Hysbysiad Preifatrwydd
Diogelu Data
Mae Trystan ac Emma, sy’n cael eu cynhyrchu gan Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru, yn cynnal cystadleuaeth i'r gynulleidfa ddylunio addurn coeden Nadolig gan ddefnyddio rholyn papur toiled a fydd yn cael ei feirniadu gan banel Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru, gyda detholiad o luniau o’r dyluniadau yn cael eu gosod ar goeden rithwir Trystan ac Emma. Bydd y dylunydd buddugol yn derbyn rholyn toiled gyda llun o Trystan ac Emma ar bob dalen. Mae Trystan ac Emma yn gofyn i ymgeiswyr gyflwyno delwedd o'u dyluniad trwy e-bost. Bydd y dyluniadau ar y rhestr fer a'r enillydd yn cael eu dewis gan banel sy'n cynnwys cynhyrchydd, ymchwilydd a dau gyflwynydd o Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru a bydd eu penderfyniad yn derfynol.
Bydd Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru yn casglu ac yn prosesu eich enw llawn a'ch cyfeiriad e-bost, ynghyd â delwedd o'ch addurniad Nadolig. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i gysylltu â chi os ydych chi'n llwyddiannus.
Y Βι¶ΉΤΌΕΔ yw rheolwr data'r wybodaeth bersonol y mae'n ei chasglu amdanoch chi yn ystod eich cyfranogiad yn y gystadleuaeth. Mae hyn yn golygu ei fod yn penderfynu ar gyfer beth y defnyddir eich gwybodaeth bersonol a sut y caiff ei phrosesu. Tasg gyhoeddus y Βι¶ΉΤΌΕΔ yw’r sail gyfreithiol y mae Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru yn prosesu gwybodaeth bersonol y cystadleuwyr.
Dim ond ar gyfer gweinyddu'r gystadleuaeth hon y bydd y data personol a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio. Yn gyffredinol, bydd mynediad i'ch data personol yn cael ei gyfyngu i aelodau perthnasol o dîm cynhyrchu Trystan ac Emma. Lle bo angen, efallai y byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth â grΕµp y Βι¶ΉΤΌΕΔ a'u cynghorwyr proffesiynol.
Cyhoeddir enw’r cystadleuydd buddugol ar yr awyr.
Bydd manylion yr enillydd yn cael eu cadw at ddibenion rheoleiddio am gyfnod o ddwy flynedd. Byddwn yn cadw manylion yr holl ymgeiswyr nes bydd y gystadleuaeth wedi dod i ben, ac ar ôl hynny byddant yn cael eu dileu yn ddiogel.
I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyfranwyr yn
Os ydych am ddefnyddio eich hawl i gysylltu â'r Βι¶ΉΤΌΕΔ mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â dataprotection@bbc.com