Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

'Triongl Evo'

Golwg ar y frwydr i ddal gyrrwyr sy'n defnyddio tair ffordd yn y gogledd fel trac rasio. A look at the battle to catch drivers using three north Wales roads as a race track.

Mae tair ffordd sy'n cysylltu Pentrefoelas, Llyn Brenig a Cherrigydrudion wedi dod yn gylchdaith boblogaidd i bobl sy'n hoffi ceir a beiciau modur. Nid y ffyrdd o gwmpas Mynydd Hiraethog ydi'r rhain iddyn nhw, ond yr 'Evo Triangle', wedi'i enwi ar ôl cylchgrawn moduro poblogaidd. Nawr, mae pryder bod y lle'n cael ei ddefnyddio gan bobl sy'n torri'r gyfraith drwy yrru'n beryglus.

Y llynedd, cafodd cwpl o Fagillt eu lladd ar ôl i'w car fod mewn damwain gyda pherson oedd yn defnyddio'r lôn "fel trac rasio", yn ôl y barnwr.

Gyda nifer yn ffilmio eu hunain yn mynd ar hyd y ffyrdd ar gyflymder, a rhoi fideos o'u taith arlein, mae pryder hefyd bod pobl yn cael eu hannog i ddod i'r ardal i'w hefelychu.

Yn y rhaglen hon, mae Manylu'n mynd allan gyda Heddlu'r Gogledd i blismona'r ardal, a siarad â phobl leol sy'n gorfod defnyddio'r ffyrdd bob dydd.

Mae'r rhaglen yn holi dyn a ddaeth i'r ardal dros yr haf, a rhoi fideo o'i daith ar y rhyngrwyd, yn ogystal â datgelu cynlluniau newydd i geisio lleihau'r broblem.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 15 Hyd 2017 16:00

Darllediadau

  • Iau 12 Hyd 2017 12:30
  • Sul 15 Hyd 2017 16:00

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad