鶹Լ

Sgandal gwaed: 'O'n i'n teimlo, fedra i ddim cario 'mlaen'

Jane JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Jones yn un o’r dioddefwyr a’u perthnasau sy’n aros am gasgliadau ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal fis nesaf

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes a gafodd ei heintio gyda Hepatitis C ar ôl derbyn trallwysiad gwaed yn yr 80au yn dweud iddi deimlo nad oedd hi am gario 'mlaen ar brydiau.

Roedd Jane Jones o’r Groeslon ger Caernarfon wedi gweld ei mam yn dioddef yn ofnadwy o’r un cyflwr.

“O’n i’n teimlo, fedra i ddim cario 'mlaen os mai dyma sy’ o ’mlaen i! Mae well gen i orffen o rŵan,” meddai.

Mae Mrs Jones yn un o’r dioddefwyr a’u perthnasau sy’n aros am gasgliadau ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal gwaed heintiedig, fis nesaf.

Mae ymchwiliad gan y 鶹Լ wedi darganfod bod Yr Athro Arthur Bloom, meddyg byd-enwog o Ysbyty Athrofaol Cymru ac arbenigwr hemoffilia, wedi trin cleifion gyda gwaed heintiedig wedi ei fewnforio, yn groes i'w reolau ei hun.

'Cymaint o gelwyddau'

“Mae cymaint o gelwyddau 'di cael eu dweud, di cuddio pethau,” meddai Mrs Jones.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, sy'n cadeirio’r grŵp trawsbleidiol ar y sgandal gwaed, mae angen i ddioddefwyr dderbyn iawndal llawn.

Ychwanegodd bod yn “rhaid i’r llywodraeth, pan mae hi'n dod yn amlwg bod 'na gam wedi bod, bod 'na anghyfiawnder wedi bod, mae'n rhaid iddyn nhw roi eu llaw i fyny a pheidio trio celu'r gwirionedd a gwneud yn iawn wrth y bobl sydd wedi dioddef.”

Ffynhonnell y llun, Jane Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cyflwr effaith ddifrifol ar Jane Jones, a bu'n rhaid iddi gael trawsblaniad afu yn 2015

Yn yr 80au, fe aeth Jane Jones at ei meddyg teulu yn cwyno am boenau yn ei bol, ac ar ôl cael ei harchwilio, cafodd ei hanfon am brawf gwaed yn adran hematoleg Bangor.

“Fe ddywedodd o mai prawf am Hepatitis oedd o, ond bod o ddim yn disgwyl iddo fod yn ddim byd arall ond negatif.”

Ar ôl mynd adref a meddwl dim mwy am y peth, fe gafodd Mrs Jones ei galw’n ôl.

“Pan es i mewn i’r stafell y diwrnod hwnnw, y peth cynta' sylwes i oedd bod sticer melyn ar fy nodiadau i.

"O’n i’n gwbod yn syth bin. A’r rheswm o’n i’n gwbod oedd bod Mam wedi cael ei heintio rhyw dair blynedd o fy mlaen i.”

Roedd y ddwy wedi cael eu heintio drwy gael trallwysiadau gwaed â phlasma ffactor VIII - protein sy'n hanfodol ar gyfer ceulo'r gwaed.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r Athro Arthur Bloom, arbenigwr hemoffilia, yn 1992

Daeth rhaglen 鶹Լ Wales Investigates o hyd i ganllawiau mewnol y GIG o fis Mai 1983 ar gyfer yr adran yr oedd yr Athro Bloom yn gyfrifol amdani.

Roedd y rheiny'n rhybuddio pobl i beidio defnyddio cynnyrch gwaed wedi eu mewnforio yn achos plant oherwydd y risg o haint. Ond roedd yr Athro Bloom wedi eu defnyddio fisoedd yn ddiweddarach.

Fe gafodd miloedd o bobl eu heintio â HIV a Hepatitis.

Mae 鶹Լ Wales Investigates hefyd wedi darganfod dogfennau sy'n datgelu bod meddygon yn fodlon derbyn cynnyrch risg uwch er mwyn lleihau costau.

Maen nhw'n dangos bod yr hen gwmni Immuno - cynhyrchydd y Factor VIII - o'r farn y byddai'r farchnad yn y DU yn fodlon derbyn cynnyrch llai diogel o waed wedi ei fewnforio o America, yn lle gwaed Ewropeaidd oedd yn saffach, am ei fod yn rhatach i'w fewnforio.

Dywedodd Jane: “Dwi di edrych ar y rhaglen, ac i ffeindio allan bo' nhw’n gwbod yn iawn bod y gwaed wedi’i heintio ond dewis ei roi o i ni am ei fod o’n rhatach, i brynu fo fewn o America, mae o’n ofnadwy!"

'Dyma sy’ o ’mlaen i!'

Mae cyflwr Hepatitis C wedi cael effaith ddifrifol ar Jane Jones.

“Wnaethon nhw adael fi fod am flynyddoedd, ac o’n i’n ofnadwy o flinedig - fedrwn i ddim gwneud pethau.

"Pan wnaeth pethau ddechrau mynd yn ddrwg go iawn, yn diwedd, gorfu fi gael trawsblaniad ar yr iau.”

Roedd hynny naw mlynedd yn ôl, ond mae’r cyflwr yn dal i gael effaith arni.

“Dwi’n ffeindio bo' fi’n tueddu i fethu gwneud y pethe ro’n i’n gallu’i wneud cynt.

"Dwi’n blino’n hawdd ofnadwy, tueddu i anghofio pethau hefyd, fel rhyw fath o brain fog.”

Ffynhonnell y llun, PA Media

Roedd rhannu’r un profiad â’i mam a gallu bod yn gefn i’w gilydd, gyda’i fanteision a’i anfanteision.

“Un peth oedd yn digwydd pan oedd o ’di effeithio ar eich iau chi mor ofnadwy, mae gynno chi wythiennau yn y gullet, a be' oedd yn digwydd i Mam oedd bod y rheiny’n byrstio.

"Yr unig ffordd i gael o allan oedd taflyd y gwaed ma' fyny efo’r ffasiwn force! Oedd o’r peth mwya' ofnadwy i edrych ar, ac o’n i’n teimlo, dyma sy’ o ’mlaen i!”

Angen iawndal llawn ar frys

Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, sy'n cadeirio’r grŵp trawsbleidiol ar y sgandal gwaed, yn teimlo’n gryf bod angen i’r dioddefwyr a’u teuluoedd dderbyn iawndal llawn.

“Mae teuluoedd wedi colli anwyliaid, mae pobl wedi byw gyda stigma am flynyddoedd," meddai ar Dros Frecwast.

"Dychmygwch pobl yn cael HIV ar gyfnod lle roedd ‘na gymaint o stigma am hynny, a phobl yn cael eu heithrio gan eu teuluoedd eu hunain, gan eu cymunedau eu hunain.

“Er bod Syr Brian Langstaff a’i ymgynghoriad, ei ymchwiliad cyhoeddus o, wedi penderfynu bod rhaid i iawndal llawn gael ei dalu, 'da ni yn agos at y lan ond dydi yr arian ddim wedi ei roi yn llawn, a dyna pam bod y frwydr yn parhau.”

Cymharu â Swyddfa'r Post

Mae Mr ap Iorwerth yn teimlo bod cymariaethau i’w gwneud gyda sgandal Swyddfa'r Post.

“Fe welon ni yn sgandal Post, fe guddiodd y llywodraeth yn llawer rhy hir, tan y daeth hi mor amlwg nad oedd modd iddyn nhw guddio ymhellach a hynny yn sgil drama deledu gan ITV.

“Mae ganddon ni sgandal arall fan hyn, sgandal y gwaed heintiedig, sydd wedi effeithio ar filoedd o unigolion a theuluoedd, ac eto mae’r llywodraeth yn peidio mynd y cam terfynol yna a dweud bod yr iawndal yn mynd i ddod."

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi’n neud o ddim yn unig i fi fy hun ond i Mam hefyd"

Bu Jane yn rhoi ei thystiolaeth i’r ymchwiliad sy’n cael ei gynnal i’r sgandal.

“Oedd o’n brofiad ofnadwy, dweud y gwir," meddai.

“Be' wnes i sylwi y diwrnod hwnnw, oedd bod pawb yn gefnogol ohonoch chi.

"Oedd o fel 'tai pawb yn perthyn i chi a’r rheswm am hynny, wrth gwrs, oedden nhw 'di bod trwy union r'un fath ag o’n i wedi.

“O’n i’n falch bo' fi wedi cael cyfle i fynd yna, a deud yn union fy stori i a be oedd di digwydd i mi.

"Yr unig un fedrwn i siarad efo cynt oedd Mam am bod Mam 'di mynd trwy yn union yr un un peth â fi. Hi oedd yr unig un.”

'Mam ddim ’di cael gwbod'

Pan ddaw casgliadau’r adroddiad ddiwedd Mai, mae Jane Jones yn gobeithio “cael gwbod y gwir” am yr hyn ddigwyddodd.

Fe fydd hi ymhlith cannoedd o bobl fydd yn teithio i Lundain ar gyfer diwrnod olaf yr ymchwiliad ar 20 Mai.

“Mae’n bwysig ofnadwy i mi, ond i Mam hefyd. Dwi 'di colli Mam ers blwyddyn diwethaf a ’di Mam ddim ’di cael gwbod.

"'Di hi ddim yma i gael gweld y diwedd a pwy sy ar fai a be' sy’n mynd i ddigwydd nesaf.

"Dwi’n 'neud o ddim yn unig i fi fy hun ond i Mam hefyd.”

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 鶹Լ.

Blood Money, 鶹Լ One Wales, 20:00 nos Lun 15 Ebrill ac ar iPlayer

Pynciau cysylltiedig