Â鶹ԼÅÄ

Rhestrau aros iechyd yn parhau ar eu huchaf erioed

Ystafell arosFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r trydydd mis yn olynol i restrau aros GIG Cymru fod ar eu huchaf erioed

  • Cyhoeddwyd

Mae maint rhestrau aros y gwasanaeth iechyd wedi cynyddu unwaith eto, gyda bron 788,000 o driniaethau yn aros i gael eu cwblhau ym mis Mai.

Mae hyn yn golygu fod oddeutu 611,500 o gleifion unigol yn aros am driniaeth - y ffigwr uchaf erioed.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos twf, am yr ail fis yn olynol, yn y nifer sy'n aros y cyfnodau hiraf am driniaeth - gyda dros 22,400 o achosion lle mae rhywun wedi bod yn aros dros ddwy flynedd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r twf diweddar yn "siomedig" ar ôl cyfnod o ddwy flynedd lle mae'r ffigwr hwnnw wedi bod yn gostwng.

Yn ôl y Ceidwadwyr mae'r ystadegau diweddara' yn "ofnadwy".

Y tu hwnt i restrau aros am driniaethau sydd wedi cael eu trefnu o flaen llaw, mae'r ystadegau yn dangos fod gwasanaethau brys yn dal i fod dan bwysau sylweddol.

Ym mis Mehefin fe dreuliodd 68.9% o gleifion llai na phedair awr mewn uned frys - gwelliant o 0.8% o gymharu â'r mis blaenorol - ond ymhell o dan y targed o 95%.

Yn ystod yr un mis bu'n rhaid i 9,989 o gleifion dreulio dros 12 awr yn yr unedau hynny. Er bod hyn 5% yn llai na'r mis blaenorol, yn ôl y targedau dylai neb aros cymaint â hynny.

Gwelwyd gwelliant bach hefyd yn amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans i'r galwadau mwyaf difrifol gyda 46.5% o'r rheiny yn cael ymateb o fewn wyth munud - 0.7% yn well na'r mis blaenorol.

Ond eto i gyd mae hyn yn is o lawer na'r targed o 65% ac yn dal yn agos i'r ffigwr gwaethaf erioed.

O ran amseroedd aros am driniaethau canser, mae'r ffigwr yn dangos peth cynnydd - gyda 55.4% ym mis Mai yn dechrau triniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau o gael eu hamau o gael canser.

Mae hyn 1.6% yn uwch na'r mis blaenorol ond 0.3% yn is na Mai 2023.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 611,500 o gleifion yn aros am driniaeth yng Nghymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein staff hynod o weithgar yn y Gwasanaeth Iechyd yn dal i roi gofal sy'n achub a newid bywydau a hynny yn wyneb galw anhygoel am ei wasanaethau.

"Ond ar y cyfan, mae hon yn set siomedig arall o ffigurau perfformiad y Gwasanaeth Iechyd.

"Mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi ei gwneud yn glir i fyrddau iechyd ei bod yn disgwyl gweld cynnydd - a chynnydd parhaus - i leihau arosiadau ac amseroedd aros hir am driniaethau.

"Bydd hi'n dweud yn glir wrth arweinwyr y byrddau iechyd heddiw nad yw'r sefyllfa yn dderbyniol a bydd angen pethau newid."

'25 mlynedd o gamreoli'

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands: "Mae'r ffigyrau ofnadwy yma'n dangos bod perfformiad Llafur ar iechyd yma yng Nghymru yn parhau i waethygu.

"Mae Llywodraeth Cymru o dan Lafur yn gyson wedi methu eu targedau, ac nid yw hyn yn unig oherwydd effaith y prif weinidog sydd ar ei ffordd allan, ond oherwydd effaith 25 mlynedd o gamreoli GIG Cymru."