Main content

Sgwennu Stori Aled Hughes - Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau – Rheolau Stori Fer Aled Hughes Cymraeg 2024 (y ‘Gystadleuaeth’)

Diweddarwyd y termau ar 05 Ebrill 2024

1. Trefnir y Gystadleuaeth gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ mewn cydweithrediad ag Ysgolion Cynradd Cymru.

2. Mae Cod Ymddygiad y Βι¶ΉΤΌΕΔ ar gyfer Cystadlaethau a Phleidleisiau yn gymwys i’r Gystadleuaeth hon. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma: .

3. Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i bersonau sydd yn mynychu Ysgol Gynradd ac sydd yn y Cyfnod Sylfaen 5-7 oed, Cyfnod Allweddol 2a 7-9 oed a chyfnod allweddol 2b 9-11 oed mewn unrhyw Ysgol Gynradd sydd o fewn ffiniau Cymru, ac eithrio personau sydd yn perthyn i weithwyr y Βι¶ΉΤΌΕΔ neu gwmni GrΕµp y Βι¶ΉΤΌΕΔ, neu unrhyw un sydd yn gysylltiedig â’r Gystadleuaeth (yr ‘Ymgeisydd’). Efallai y bydd angen dangos tystiolaeth o bwy ydych chi, eich oedran a’ch bod yn gymwys i gymryd rhan.

4. Y Wobr i’r tri (3) cystadleuydd buddugol yn y Gystadleuaeth hon yw pecyn o lyfrau a roddir gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Sut mae rhoi cynnig arni?

5. Mae’r Gystadleuaeth hon yn agor ar 9fed Ebrill 2024 a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59 ar 7fed Mehefin 2024 (y ‘Dyddiad Cau’). Mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn cadw’r hawl i ymestyn y Dyddiad Cau ar gyfer y Gystadleuaeth hon yn ôl ei ddisgresiwn ei hun. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar 4ydd Gorffennaf 2024.

6. Rhaid i’r ymgeiswyr ysgrifennu stori fer ffuglennol yn y Gymraeg (dim mwy na 500 gair) wedi eu teipio neu mewn llawysgrifen.

7. Bydd y cystadlu yn digwydd drwy’r Ysgol, a fydd yn anfon y straeon mewn un amlen, ynghyd â ffurflen gystadlu, yn egluro o ba ysgol y’u hanfonwyd ac ym mha gategori y maent yn cystadlu. Bydd y straeon eu hunain yn cynnwys y ‘ffugenw”, ac enw’r ysgol ar dop pob papur yn unig. Ni ddylai enw’r plentyn ymddangos yn unman ar y papur nac yn yr amlen. Bydd yr athro yn cadw rhestr o’r ‘ffug enwau’ ynghyd â gwir enwau’r myfyrwyr yn yr ysgol. Rhaid anfon y straeon i Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru, Bryn Meirion, Bangor, LL57 2BY erbyn y Dyddiad Cau a nodir uchod. Gadewch ddigon o amser i ni dderbyn y cynigion. Bydd unrhyw geisiadau a ddaw i law ar ôl y Dyddiad Cau yn cael eu gwahardd.

8. Cyn cystadlu yn y Gystadleuaeth, rhaid i’r athro sy’n anfon y straeon sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yr Ymgeisydd wedi darllen ac yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn. Ystyrir bod y rhai sy’n cystadlu wedi derbyn y telerau ac amodau ac yn cytuno i gael eu rhwymo ganddynt wrth gofrestru. Bydd yn ofynnol i oedolyn (athro/ pennaeth) gymeradwyo’r ymgais. Yn achos y 3 ar y brig, bydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn cysylltu â’r athro a gyflwynodd y straeon i ofyn am gadarnhad o’r caniatâd a gafwyd gan riant neu warcheidwad yr Ymgeisydd.

9. Dim ond drwy eu hysgol gynradd y gall ymgeiswyr gystadlu. Dim ond un cais a ganiateir i bob person. Os cyflwynir mwy nag un cynnig, dim ond cynnig cyntaf yr Ymgeisydd fydd yn cael ei ystyried.

10. Rhaid i’r cynigion fod yn ddarn o ffuglen wreiddiol yn seiliedig ar thema benodol, ac ni ddylai fod yn gofnod o ddigwyddiadau real - boed hynny yn hanesyddol neu’n gyfredol. Ond, gall y straeon gynnwys cymeriadau adnabyddus o’r presennol neu’r gorffennol (e.e. Gareth Bale neu Owain GlyndΕµr), gallant ddigwydd mewn cyfnodau hanesyddol (e.e. Cyfnod Llywelyn Fawr) neu ddefnyddio profiadau bywyd go iawn fel man cychwyn creadigol, cyn belled bod y stori yn FFUGLENNOL. Mae'r Ymgeisydd yn gwarantu nad yw wedi defnyddio deunydd nac yn cofnodi digwyddiadau sydd wedi digwydd go iawn nac wedi defnyddio manylion personol unrhyw bersonau byw yn y stori. Oherwydd bydd y straeon yn cael eu cyhoeddi, mae’n bwysig nad yw’r Ymgeiswyr yn cynnwys unrhyw fanylion personol amdanynt eu hunain.

11. Rhaid i geisiadau fod yn waith gwreiddiol gan yr Ymgeisydd, a pheidio â thresmasu ar hawliau unrhyw barti arall. Yn ogystal, ni chaniateir defnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i greu unrhyw ran o gais. Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn derbyn unrhyw atebolrwydd os bydd ymgeiswyr yn anwybyddu’r Telerau ac Amodau hyn, ac mae rhiant, gwarcheidwad neu athro’r Ymgeisydd yn cytuno i indemnio’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn erbyn unrhyw hawliadau gan unrhyw drydydd parti a fydd yn codi yn sgil unrhyw achos o dorri’r Telerau ac Amodau hyn.

12. Does dim modd dychwelyd y cynigion, felly cofiwch gadw copi. Ni fyddir yn cysylltu ag ymgeiswyr aflwyddiannus mewn perthynas â’u cynigion ac ni ddarperir adborth ar unrhyw gynnig.

13. Rhaid i bob cais fod yn waith gwreiddiol gan yr Ymgeisydd, a pheidio â thresmasu ar hawliau unrhyw barti arall. Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn derbyn unrhyw atebolrwydd os bydd Ymgeiswyr yn anwybyddu’r Telerau ac Amodau hyn, ac mae’r Ymgeiswyr yn cytuno i indemnio’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn erbyn unrhyw hawliadau gan unrhyw drydydd parti a fydd yn codi yn sgil unrhyw achos o dorri’r Telerau ac Amodau hyn.

14. Ni chaiff ceisiadau gynnwys deunydd difenwol, anweddus na sarhaus, nac unrhyw ddeunydd anaddas arall. Rhaid i’r cynigion fod yn addas i’w darlledu, eu cyhoeddi neu eu defnyddio ar-lein gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oed, ond yn benodol ar gyfer cynulleidfa o blant. Edrychwch ar y canlynol i gael rhagor o wybodaeth: . Os bydd gan y stori gynnwys fydd yn peri gofid, gall y Βι¶ΉΤΌΕΔ (os bydd yn ofynnol) ymofyn cyngor gan yr NSPCC, a gall gyfeirio’r cynnwys sy’n peri gofid i’r awdurdodau perthnasol yn unol â .

15. Bydd Ymgeiswyr yn cadw’r hawlfraint ar eu cynigion ond yn rhoi trwydded fyd-eang, barhaus, anghyfyngedig, heb freindal, i gyhoeddi, darlledu (ar draws yr holl gyfryngau) ac i bostio’r cynnig ar-lein ac ar unrhyw blatfformau eraill nas rhagwelir ar hyn o bryd. Ystyrir bod y drwydded yn cynnwys yr holl hawliau a chaniatadau sydd eu hangen i alluogi defnydd o’r fath gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ, i wireddu’r gwobrau ac i gwblhau’r gwaith o weinyddu’r Gystadleuaeth hon.

16. Drwy gyflwyno stori, mae’r Ymgeisydd yn cytuno y gall y Βι¶ΉΤΌΕΔ, yn ôl ei ddisgresiwn ei hun, olygu, addasu, cwtogi neu gyfieithu’r cynnig ar gyfer y dibenion a restrir yng nghymal 15 uchod.

17. Os bydd cynnig yn cael ei gyhoeddi ar-lein yn www.bbc.co.uk/radiocymru, ni fydd hynny yn rhan o, nac yn dylanwadu mewn unrhyw ffordd ar y broses feirniadu. Dim ond teitl y stori, enw ac oedran yr Ymgeisydd fydd yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymgais.

Meini Prawf Beirniadu

18. Bydd y ceisiadau’n cael eu beirniadu yn unol â’r meini prawf canlynol:
18.1. Gwreiddioldeb
18.2. Plot
18.3. Cymeriadu
18.4. Y Gymraeg
18.5. Mwynhad

19. Bydd y straeon yn cael eu beirniadu gan banel o feirniaid fydd yn cynnwys awduron plant Cymraeg, mewn partneriaeth â ffigwr golygyddol o’r Βι¶ΉΤΌΕΔ, a fydd yn darllen ac yn sgorio’r straeon di-enw hyn gan ddefnyddio’r meini prawf uchod, er mwyn creu rhestr o 3 stori fuddugol, un ym mhob categori.
20. Efallai y bydd y 3 ymgais fuddugol yn cael eu darllen a’u darlledu ar Radio Cymru. Hefyd, gall cynigion y 3 enillydd gael eu cyhoeddi mewn papurau newydd rhanbarthol a lleol.

21. Bydd penderfyniad y Βι¶ΉΤΌΕΔ ynghylch pob cam o’r Gystadleuaeth hon, y swp a anfonir at y beirniaid a’r 3 enillydd, yn derfynol. Ni fyddwn yn gohebu mewn perthynas â hyn.

22. Mae’r wobr fel y nodir. Nid oes unrhyw opsiwn ariannol yn lle’r wobr ac nid oes modd gwerthu na throsglwyddo’r wobr o dan unrhyw amgylchiadau. Mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn cadw’r hawl i gyfnewid neu ategu at unrhyw elfen o’r wobr. Nid yw’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am unrhyw elfen neu newid i’r wobr sydd y tu hwnt i’w reolaeth. Ni all y Βι¶ΉΤΌΕΔ dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros ansawdd y wobr, nam ar y wobr, na phroblemau yn ymwneud â danfon.

23. Mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn cadw’r hawl i anghymhwyso unrhyw gynnig sy’n torri unrhyw un o’r Telerau ac Amodau hyn, neu i atal gwobr os nad yw cynigion yn cyrraedd y safon ofynnol.

24. Mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn cadw’r hawl i (i) newid y Telerau a’r Amodau hyn neu ganslo’r Gystadleuaeth ar unrhyw adeg os tybir bod hynny’n angenrheidiol yn ei farn ef neu os bydd amgylchiadau’n codi y tu allan i’w reolaeth, (ii) gwahardd unrhyw Ymgeisydd sy’n torri’r Telerau a’r Amodau hyn, sydd wedi ymddwyn yn dwyllodrus mewn unrhyw ffordd neu sy’n wedi dwyn anfri ar y Βι¶ΉΤΌΕΔ (yn ôl ei ddisgresiwn llwyr).

25. Ni chaiff y Βι¶ΉΤΌΕΔ, ei is-gontractwyr, is-gwmnïau, asiantaethau a/neu unrhyw sefydliad arall sy’n gysylltiedig â’r Gystadleuaeth hon dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol neu unrhyw broblem arall ag unrhyw weinydd, mynediad rhyngrwyd, system neu fel arall a all arwain at golli neu beidio â chofrestru neu gofnodi unrhyw gynnig yn iawn. Ni fydd cynigion a anfonir drwy’r post yn cael eu cydnabod, ac nid yw’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynigion hwyr, colledig neu a ddifrodwyd. Nid yw prawf o anfon yn brawf o dderbyn.

26. Ystyrir bod Ymgeiswyr wedi derbyn y Telerau ac Amodau ac yn cytuno i gael eu rhwymo ganddynt wrth anfon ymgais i’r Gystadleuaeth hon. Pan fo cynnig yn cael ei anfon gan drydydd parti ar ran Ymgeisydd (e.e. Athro yn anfon cynnig ar ran myfyriwr gyda chaniatâd rhiant/gwarcheidwad), bydd y parti fydd yn anfon y cynnig yn gyfrifol am sicrhau bod yr Ymgeisydd yn cydymffurfio â’r Telerau ac Amodau. Bydd cynigion fydd yn torri Telerau ac Amodau’r Gystadleuaeth hon yn cael eu anghymhwyso.

27. Os penderfynir bod unrhyw un o’r cymalau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu’n anorfodadwy fel arall, yna caiff ei dorri ymaith a’i ddileu o’r Telerau a’r Amodau hyn a bydd y cymalau sy’n weddill yn goroesi, ac yn parhau mewn grym ac effaith lawn.

28. Mae’r Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.