthropoleg, De America ac Israel
Hyd: 05:05
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
London Symphony Orchestra & London Symphony Chorus
Carmina Burana: O Fortuna
-
Meen
°ä±ô¾±³¦³óé
-
Melin Melyn
Nefoedd yr Adar
-
Jools Holland & Tom Jones
Life's Too Short
Darllediadau
- Sul 4 Rhag 2022 13:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2
- Sul 16 Ebr 2023 18:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2
- Iau 20 Ebr 2023 18:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2 & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people