Main content

Sgwennu Stori Aled Hughes - Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y Βι¶ΉΤΌΕΔ wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydyn ni’n defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.

Pam ydyn ni’n gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?

Mae Cystadleuaeth Stori Fer Aled Hughes yn gystadleuaeth stori fer Gymraeg ar gyfer plant ysgolion cynradd, gyda therfyn oedran uchaf o 11 oed.

Bydd yr holl gynigion yn cael eu hanfon i’r Βι¶ΉΤΌΕΔ gan yr athro dosbarth drwy’r post. Rhaid i athrawon gael caniatâd rhiant/gwarcheidwad cyn iddynt anfon stori’r myfyriwr i gael ei hystyried. Rydym yn gofyn i athrawon rannu’r hysbysiad preifatrwydd hwn gyda rhieni/gwarcheidwaid ac i sicrhau bod y fersiwn plant o’r hysbysiad preifatrwydd hwn ar gael i’r myfyrwyr.

Bydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn darlledu perfformiad o’r stori fuddugol, enw cyntaf yr awdur a’u hoedran, ar raglen radio Aled Hughes. Gall hyn gynnwys bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gellir defnyddio’r perfformiad eto mewn darllediad yn y dyfodol.

Efallai y byddwn yn defnyddio clipiau o’r rhaglen ar sianelau cyfryngau cymdeithasol y Βι¶ΉΤΌΕΔ.

I gael gwybodaeth am sut bydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn prosesu eich data personol pan fyddwch chi’n cyfrannu at ein rhaglenni, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cyfranwyr yma.

Pa ddata personol fydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn ei gasglu?

Bydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol am yr athro:
• Enw Llawn
• Cyfeiriad e-bost
• Rhif ffôn
• Enw’r ysgol

Bydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn casglu’r data personol canlynol am y myfyriwr:
• Enw cyntaf a/neu ffugenw
• Oedran
• Eu stori fer

Pwy yw’r Rheolydd Data?

Y Βι¶ΉΤΌΕΔ yw “rheolydd data” eich data personol. Mae hyn yn golygu mai’r Βι¶ΉΤΌΕΔ fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond at y dibenion sydd wedi’u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i brosesu. Fel y rheolydd data, mae gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data, ac i ddangos ei fod yn cydymffurfio â hi.

Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol

Mae’r ffordd y mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn prosesu’chβ€―data personol wedi’i seilio’n gyfreithiolβ€―arβ€―gyflawni ei rôl gyhoeddus. Rôl y Βι¶ΉΤΌΕΔ yw gweithredu er budd y cyhoeddβ€―aβ€―gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, addysgu a diddanu.β€―Mae hyn yn gyson â dibenion cyhoeddus ehangach y Βι¶ΉΤΌΕΔ dan ei Siarter Frenhinol sy’n cynnwys adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol holl wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig, a darparu cynnwys addysgol arbenigol i helpu i gefnogi dysgu ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau ledled y Deyrnas Unedig.

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol hefyd i brosesu data personol yr enillwyr er mwyn cydymffurfio â rheoliadau cystadleuaeth perthnasol.

Rhannu eich data personol

Mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Mae’r partneriaid hyn yn defnyddio’ch data personol ar ran y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn unig, ac nid yn annibynnol ar y Βι¶ΉΤΌΕΔ.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti, os bydd y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny.

Cadw eich data personol

Yn achos straeon byr aflwyddiannus, byddwn yn cadw data personol yr athro a’r myfyriwr am un (1) mis ar ôl dyddiad terfynu’r gystadleuaeth.

Yn achos unrhyw stori fer fydd yn cael ei defnyddio i’w ddarlledu, bydd y data personol yn cael ei gadw a’i archifo gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ am byth. Byddwn yn cadw gweddill data personol yr athro a’r plentyn am ddwy (2) flynedd at ddibenion archwilio a chydymffurfio.

Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Eich hawliau a rhagor o wybodaeth

Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:

  • Gallwch ofyn am gopi o’r data personol mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn ei storio amdanoch chi.
  • Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.
  • Mae gennych chi hawl i ofyn i’r data personol rydyn ni’n ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a allai roi’r hawl i’r Βι¶ΉΤΌΕΔ wrthod eich cais.
  • Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych chi hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.
  • Mae gennych chi hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.

Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych chi am gael gwybod mwy am eich hawliau, edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn http://www.bbc.co.uk/privacy.

Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ wedi delio â’ch data personol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) .

Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydyn ni’n defnyddio’ch data personol yn newid yn sylweddol.