Rhoddion i'r Gwasanaeth Iechyd
Pa mor ddibynnol ydi'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ar roddion ariannol gan y cyhoedd? Manylu asks who dependent the NHS in Wales is on public donations.
Mae ymdrechion y cyhoedd i godi miliynau o bunnau a rhoi rhoddion o ewyllysion yn cyfrannu'n helaeth tuag at ariannu'r Gwasanaeth Iechyd.
Mae'r arian yn cael ei ddefnyddio i dalu am bob math o bethau, fel gwneud cyfnod y claf yn yr ysbyty yn brafiach a thalu am offer na fyddai'n cael ei ariannu gan y pwrs cyhoeddus. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i brynu offer mae'r tîm meddygol eu hangen, ac i dalu am brosiectau mawr i wella canolfannau arbenigol.
Bythefnos cyn darlledu'r rhaglen hon, er enghraifft, fe agorodd Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd ar ei newydd wedd. Mae'r addasiadau - sy'n cynnwys cynyddu nifer y gwelyau a chreu ystafell ddisgwyl newydd - wedi costio £1.2 miliwn, sef arian a gafodd ei roi i elusen Awyr Las.
Roedd £10 miliwn o incwm wedi mynd i goffrau'r byrddau iechyd y llynedd, diolch i roddion y cyhoedd. Dros £6 biliwn ydi cyllid blynyddol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Pam bod angen i unigolion gasglu arian i wasanaeth iechyd, ac a ddylid disgwyl i'r cyhoedd fynd yn ddyfnach i'w pocedi ar ôl talu eu trethi?
Pa fath o bethau sy'n cael eu prynu gan yr arian yma, a pha fath o bobl sy'n fodlon treulio cymaint o'u hamser hamdden yn gweithio'n galed i helpu'r Gwasanaeth Iechyd?
Mae Manylu yn holi pobl sydd wedi casglu miloedd i achosion da ym myd iechyd dros y blynyddoedd, ac hefyd yn clywed gan rai sy'n elwa.
Darllediad diwethaf
Clipiau
Darllediadau
- Iau 6 Gorff 2017 12:30Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Sul 9 Gorff 2017 16:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.