Gwasanaethau'n 'methu' pobl ifanc niwroamrywiol

Disgrifiad o'r llun, Mae cyfathrebu drwy alwadau ff么n, e-byst a negeseuon testun yn anodd i Steven Lewkowicz

Mae pobl ifanc niwroamrywiol yng Nghymru yn cael eu 鈥渕ethu鈥 gan wasanaethau, a rhai'n cael eu gadael yn ddigartref, yn 么l ymchwil.

Dywedodd un dyn awtistig fod ceisio deall y systemau cefnogi, ar 么l byw gyda鈥檙 bygythiad o ddigartrefedd am flwyddyn, wedi peri 鈥減ryder diddiwedd鈥 iddo.

Dywedodd End Youth 麻豆约拍lessness Cymru fod gwybodaeth sy鈥檔 anodd cael gafael arno, llety amhriodol a newid mewn staff i gyd yn ychwanegu at y mater.

Mae Llywodraeth Cymru鈥檔 dweud ei bod wedi 鈥測mrwymo i fynd i鈥檙 afael 芒 phob math o ddigartrefedd鈥.

Mae Steven Lewkowicz, 25, sydd ag ADHD, wedi cael trafferth gyda'i iechyd meddwl ers ei arddegau.

Roedd yn wynebu bod yn ddigartref ar 么l gadael y brifysgol, heb unrhyw incwm na chymorth arall.

鈥淩oedd fel mynydd - doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau,鈥 meddai.

Dywedodd bod ceisio defnyddio鈥檙 systemau oedd wedi eu cynllunio i helpu, yn amhosib iddo.

鈥淢ae galwadau ff么n, e-byst, negeseuon testun wastad wedi bod yn drafferth fawr i fi," meddai.

鈥淒ydw i ddim yn gwybod pam ond mae'n gwaethygu fy mhryder yn sylweddol.

"Dwi鈥檔 meddwl pethau fel 鈥榩a eiriau dylwn i ddefnyddio? Ydy e鈥檔 iawn i fi anfon y neges? Mae鈥檔 bryder diddiwedd i fi."

'Teimlo fel morgrugyn, allan o le'

Dywedodd Steven ei fod yn 鈥渓wcus鈥 ei fod wedi gallu cael cymorth gan elusen ddigartrefedd, Llamau.

Byddai rhywun o鈥檙 elusen yn ei atgoffa am apwyntiadau neu鈥檔 mynd gydag ef yno.

Roedd hynny, meddai, yn gwneud 鈥測 broses gyfan yn haws鈥 iddo.

Ychwanegodd Steven fod cerdded mewn i adeiladau lle mae cymorth ar gael yn gallu bod yn anodd.

Efallai bod adeiladau yn 鈥渆drych yn fawr, yn hardd ac yn fawreddog鈥, ond i lawer o bobl niwroamrywiol, mae鈥檙 amgylchedd hwnnw yn gallu creu 鈥減ryder a bod yn frawychus鈥, meddai.

鈥淢ae鈥檔 fawr - rydych chi鈥檔 teimlo fel morgrugyn, allan o le - ond pe bai opsiwn i gael ystafell lai, gallai hynny helpu.鈥

'Lwc oedd e'

Dywedodd Steven ei fod bellach yn byw mewn llety a'i fod eisiau defnyddio ei brofiadau i helpu eraill.

鈥淢ae yna bobl wych sydd wedi helpu sicrhau鈥檙 gefnogaeth i fi, sydd wedi fy atal rhag bod ar y strydoedd," meddai.

鈥淥nd dyna鈥檙 peth, lwc oedd e, a dyle fe ddim fod yn seiliedig ar lwc."

Disgrifiad o'r llun, Mae angen mwy o ymchwil a hyfforddiant, meddai Bill Edwards, pennaeth End Youth 麻豆约拍lessness Cymru

Mae hanes Steven yn gyfarwydd iawn i Bill Rowlands, pennaeth End Youth 麻豆约拍lessness Cymru.

Dywedodd y cafodd yr ymchwil ei ysgogi gan y nifer o bobl ifanc niwroamrywiol oedd yn dod i gysylltiad 芒鈥檜 gwasanaethau.

Ychwanegodd bod 鈥渞isg uwch鈥 i bobl niwroamrywiol wynebu digartrefedd, er bod y rhesymau fel problemau teuluol, methiant gyda lleoliadau gofal maeth neu anawsterau o ran cynnal tenantiaeth breifat yn debyg i bob person ifanc.

'System sydd ddim yn gweithio i chi'

Dywedodd bod angen mwy gwneud mwy o ymchwil a chasglu data, ond bod pobl ifanc yn dweud wrthyn nhw bod cael mynediad at wasanaethau yn eu llethu.

鈥淧an maen nhw'n dod i mewn i swyddfa arferol, mae鈥檔 swnio fel gorsaf reilffordd.

鈥淢ae'n swnllyd, mae'n brysur, mae鈥檔 ormod i鈥檙 synhwyrau.

"Ry'ch chi'n dod i wneud cais digartrefedd, sy鈥檔 argyfwng yn eich bywyd, a chi鈥檔 dod mewn i wasanaeth, i system sydd ddim yn gweithio i chi."

Dywedodd Bill fod nifer o welliannau yn bosib, gan gynnwys darganfod y ffordd orau i gyfathrebu 芒 phobl ifanc 鈥 yn ysgrifenedig neu dros y ff么n 鈥 creu ardaloedd tawel, a sicrhau bod yr holl staff wedi cael hyfforddiant.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Nichola Davies bod nifer o bobl ifanc, o bosib gyda ADHD, yn colli apwyntiadau

Yng Nghaerffili, mae hynny鈥檔 rhywbeth y mae Nichola Davies wedi bod rhoi ar waith.

Yn gydlynydd digartrefedd i bobl ifanc, mae Nichola yn gweithio i鈥檙 cyngor.

Mae鈥檙 gwaith mae hi鈥檔 ei wneud yn cynnwys pethau fel gwneud fideos o'u lleoliadau er mwyn paratoi pobl ifanc pan maen nhw鈥檔 ymweld.

鈥淕all hynny fod yn anodd iawn i berson ifanc niwroamrywiol, ond gall fod yr un mor bwysig i rywun sy'n bryderus, felly gall pobl eraill elwa ohono,鈥 meddai.

Fe gymrodd Nichola ran yn yr ymchwil, a dywedodd bod angen mwy o hyfforddiant i staff.

鈥淢ae gyda ni nifer o bobl ifanc, o bosib gyda ADHD, sy'n colli apwyntiadau.

鈥淢ae'n rhaid i ni fod yn gallach a chefnogi'r bobl ifanc hyn a gwneud pethau fel creu ffyrdd i鈥檞 hatgoffa nhw."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi bron i 拢220m mewn gwasanaethau atal a chefnogi digartrefedd, yn ogystal 芒 buddsoddi 拢330m mewn tai cymdeithasol eleni.

鈥淢ae hyn yn cynnwys dros 拢7m sy鈥檔 targedu digartrefedd ymhlith yr ifanc yn gynnar, a chymorth i helpu pobl ifanc i ddatblygu鈥檙 sgiliau i fyw鈥檔 annibynnol,鈥 meddai llefarydd.