Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Pysgota Anghyfreithlon

Ymchwiliad i bryderon nad oes digon o bysgotwyr anghyfreithlon yn cael eu dal. An investigation into concerns that not enough is being done to deal with illegal fishing.

Ymchwiliad i bryderon nad oes digon o bysgotwyr anghyfreithlon yn cael eu dal.

Wrth siarad â Manylu, mae rhai o aelodau Cymdeithas Pysgotwyr Seiont, Gwyrfai a Llyfni'n sôn am botsiars yn cael eu gweld yn cymryd pysgod o Lyn y Dywarchen, gydag un yn adrodd ei hanes yn cael ei fygwth gan ddau ddyn ar ôl iddo dynnu llun a'u holi.

Yn ôl un ciper a fu'n gwneud y gwaith am ddeugain mlynedd, roedd dros saith deg ohonyn nhw'n gwarchod afonydd Cymru pan ddechreuodd o, ond mae llai nag ugain erbyn hyn.

Mae'r awdurdodau'n dadlau nad oes angen cynifer o giperiaid erbyn hyn, gan fod potsian yn llai o broblem y dyddiau yma. Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn gwneud defnydd da o wybodaeth, i dargedu rhai ardaloedd penodol.

Mae'r rhaglen yn mynd allan gyda swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, i geisio dal pysgotwyr anghyfreithlon ar Afon Teifi.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 22 Hyd 2017 16:00

Darllediadau

  • Iau 19 Hyd 2017 12:30
  • Sul 22 Hyd 2017 16:00

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad