Â鶹ԼÅÄ

Sgandal gwaed: 40 mlynedd o aros am atebion i deuluoedd

  • Cyhoeddwyd
Rachel McGuinness gyda'i thad (canol)Ffynhonnell y llun, Rachel McGuinness
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw tad Rachel McGuinness o HIV/AIDS yn 1990 ac mae hi'n cofio sut bu'n rhaid iddi hi a'i theulu fyw gyda'r feirws heb wybod prin dim amdano

Mae merch dyn a fu farw ar ôl gael ei drin gyda gwaed wedi ei heintio yn dweud fod hi a'i theulu wedi bod yn aros am atebion am y sgandal am bron 40 o flynyddoedd.

Bu farw Christopher John Thomas yn 1990, ar ôl cael HIV o ganlyniad i dderbyn gwaed heintiedig â phlasma ffactor VIII - protein sy'n hanfodol ar gyfer ceulo'r gwaed.

Mae ei ferch, Rachel McGuinness, yn gobeithio y bydd yr ymchwiliad gwaed heintiedig yn rhoi atebion i deuluoedd, pan fydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi fis nesaf.

Mae ymchwiliad gan y Â鶹ԼÅÄ wedi darganfod bod Yr Athro Arthur Bloom, arbenigwr hemoffilia, wedi torri ei reolau ei hun gan drin cleifion gyda gwaed heintiedig wedi ei fewnforio.

"Roedd Dad yn gymeriad mawr yn y gymuned," dywedodd Rachel, wrth siarad yn ei chartref yng Nghaerdydd.

"Roedd o'n hwylus iawn... roedd o'n hwylio, roedd o wastad yn mynd â ni lan môr... oedd o'n eitha' hwylus a jest llawn bywyd a diddorol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel McGuinness yn cofio'i thad fel dyn llawn hwyl a 'llawn bywyd'

Cafodd Mr Thomas ddiagnosis HIV yn 1980au, ar ôl derbyn cynnyrch gwaed heintiedig.

"O'dd o'n cael ei drin ym Mangor pan oeddan ni'n byw ym Mhen LlÅ·n ond weithia' oedd o hefyd yn dod lawr i'r haemophilia centre yng Nghaerdydd... Mi ro'dd o yn y dyddiau cynnar o dan Dr Bloom ond mi o'dd o'n derbyn triniaeth ym Mangor hefyd."

'Wedi gadael pobol i lawr'

Daeth rhaglen Â鶹ԼÅÄ Wales Investigates o hyd i ganllawiau mewnol y GIG o fis Mai 1983 ar gyfer yr adran yr oedd yr Athro Bloom yn gyfrifol amdani.

Roedd rheiny'n rhybuddio pobl i beidio defnyddio cynnyrch gwaed wedi eu mewnforio yn achos plant oherwydd y risg o haint. Ond roedd yr Athro Bloom wedi eu defnyddio fisoedd yn ddiweddarach.

"Mae'n sefyllfa anodd," meddai Rachel. "Roedd dad efo perthynas da iawn efo Dr Bloom ac o'dd o'n meddwl llawer iawn ohono.

"Mae wedi bod yn broses trist iawn clywed bod o wedi mynd yn erbyn protocol ei hun a wedi gadael pobol i lawr."

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r Athro Arthur Bloom, oedd yn flaenllaw yn ei faes, yn 1992

Bydd Rachel a'i mam ymhlith cannoedd o bobl fydd yn teithio i Lundain ar gyfer diwrnod olaf yr ymchwiliad ar 20 Mai.

Mae hi'n gobeithio y bydd yr adroddiad yn "dangos y gwirionedd am y sefyllfa" ac yn "rhoi bach o gydnabyddiaeth ar ôl wir drychineb y sgandal gwaed".

"Ma' bron i 40 mlynedd ers i dad farw a 'da ni 'di bod yn aros ers hynny i ffeindio allan pam a be' yn union nath ddigwydd.

"Dan ni wedi cael rhai atebion achos dwi wedi bod yn dilyn yr ymchwiliad ond dwi wir yn edrych mlaen i weld yr adroddiad mewn du a gwyn ac i'r cyhoedd weld be nath ddigwydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Bydd yn dda hefyd os fydd y cyhoedd yn ehangach yn dod i wybod amdan y materion yma, a fydd hyn hefyd yn gyfle gobeithio i dal y llywodraeth, a llywodraethau'r dyfodol, i gyfrif.

"Maen nhw wedi bod yn gobeithio bydd y mater yma yn diflannu, neu bydd pawb a chafodd ei effeithio yn marw bant, dros y trideg, pedwardeg mlynedd ddiwethaf."

'Nid damwain mo hyn'

Rhywun arall sy'n gobeithio am atebion yw Colin a Janet Smith o Gasnewydd.

Bu farw eu mab, hefyd o'r enw Colin, o AIDS yn saith oed yn 1990. Cafodd ei heintio â HIV a hepatitis C yn 1983, yn 10 mis oed, wrth gael driniaeth gyda gwaed wedi ei fewnforio o'r UDA at hemoffilia.

Bu'n rhaid i Mr Smith adael ei swydd oherwydd yr haint i'w fab bach, ac fe gafodd y geiriau 'Aids dead' eu paentio gan rywrai ar eu cartref.

"Nid damwain mo hyn," dywedodd Mr Smith am ddefnydd Yr Athro Bloom o waed wedi mewnforio, yn groes i'r canllawiau.

"Fe allai fod wedi ei osgoi."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Colin Smith o Aids yn saith oed ar ôl cael ei heintio pan roedd yn fabi

Mae'r ddau'n credu bod eu mab yn rhan o arbrawf o ran y defnydd o'r plasma ffactor VIII yn y gobaith y byddai'n lladd feirysau fel HIV a hepatitis.

"Digwydd bod gafodd [ein mab] ddiagnosis hemoffilia wrth i'r treialon hyn ddechrau," meddai Mrs Smith. "Y peth nesa' mae gyda fe HIV."

Ddechrau 1982, dros flwyddyn cyn i'r Athro Bloom ddechrau trin Colin, fe ysgrifennodd lythyr at glinigau hemoffilia'n awgrymu iddyn roi'r cynnyrch newydd i gleifion newydd nad oedd eto wedi dod i gysylltiad â chynnyrch gwaed risg uchel o America. Roedd carcharorion a chamddefnyddwyr cyffuriau ymhlith y rhai oedd wedi rhoi'r gwaed anniogel.

Eglurodd y llythyr bod treialon gyda tsimpansîaid yn anaddas a bod angen cynnal profion ar bobl.

Roedd Ffactor VIII yn cynnwys plasma gwaed ddegau o filoedd o roddwyr, ond roedd yr holl waeth yn heintiedig os oedd ond un person gyda feirws.

Yn 1975, sawl blwyddyn cyn cofnodi'r achosion HIV cyntaf, roedd rhaglen ddogfen wedi amlygu'r posibilrwydd fod feirysau mewn gwaed oedd yn cael ei fewnforio o America ac fe wnaeth llywodraeth y dydd addewid i anelu at osgoi dibynnu ar fewnforion yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Mae Â鶹ԼÅÄ Wales Investigates hefyd wedi darganfod dogfennau sy'n datgelu bod meddygon yn fodlon derbyn cynnyrch risg uwch er mwyn lleihau costau.

Maen nhw'n dangos bod yr hen gwmni Immuno - cynhyrchydd y Factor VIII a dderbyniodd Colin - o'r farn y byddai'r farchnad yn y DU yn fodlon derbyn cynnyrch llai diogel o waed wedi ei fewnforio o America yn lle gwaed Ewropeaidd oedd yn saffach am ei fod yn rhatach i'w fewnforio.

"O ddarllen pethau fel yna, i ni llofruddiaeth oedd hyn," meddai Janet Smith.

"Roedden nhw'n arbed ceiniogau - yn syml, yn eich trin yn rhad.

"Doedden nhw ddim yn poeni am iechyd pobol, cyn belled ag yr wyf i yn yn cwestiwn."

Blood Money, Â鶹ԼÅÄ One Wales, 20:00 nos Lun 15 Ebrill ac ar iPlayer

Pynciau cysylltiedig