Main content

Stori Fer Aled Hughes

Mae rhaglen Aled Hughes ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru yn cyflwyno cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru.

Rydym yn galw ar ddisgyblion i ysgrifennu stori o ddim mwy na 500 gair ar thema "Hud a Lledrith".

Mae tri chategori –

  • Cyfnod Sylfaen, sef 5-7 oed
  • Cyfnod allwedol 2a, 7-9 oed
  • Cyfnod allweddol 2b, 9-11 oed

Casia Wiliam yw’r beirniad fydd yn pori drwy'r straeon ac yn dewis y dair stori orau.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei lansio yn swyddogol ar raglen Aled Hughes, ar 9fed o Ebrill 2024.

Bydd ceisiadau yn cael eu beirniadu ar sail y meini prawf canlynol:

  • Gwreiddioldeb
  • Plot
  • Cymeriadu
  • Iaith
  • Mwynhad

Bydd y dyddiad cau ar y 7fed o Fehefin 2024.

Noder bydd yr enillwyr bellach yn cael eu cyhoeddi ar raglen Aled Hughes ar 4ydd o Orffennaf 2024, ble bydd yr enillwyr eu hunain yn derbyn rhodd gan y Cyngor Llyfrau, ynghyd â chlawr digidol wedi ei gynllunio ar gyfer y straeon buddugol.

Os am gystadlu, rhaid i'r ysgol anfon eu straeon byrion drwy’r ysgol (ynghyd â ffurflen gais sydd i’w chael ar wefan Radio Cymru) i Radio Cymru erbyn y dyddiad cau, 7fed o Fehefin 2024.


Y cyfeiriad yw:

Sgwennu Stori Aled Hughes
Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru
Bryn Meirion
Bangor
LL57 2BY


Rhaid nodi'n glir ffugenw’r disgybl, y categori ac enw’r ysgol ar ben pob stori os gwelwch yn dda. Bydd angen i'r ysgol gadw rhestr o'r enwau sy'n cyd-fynd â'r ffugenwau.


Gwnewch yn siΕµr eich bod wedi darllen y termau, yr hysbysiad preifatrwydd a'r hysbysiad preifartrwydd i bobol ifanc cyn cystadlu.


Ffurflen Gais - PDF


Ffurflen Gais - Word


Am ragor o wybodaeth cysylltwch â rhaglen Aled Hughes ar aled@bbc.co.uk


POB LWC!