Cannoedd mewn ysbytai oherwydd oedi cyn rhyddhau

Ffynhonnell y llun, PA Media

  • Awdur, Sian Elin Dafydd
  • Swydd, Newyddion 麻豆约拍 Cymru

Mae bron i 1,600 o bobl yn yr ysbyty bob mis ar gyfartaledd, yn barod i adael, ond yn methu oherwydd diffyg asesiadau neu ddiffyg gofal.

Mae鈥檙 nifer yma yn cyfateb i gyfanswm holl gleifion Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Glan Clwyd.

Cost yr oedi yma dros y flwyddyn ddiwethaf yw tua 拢478,200 y dydd, neu 拢14.3m y mis.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn darparu 拢146m y flwyddyn drwy gronfa arbennig i helpu sefydliadau iechyd a gofal i gydweithio鈥檔 well.

Aros am flwyddyn a hanner

Mae cadw cleifion yn yr ysbyty yn hirach na sydd angen yn gallu bod yn niweidiol i鈥檞 hiechyd a鈥檜 lles.

Gall cyfnod hir yn yr ysbyty olygu risg uwch o heintiau ac mae鈥檔 gallu golygu bod angen mwy o gymorth ar gleifion ar 么l gadael.

Yn ogystal 芒'r data swyddogol sy'n edrych ar faint o bobl oedd yn aros yn yr ysbyty yn hirach nag oedd angen y llynedd, datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth gan y 麻豆约拍 mai'r oedi cyfartalog i gleifion cyn gadael yr ysbyty oedd pum wythnos.

Ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, bu'n rhaid i unigolyn aros am bron i flwyddyn a hanner cyn iddyn nhw allu gadael.

Sorry, we can鈥檛 display this part of the story on this lightweight mobile page.

Prif achos yr oedi oedd y broses o aros am asesiadau, aros am leoliad cartref gofal a hefyd aros am becyn gofal cartref addas.

Mae gofal yn y gymuned yn cael ei ddarparu gan gynghorau ond mae angen i gleifion gael eu hasesu gan y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol cyn eu bod yn barod i adael yr ysbyty.

Yn 么l Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae cynghorau dan bwysau, a heb fwy o fuddsoddiad, mae dyfodol gwasanaethau cymdeithasol mewn perygl.

Mae'r corff sy'n cynrychioli sefydliadau iechyd, Conffederasiwn y GIG, yn dweud bod gwely ysbyty yn costio 拢500 y noson.

Ond i berson h欧n, sy'n barod i adael ysbyty, mae'n costio 拢300.

Gyda thua 1,600 o bobl yn feddygol barod i gael eu rhyddhau, mae'n costio 拢478,200 y noson.

Disgrifiad o'r llun, Mae gwaith Llesiant Delta yn rhyddhau cleifion yn gynt o'r ysbyty, yn 么l Gareth Rees

Yn Sir Gaerfyrddin, nod cwmni dielw sy'n eiddo i'r cyngor yw lleihau nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal.

Mae gwasanaethau Llesiant Delta yn canolbwyntio ar atal pobl rhag mynd i鈥檙 ysbyty yn y lle cyntaf, a chyflymu鈥檙 broses o鈥檜 rhyddhau.

Mae hyn yn gallu arwain at ryddhau cleifion ar gyfartaledd bum diwrnod ynghynt, yn 么l pennaeth arloesi'r cwmni Gareth Rees.

"'Da ni'n gweithio gyda鈥檙 timau clinigol a'r timau gwasanaethau cymdeithasol i weld os yw鈥檙 person yn iawn i fynd adre, i weld pa fath o gymorth ma' nhw angen i fynd adre,鈥 meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae鈥檙 oedi mewn ysbytai yn rhwystredig i bobl, medd Natalie Owen

Mae Natalie Owen o Llesiant Delta yn gweithio yn Ysbyty鈥檙 Tywysog Philip yn Llanelli.

Mae'n cefnogi cleifion yn yr ysbyty ac mae鈥檙 oedi, meddai, yn rhwystredig iawn.

鈥淢补鈥档 frustrating i nhw a i ni achos ma' nhw moyn mynd adre a ma' nhw ffaelu,鈥 dywedodd.

鈥淔i鈥檔 joio dod i鈥檙 gwaith, fi鈥檔 licio mynd rownd a siarad 'da pobl gwahanol a rhoi unrhyw gymorth sy' isie arnyn nhw."

Fel rhan arall o wasanaeth y cwmni mae Gemma Davies yn gweithio mewn canolfan sy鈥檔 ateb galwadau sy鈥檔 dod o larymau cartref.

Mae'r rhain yn cael eu defnyddio gan bobl sydd angen cymorth i fyw'n annibynnol a diogel yn eu cartrefi.

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Gemma Davies mae cynnydd mewn galwadau ar adegau penodol o'r dydd

Dywedodd ei bod yn 鈥渂rysur iawn鈥 yn y ganolfan, yn enwedig ar adegau penodol.

鈥淧eth cynta鈥檔 y bore fel arfer, pan ma' pobl yn codi, a wedyn yn hwyrach yn y nos pan ma' pobl yn dechre mynd i鈥檙 gwely鈥 yw'r adegau prysuraf, meddai Gemma.

Mae鈥檙 ganolfan yn gallu ymateb i alwadau brys drwy ddanfon staff sydd wedi'u hyfforddi'n feddygol i gartref unigolyn i gynnal archwiliad corfforol.

Canlyniad hyn yw cadw rhywun fyddai efallai wedi gorfod mynd i鈥檙 ysbyty yn y gorffennol, adref ar 么l sicrhau eu bod nhw鈥檔 iawn.

Sorry, we can鈥檛 display this part of the story on this lightweight mobile page.

Mae Mabon ap Gwynfor, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a gofal, yn galw ar Lywodraeth Cymru i dalu mwy i ofalwyr a chynyddu鈥檙 niferoedd er mwyn bod rhagor o ofal ar gael yn y gymuned.

Dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd fod nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn 鈥渉ollol anghynaladwy鈥 a bod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn anghywir.

鈥淢ae鈥檙 flaenoriaeth wleidyddol yn edrych ar y rhestrau aros," meddai.

"Mae hwnna鈥檔 gwbl ddealladwy oherwydd bob mis ma' ffigurau newydd yn dod allan yn dangos bod y rhestrau aros yn hwy ac yn hwy a dydy hynny ddim yn adlewyrchiad da.

鈥淥nd y gwir ydy, petai鈥檙 llywodraeth yn rhyddhau cleifion o鈥檙 ysbyty n么l i鈥檞 cymuned, n么l adre, byse hynny鈥檔 rhyddhau capasiti鈥檔 yr ysbyty er mwyn canolbwyntio ar rheiny sydd angen triniaeth yn syth."

Disgrifiad o'r llun, Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru'n anghywir, medd Mabon ap Gwynfor

Mae鈥檙 Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn beirniadu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn dweud bod angen gwario mwy ar wasanaethau yn hytrach nag ehangu nifer yr aelodau yn y Senedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i wella'r broses i gleifion i adael ysbyty.

Mae'r llywodraeth yn darparu 拢146m y flwyddyn drwy鈥檙 Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

"Mae ein Pwyllgor Gweithredu Gofal cenedlaethol yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i nodi beth arall y gellir ei wneud i gefnogi鈥檙 broses ryddhau, yn enwedig yn y cyfnod cyn y gaeaf,鈥 meddai llefarydd.