Ian Jones
Cyfweliad estynedig ag Ian Jones ar ddiwedd ei gyfnod fel Prif Weithredwr S4C. An interview with Ian Jones to mark the end of his tenure as Chief Executive of S4C.
Bum mlynedd a hanner yn ôl, daeth Ian Jones o'r Unol Daleithiau i gymryd yr awenau fel Prif Weithredwr S4C. Roedd yn dilyn cyfnod cythryblus iawn i'r sianel, a oedd yn cynnwys ymadawiad sydyn Iona Jones; beirniadaeth chwyrn gan wleidyddion; anghytuno rhwng aelodau o Awdurdod S4C; pryder am lai o gyllid.
Sefydlogi S4C oedd ei dasg gyntaf, ond mae digon o sialensau eraill wedi codi ers 2012, fel symud pencadlys allan o Gaerdydd; darlledu digidol; cystadleuaeth enfawr o fewn y diwydiant darlledu; ceisio cadw gwylwyr a chyllid.
Aled ap Dafydd, un o ohebwyr gwleidyddol Â鶹ԼÅÄ Cymru, sy'n holi Ian Jones am ei gyfnod wrth y llyw, ac am yr hyn sy'n wynebu'r sianel nesaf.
Mae Manylu hefyd yn cael barn Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, y colofnydd Gwilym Owen a'r darlithydd cyfryngau Dr Dyfrig Jones.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediadau
- Iau 28 Medi 2017 12:30Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Sul 1 Hyd 2017 16:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.