Telerau ac Amodau
1. Mae mynediad ar agor i unrhyw un sy'n preswylio yn y DU (gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) yn unig, oni nodir isod. Dylai ymgeiswyr o dan 18 oed sicrhau bod eu rhiant / gwarcheidwad wedi darllen yr amodau a thelerau hyn.
2. Rhaid i ymgeiswyr beidio â bod yn weithwyr y Βι¶ΉΤΌΕΔ na'r Βι¶ΉΤΌΕΔ Group, perthnasau agos i unrhyw weithwyr o'r fath nac unrhyw berson sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth. Gellir gofyn am brawf cymhwysedd.
3. Yn ddelfrydol dylai'r ddelwedd fod ar 300 ppi. Bydd y delweddau'n cael eu dangos ar gyfeiriadedd tirlun (landscape), nid portread (portrait). Ni ddylai maint y ffeil ddylunio fod yn fwy na 10mb. Ni fydd ceisiadau sy'n fwy na'r maint hwn yn cael eu hystyried.
4. Rhaid i bob cais gael ei grefftio â llaw.
5. Mae'r cystadleuwyr yn gwarantu, trwy gyflwyno'r ddelwedd addurno, bod dyluniad yr addurniad:
A. Yn waith gwreiddiol yr ymgeiswyr,
B. Nid yw'n addasiad o waith cynharach,
C. Ni fydd wedi cael ei gynnig o'r blaen i'w gyhoeddi, ar unrhyw ffurf neu gyfrwng arall i unrhyw berson neu gwmni arall,
D. Nid wedi cael ei gynnwys o'r blaen mewn unrhyw gystadleuaeth arall.
Bydd torri'r gwarantau hyn yn arwain at waharddiad o'r gystadleuaeth.
6. Mae'r gystadleuaeth yn agor ddydd Gwener 4ydd Rhagfyr ac yn cau ddydd Gwener 18fed Rhagfyr 2020. Rhaid i Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru dderbyn ceisiadau erbyn 5pm ddydd Gwener 18fed Rhagfyr 2020. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad / amser hwn yn cael eu hystyried.
7. Rhaid cyflwyno ceisiadau trwy e-bost i'r cyfeiriad e-bost canlynol: trystanacemma@bbc.co.uk
8. Dim ond un cais a ganiateir i bob person. Os cyflwynwch fwy nag un cais, dim ond y cais cyntaf a dderbynnir fydd yn cael ei ystyried.
9. Rhaid i bob cais fod yn waith gwreiddiol yr ymgeisydd a rhaid i’r gwaith beidio ag amharu ar hawliau unrhyw barti arall. Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn derbyn unrhyw atebolrwydd os yw cystadleuwyr yn anwybyddu'r rheolau hyn a bod cystadleuwyr yn cytuno i indemnio'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn llawn yn erbyn unrhyw hawliadau gan unrhyw drydydd parti sy'n deillio o dorri'r rheolau hyn.
10. Rhaid i geisiadau beidio â chynnwys deunydd difenwol, anweddus nac unrhyw ddeunydd anaddas arall, fel yr hyn a allai beri tramgwydd i gynulleidfa eang o bob oed.
11. Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth mae'r ymgeisydd (a'u rhiant / gwarcheidwad os yw'n berthnasol) yn rhoi trwydded ddi-freindal barhaus i'r Βι¶ΉΤΌΕΔ ddarlledu, arddangos, cyhoeddi, ei wneud ar gael neu ei ddefnyddio fel arall ym mhob cyfrwng ledled y byd am byth.
12. Mae cystadleuwyr trwy hyn yn ildio'u holl hawliau moesol fel awdur y cais gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw hawliau o dan adrannau 77 ac 80 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 (y “Ddeddf”). (am ragor o wybodaeth am hawlfraint a hawliau moesol gweler ).
13. Bydd rhestr fer o 10 ymgais ac un enillydd yn cael eu dewis gan banel Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru a'i ddangos ar goeden Nadolig rithwir ar-lein Trystan ac Emma. Mae'r beirniaid yn chwilio am ddyluniad unigryw a chreadigol, gan ddal ysbryd Nadolig 2020. Cyhoeddir yr enillydd ar yr awyr ddydd Iau 24ain Rhagfyr 2020 ar sioe Trystan ac Emma. Os na fydd y panel yn llwyddo i ddod i benderfyniad, bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan yr Uwch Gynhyrchydd.
14. Ni chysylltir ag ymgeiswyr aflwyddiannus mewn perthynas â'u cais a ni ddarperir unrhyw adborth ar unrhyw gais.
15. Mae penderfyniad y panel beirniadu yn derfynol.
16. Mae penderfyniad y Βι¶ΉΤΌΕΔ ynghylch yr enillwyr yn derfynol. Ni fydd yna unrhyw ohebiaeth yn ymwneud â'r gystadleuaeth.
17. Trwy gyflwyno'r gwaith, mae cystadleuwyr yn cytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd ar ôl y gystadleuaeth ac unrhyw ffurfioldeb cyfreithiol pellach, os bydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gofyn am hynny.
18. Mae'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn cadw'r hawl i: (i) amrywio'r telerau hyn; (ii) diarddel unrhyw gais sy'n torri'r rheolau, sy'n dwyllodrus mewn unrhyw ffordd neu'n dwyn anfri ar y Βι¶ΉΤΌΕΔ; a (iii) canslo'r gystadleuaeth, ar unrhyw adeg, os bernir ei bod yn angenrheidiol neu os bydd amgylchiadau'n codi y tu hwnt i reolaeth y Βι¶ΉΤΌΕΔ.
19. Ni all y Βι¶ΉΤΌΕΔ, eu hisgontractwyr, is-gwmnïau a / neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw fethiant technegol neu gamweithio neu unrhyw broblem arall gydag unrhyw server, system, rhwydwaith neu weithredwr ffon symudol neu ddarparwr gwasanaeth a allai arwain at gofrestru'n peidio cael ei gofnodi briodol.
20. Os yw'r ymgeisydd o dan 18 oed, bernir fod eu rhiant / gwarcheidwad wedi derbyn y rheolau hyn ac yn cytuno i fod yn rhwym iddynt wrth gofrestru.
21. Cynhelir y prosiect hwn yn unol â'r Telerau Defnyddio ar gyfer gwasanaethau digidol y Βι¶ΉΤΌΕΔ. http://www.bbc.co.uk/usingthebbc/terms-of-use/
22. Mae'r gystadleuaeth hon yn cydsynio â Chod Ymddygiad y Βι¶ΉΤΌΕΔ ar gyfer Cystadlaethau sydd i'w gweld yn:
23. Mae'r prosiect hwn yn cael ei redeg gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ. Y gyfraith berthnasol yw deddf Cymru a Lloegr.