Â鶹ԼÅÄ

Sgandal gwaed: 'Dylai rhieni a phlant gael iawndal'

  • Cyhoeddwyd
bag gwaedFfynhonnell y llun, PA

Fe ddylai rhieni a phlant pobl a fu farw ar ôl cael gwaed a oedd wedi ei heintio dderbyn iawndal gan y llywodraeth, yn ôl ymchwiliad. 

Bu farw dros 3,000 o bobl ar draws y Deyrnas Unedig ar ôl cael eu heintio ag HIV neu Hepatitis C tra'n cael triniaeth ar y gwasanaeth iechyd yn ystod y 1970au a'r 1980au. 

Dywedodd cadeirydd yr Ymholiad Gwaed Heintiedig, Syr Brian Langstaff, bod hi'n bryd i "gydnabod marwolaethau sydd heb eu cydnabod hyd yn hyn".

Mae gofyn nawr i Lywodraeth y DU ymateb i argymhellion ail adroddiad interim ymchwiliad cyhoeddus i'r mater.

Roedd yna groeso gan ymgyrchwyr fis Hydref y llynedd pan gytunodd llywodraeth San Steffan i roi iawndal cychwynnol o £100,000 i bobl oedd wedi eu heintio ac i bartneriaid pobl oedd wedi marw.

Roedd hynny yn dilyn argymhelliad adroddiad interim cyntaf yr ymchwiliad.

Yn ôl Syr Brian, fe ddylid sefydlu fframwaith iawndal terfynol ar gyfer y grŵp yna erbyn diwedd y flwyddyn.

Ond parhau wnaeth yr ymgyrch i gynnig yr un iawndal i blant a gollodd rieni neu riant ble nad oedd partner, ac i rieni a gollodd plentyn.

'Erioed wedi cael cydnabyddiaeth'

Wrth gyhoeddi'r adroddiad diweddaraf, mae Syr Brian yn dweud y dylid ehangu'r taliadau iawndal i'r grŵp ychwanegol yna.

"Mae'n ffaith bod o gwmpas 380 o blant gydag afiechydon gwaed wedi eu heintio gyda HIV, ond dyw eu rhieni erioed wedi derbyn iawndal," dywedodd.

"Dyw colled plant amddifad o ganlyniad heintiadau trallwysiadau gwaed... erioed wedi cael cydnabyddiaeth. Mae'n bryd i wneud yn iawn am hynny."

'Cymryd 40 mlynedd i gyfaddef'

Un sy'n croesawu'r argymhellion diweddaraf yw Jane Ebrillwen Jones o Bwllheli, a gafodd ei heintio â Hepatitis C yn dilyn trallwysiad gwaed yn 1982.

"Dwi'n gw'bod 'di o'm yn mynd i ddod â'ch tad neu'ch plentyn yn ôl ond mae rhaid iddyn nhw fod yn gyfrifol rywsut neu gilydd a rhoid iawndal 'di peth agosaf fedrith nhw 'neud iddyn nhw," meddai.

"Dydi o ddim cyn gymaint am yr arian - yndi, mae o'n mynd i fod o fudd mawr iddyn nhw, dwi'm yn d'eud dim llai.

"Ond bod 'na rywun yn cyfaddef ac yn codi'i law ac yn d'eud 'Ia, dylia hyn byth fod wedi digwydd', a bod o'n biti mawr bod o 'di cymeryd 40 o flynyddoedd i rywun gyfadda' a disgyn ar eu bai."

Roedd Ms Jones ymhlith y rhai a dderbyniodd iawndal y llynedd, ac mae wedi rhoi datganiad i'r ymchwiliad gwaed heintiedig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r argymhellion i ehangu'r trefniadau iawndal yn beth da, medd Jane Ebrillwen

Mae hi'n dweud na fyddai unrhyw swm yn cael gwared ar yr atgofion o fod yn ddifrifol wael o ganlyniad i gael ei heintio.

Dywed Ms Jones ei bod hi ei hun bron â marw ar un cyfnod a bod gorfod teithio i Gaerdydd unwaith yr wythnos am chwe mis "yn dipyn o dolc".

Mae hi'n dal yn gorfod cael pum ymweliad ysbyty bob blwyddyn, ym Mangor, Wrecsam a Birmingham.

"'Di pobl dal ddim yn gw'bod be' sydd o'u blaena' nhw. Dwi 'di ca'l trawsblaniad wyth mlynedd yn ôl, ond does wybod be' ma'r afiechyd yma 'di 'neud i gorff rywun."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu adroddiad interim yr ymholiad ac mi fyddwn yn ei ystyried yn ofalus.

"Byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i fwrw ymlaen gyda datblygiad cynllun iawndal.

"Mi fydd Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru yn parhau i ddarparu taliadau cyson, sydd wedi cynyddu wrth 10.1% ers 1 Ebrill, i bobl wedi'i heintio gyda HIV neu Hepatitis C a chefnogaeth i'w teuluoedd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn parhau i baratoi i ymatebion adroddiad terfynol yr ymchwiliad, sydd i'w ddisgwyl yn yr hydref.

Pynciau cysylltiedig