T Llew Jones (1915-2009)
Un o hoff awduron llyfrau plant yng Nghymru
T Llew Jones oedd un o awduron enwocaf llyfrau Cymraeg i blant. Mae cenedlaethau o blant ysgol wedi darllen ei lyfrau ac yn cael eu swyno ganddynt.
Fe'i anwyd ym Mhentre-cwrt ger Llandysul yn y flwyddyn 1915 a mynychodd yr ysgol Ramadeg leol.
Bu'n gweithio fel athro am 35 mlynedd - yn Ysgol Gynradd Tregroes, ac yna yn Ysgol Coedybryn ger Llandysul lle y bu'n Brifathro am gyfnod.
Dechreuodd ysgrifennu straeon pan oedd yn blentyn, ond yn ystod y 1950au dechreuodd gyhoeddi rhyddiaith a barddoniaeth.
Enw ei nofel gyntaf oedd Trysor Plas y Wernen. Fel sawl un o'i lyfrau roedd wedi ei osod ym mro ei febyd, Ceredigion. Fe ysgrifennodd dros hanner cant o lyfrau yn y pendraw, gan gynnwys 35 o lyfrau i blant.
Yn storïwr medrus, mae ei lyfrau yn tynnu ar chwedlau, cymeriadau a llefydd lleol. Mae ogofau y smyglwyr ym mae Ceredigion, Twm Sion Cati, Sion Cwilt a Barti Ddu oll yn ymddangos yn ei waith.
Dydy hi ddim yn syndod fod ei dalentau wedi ennill cryn adnabyddiaeth iddo. Yn 1958 enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ac efe oedd y bardd buddugol y flwyddyn olynol hefyd.
Yn 1991 fe dderbyniodd wobr Mary Vaughan Jones, gwobr sydd yn cydnabod cyfraniadau sylweddol i lenyddiaeth plant yng Nghymru. Mae hefyd wedi ennill gwobr llenyddol Tir na n'Og ac yn 1977, rhoddwyd gradd anrhydeddus iddo gan Brifysgol Cymru.
Mae rhai o'i lyfrau wedi eu cyfieithu i'r Saesneg ac eraill, megis Tân ar y Comin a Dirgelwch yr Ogof wedi eu addasu ar gyfer y teledu.
Mae T Llew Jones hefyd wedi sefydlu enw iddo'i hun fel chwaraewr gwyddbwyll gwych. Yn wir mae ef a'i fab Iolo wedi ysgrifennu yr hyn a gredir i fod yr unig lyfr Cymraeg sydd yn esbonio cymhlethdodau'r gêm hwn.
Cyfrannydd cyson i rhaglennu teledu a radio Cymraeg, roedd yn byw ym Mhontgarreg ger Llangrannog yng Ngheredigion ac ym mis Mawrth 2005 fe enillodd y gadair yn Eisteddfod flynyddol Cymdeithas Ceredigion.
Yn 93 oed, bu farw ym mis Ionawr 2009.