Â鶹ԼÅÄ

24 Chwef 2022, Neuadd Hoddinott y Â鶹ԼÅÄ, Caerdydd
Digwyddiad blaenorol
19:30 Iau 24 Chwef 2022 Digwyddiad nesaf

Tymor 2021-22 Â鶹ԼÅÄ NOW Cyngherddau Digidol: John Metcalf

Â鶹ԼÅÄ National Orchestra of Wales
Cyngherddau Digidol: John Metcalf
19:30 Iau 24 Chwef 2022 Â鶹ԼÅÄ Hoddinott Hall, Cardiff
Â鶹ԼÅÄ NOW yn perfformio Dances from Forgotten Places gan John Metcalf yn y cyngherdd Gwyl Bro Morgannwg
Â鶹ԼÅÄ NOW yn perfformio Dances from Forgotten Places gan John Metcalf yn y cyngherdd Gwyl Bro Morgannwg

Rhaglen

Cyfansoddwyr

Cyngerdd Digidol: Dances from Forgotten Places gan John Metcalf

Mae’r ‘llefydd anghofiedig’ yn y teitl yn ddychmygus. I mi, maent yn ardaloedd eshetig, cymeriadau artistig sydd yn derbyn ymweliad anaml gan neu perhtynas a cherddoriaeth gyfoes. Byddai geiriau fel gosgeiddrwydd,ceinder,swyn, ffurfioldeb,teimlad neu wamalrwydd yn disgrifio rhai ohonynt efallai. Rwyf wedi cyflwyno pob dawns i ffrind mae’r gerddoriaeth yn awgrymu rhyw agwedd o’u personoliaeth i mi. Mae hyn fel diolch am eu cefnogaeth a’u hanogaeth.

Mae yna chwe dawns, pump cyflym ac un araf a chawareir heb doriad ond gyda fframwaith ‘symffonig’ ; cyfres o amrywiaethau wedi’u seilio ar gyfres syml o dri nodyn bas. Maent o fewn un modd (fel sydd ar gyfer D mwyaf) gyda chynghanedd pandiatonic ‘nodau gwyn’ drwyddi. Nid oes unrhyw newid cromatig o fewn rhychwant pymtheg munud felly Cyffansoddwyd Dawnsfeydd o Lefydd Anghofiedig i’w berfformio heb arweinydd. Mae teimlad cyfoethog, tebyg i gerddoriaeth siambr yn perthyn i weadau’r gwaith, gyda hyd at naw o rannau mewn rhai llefydd. Gellir perfformio’r darn gyda chyn lleied a naw chwaraewr neu gerddorfa linynnol fawr.

Enwir yr adrannau fel a ganlyn:
Dawnsfeydd gyda chamau nodweddiadol (MKS)
Calypso (EB)
Dawns iachad (DWE)
Dawns raslon (LE)
Pranc (D)
Dawns y ffon (GMM)

Comisiynwyd Dawnsfeydd o Lefydd Anghofiedig gan Gerddorfa Siambr yr Undeb Ewropeaidd gyda nawdd ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth Gymreig.

Rhaglen gan John Metcalf