鶹Լ

Cannoedd mewn ysbytai oherwydd oedi cyn rhyddhau

ysbytyFfynhonnell y llun, PA Media
  • Cyhoeddwyd

Mae bron i 1,600 o bobl yn yr ysbyty bob mis ar gyfartaledd, yn barod i adael, ond yn methu oherwydd diffyg asesiadau neu ddiffyg gofal.

Mae’r nifer yma yn cyfateb i gyfanswm holl gleifion Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Glan Clwyd.

Cost yr oedi yma dros y flwyddyn ddiwethaf yw tua £478,200 y dydd, neu £14.3m y mis.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn darparu £146m y flwyddyn drwy gronfa arbennig i helpu sefydliadau iechyd a gofal i gydweithio’n well.

Aros am flwyddyn a hanner

Mae cadw cleifion yn yr ysbyty yn hirach na sydd angen yn gallu bod yn niweidiol i’w hiechyd a’u lles.

Gall cyfnod hir yn yr ysbyty olygu risg uwch o heintiau ac mae’n gallu golygu bod angen mwy o gymorth ar gleifion ar ôl gadael.

Yn ogystal â'r data swyddogol sy'n edrych ar faint o bobl oedd yn aros yn yr ysbyty yn hirach nag oedd angen y llynedd, datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth gan y 鶹Լ mai'r oedi cyfartalog i gleifion cyn gadael yr ysbyty oedd pum wythnos.

Ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, bu'n rhaid i unigolyn aros am bron i flwyddyn a hanner cyn iddyn nhw allu gadael.

Prif achos yr oedi oedd y broses o aros am asesiadau, aros am leoliad cartref gofal a hefyd aros am becyn gofal cartref addas.

Mae gofal yn y gymuned yn cael ei ddarparu gan gynghorau ond mae angen i gleifion gael eu hasesu gan y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol cyn eu bod yn barod i adael yr ysbyty.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae cynghorau dan bwysau, a heb fwy o fuddsoddiad, mae dyfodol gwasanaethau cymdeithasol mewn perygl.

Mae'r corff sy'n cynrychioli sefydliadau iechyd, Conffederasiwn y GIG, yn dweud bod gwely ysbyty yn costio £500 y noson.

Ond i berson hŷn, sy'n barod i adael ysbyty, mae'n costio £300.

Gyda thua 1,600 o bobl yn feddygol barod i gael eu rhyddhau, mae'n costio £478,200 y noson.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith Llesiant Delta yn rhyddhau cleifion yn gynt o'r ysbyty, yn ôl Gareth Rees

Yn Sir Gaerfyrddin, nod cwmni dielw sy'n eiddo i'r cyngor yw lleihau nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal.

Mae gwasanaethau Llesiant Delta yn canolbwyntio ar atal pobl rhag mynd i’r ysbyty yn y lle cyntaf, a chyflymu’r broses o’u rhyddhau.

Mae hyn yn gallu arwain at ryddhau cleifion ar gyfartaledd bum diwrnod ynghynt, yn ôl pennaeth arloesi'r cwmni Gareth Rees.

"'Da ni'n gweithio gyda’r timau clinigol a'r timau gwasanaethau cymdeithasol i weld os yw’r person yn iawn i fynd adre, i weld pa fath o gymorth ma' nhw angen i fynd adre,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae’r oedi mewn ysbytai yn rhwystredig i bobl, medd Natalie Owen

Mae Natalie Owen o Llesiant Delta yn gweithio yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli.

Mae'n cefnogi cleifion yn yr ysbyty ac mae’r oedi, meddai, yn rhwystredig iawn.

“M‵ frustrating i nhw a i ni achos ma' nhw moyn mynd adre a ma' nhw ffaelu,” dywedodd.

“Fi’n joio dod i’r gwaith, fi’n licio mynd rownd a siarad 'da pobl gwahanol a rhoi unrhyw gymorth sy' isie arnyn nhw."

Fel rhan arall o wasanaeth y cwmni mae Gemma Davies yn gweithio mewn canolfan sy’n ateb galwadau sy’n dod o larymau cartref.

Mae'r rhain yn cael eu defnyddio gan bobl sydd angen cymorth i fyw'n annibynnol a diogel yn eu cartrefi.

Ffynhonnell y llun, 鶹Լ
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Gemma Davies mae cynnydd mewn galwadau ar adegau penodol o'r dydd

Dywedodd ei bod yn “brysur iawn” yn y ganolfan, yn enwedig ar adegau penodol.

“Peth cynta’n y bore fel arfer, pan ma' pobl yn codi, a wedyn yn hwyrach yn y nos pan ma' pobl yn dechre mynd i’r gwely” yw'r adegau prysuraf, meddai Gemma.

Mae’r ganolfan yn gallu ymateb i alwadau brys drwy ddanfon staff sydd wedi'u hyfforddi'n feddygol i gartref unigolyn i gynnal archwiliad corfforol.

Canlyniad hyn yw cadw rhywun fyddai efallai wedi gorfod mynd i’r ysbyty yn y gorffennol, adref ar ôl sicrhau eu bod nhw’n iawn.

Mae Mabon ap Gwynfor, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a gofal, yn galw ar Lywodraeth Cymru i dalu mwy i ofalwyr a chynyddu’r niferoedd er mwyn bod rhagor o ofal ar gael yn y gymuned.

Dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd fod nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn “hollol anghynaladwy” a bod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn anghywir.

“Mae’r flaenoriaeth wleidyddol yn edrych ar y rhestrau aros," meddai.

"Mae hwnna’n gwbl ddealladwy oherwydd bob mis ma' ffigurau newydd yn dod allan yn dangos bod y rhestrau aros yn hwy ac yn hwy a dydy hynny ddim yn adlewyrchiad da.

“Ond y gwir ydy, petai’r llywodraeth yn rhyddhau cleifion o’r ysbyty nôl i’w cymuned, nôl adre, byse hynny’n rhyddhau capasiti’n yr ysbyty er mwyn canolbwyntio ar rheiny sydd angen triniaeth yn syth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru'n anghywir, medd Mabon ap Gwynfor

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn beirniadu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn dweud bod angen gwario mwy ar wasanaethau yn hytrach nag ehangu nifer yr aelodau yn y Senedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i wella'r broses i gleifion i adael ysbyty.

Mae'r llywodraeth yn darparu £146m y flwyddyn drwy’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

"Mae ein Pwyllgor Gweithredu Gofal cenedlaethol yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i nodi beth arall y gellir ei wneud i gefnogi’r broses ryddhau, yn enwedig yn y cyfnod cyn y gaeaf,” meddai llefarydd.