Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Trydedd Pont Dros Afon Menai Erbyn 2021?

Rhaglen yn edrych ar bosibilrwydd codi pont newydd ar draws Afon Menai erbyn 2021. A look at the possibility of a new bridge over the Menai Strait by 2021.

Mae'n bosib mai atgof yn unig fydd ciwio dros y pontydd rhwng Ynys Môn a'r tir mawr erbyn 2021, wrth i Lywodraeth Cymru weithio ar gynlluniau ar gyfer trydedd pont dros y Fenai.

Mae amserlen gaeth wedi'i llunio, yn ôl y Llywodraeth, sy'n cynnwys ymhynghori â'r cyhoedd yng ngwanwyn 2018, dewis llwybr erbyn yr haf, a dechrau ar yr adeiladu yn 2020, gyda'r gwaith wedi'i orffen erbyn diwedd 2021.

Byddai'r bont yn cynnwys amddiffynfeydd rhag y gwynt, er mwyn osgoi gorfod ei chau yn ystod tywydd garw.

Mae un o'r cwmnïau sy'n gwneud ymchwil cychwynnol i'r Llywodraeth wedi dweud wrth Manylu y dylai'r dyluniad newydd barchu'r hen bontydd yn ogystal â'r tirwedd, ond hefyd bod yn brydferth gyda ei chymeriad unigryw ei hun.

Un opsiwn sy'n cael ffafriaeth ydy pont newydd ar hyd ochr orllewinol Pont Britannia. Gall y £135m sydd ei angen i'w chodi ddod gan Lywodraeth Cymru, ond mae gobaith y bydd National Grid - sydd am wario £200m ar dwnnel o dan y Fenai, i gario ceblau o Wylfa Newydd i'r is-orsaf drydan ym Mhentir ger Bangor - yn gwario'r arian hwnnw ar godi'r bont. Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, yn dweud wrth y rhaglen y byddai'n anghyfrifol i beidio â thrafod hyn.

Mae Manylu hefyd yn siarad â Dewi Williams, Pennaeth Priffyrdd Cyngor Sir Ynys Môn, sy'n sôn am gynlluniau ddeng mlynedd yn ôl i godi pont newydd. Mae o'n gobeithio y daw rhywbeth pendant o'r cynlluniau diweddaraf yma.

Wrth i nifer o bobl sy'n defnyddio'r pontydd presennol yn gyson groesawu'r syniad o ffordd ychwanegol, mae Gwynne Morris Jones, cyn-ysgrifennydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, yn dadlau nad oes galw am un.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 8 Hyd 2017 16:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Gweld holl benodau Manylu

Darllediadau

  • Iau 5 Hyd 2017 12:30
  • Sul 8 Hyd 2017 16:00

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad