Â鶹ԼÅÄ

Mwy o ferched yn gofyn am asesiad o gyflwr ADHD

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Bronwen LewisFfynhonnell y llun, Bronwen Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Bronwen Lewis: "Fe wnes i edrych ar lawer o fideos am ADHD - ac roedd y cyfan yn berthnasol iawn i fi rywsut"

Mae mwy o fenywod wedi gofyn am asesiad o gyflwr ADHD ers y pandemig ac mae rhestr aros am asesiad cychwynnol yng Nghymru bellach rhwng blwyddyn a dwy flynedd, yn ôl meddygon teulu.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi buddsoddi £12m yn gwella gwasanaethau a chefnogaeth i'r rhai sy'n byw â'r cyflwr ac i'w teuluoedd.

Un sydd wedi cael diagnosis diweddar yw'r gantores Bronwen Lewis o Gastell-nedd, a hynny wedi iddi weld sawl fideo am y cyflwr ar TikTok.

Dywed Bronwen, a ddaeth yn gantores Gymraeg boblogaidd yn ystod y pandemig, ei bod wedi bod yn isel iawn yn y gorffennol.

Mae hi bellach yn credu mai ei chyflwr ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd) oedd yn gyfrifol am hynny gydol yr amser.

"Fe wnes i edrych ar lawer o fideos am ADHD - ac roedd y cyfan yn berthnasol iawn i fi rywsut," meddai wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru.

"Yna ro'n i'n gwrando yn y car ar raglen radio oedd yn trafod sut oedd merched yn cael diagnosis o'r cyflwr yn hwyr yn eu bywydau.

"Roedd pob un o'r menywod yna yn swnio fel fi, roedden nhw'n wynebu yr un trafferthion ac wedi cael y diagnosis anghywir fel fi. Fe wnes i jyst eistedd yn y car a chrio - roedd hi'n foment o bethau yn disgyn i'w lle."

Dywed Bronwen bod dysgu caneuon newydd yn anodd iddi. Mae hi hefyd yn cael hi'n anodd cadw trefn ar ei chyfrifon ac weithiau mae canolbwyntio yn ystod sgyrsiau yn gallu bod yn heriol.

Pan aeth hi at y meddyg, dywedwyd wrthi y byddai'n rhaid iddi aros blwyddyn am asesiad cychwynnol ac felly fe ddewisodd hi fynd yn breifat.

"Fe wnaeth y cyfan gostio £650 i fi rhwng yr ymgynghoriad cychwynnol a'r asesiad am ddiagnosis ond roedd e'n werth pob ceiniog - ond yr hyn sy'n digalonni rhywun yw bo fi'n gwybod nad yw pawb yn gallu fforddio hynna."

Anwybodaeth am y cyflwr

Un arall sydd wedi cael diagnosis diweddar yw Claire Campbell Adams, 42, o Gasnewydd.

Ffynhonnell y llun, Claire Campbell Adams
Disgrifiad o’r llun,

Claire Campbell Adams: "Roedd e'n rhywbeth na chroesodd fy meddwl i gan bo fi wastad wedi meddwl mai bachgen drwg yn rhedeg o gwmpas y dosbarth oedd â'r cyflwr"

Gan bod ei dau blentyn â dyslecsia fe benderfynodd Mrs Campbell Adams gael asesiad a dyna pryd y dywedwyd wrthi bod hi hefyd â chyflwr ADHD.

"Roedd e'n rhywbeth na chroesodd fy meddwl i gan bo fi wastad wedi meddwl mai bachgen drwg yn rhedeg o gwmpas y dosbarth oedd â'r cyflwr," meddai.

"Ar y dechrau ro'n i'n hynod o drist. Mae hi dal yn anodd siarad am y peth gan ei fod yn fywyd rwy' wedi ei golli ac yn fywyd y medrwn i fod wedi ei gael petawn i ond yn gwybod.

"Doedd gan rieni ac athrawon yn ystod fy mhlentyndod i ddim mo'r wybodaeth na'r adnoddau sydd gennym nawr.

"Mae pawb yn credu mai'r bachgen drwg sy'n rhedeg o gwmpas y dosbarth sydd â chyflwr ADHD a nid y ferch sy'n eistedd yng nghefn y dosbarth yn syllu'n dawel ar y byd tu allan. Mae hi'n haeddu gymaint o sylw bob tamaid - ac mae ganddi hawl i addysg hefyd."

Ffynhonnell y llun, Bronwen Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gantores Bronwen Lewis ymhlith nifer sydd wedi gofyn am asesiad ADHD ers y cyfnod clo

Mae canfod yr union nifer o ferched sydd wedi gofyn am asesiad ADHD yn anodd gan fod byrddau iechyd yn casglu data ar y rhai sy'n disgwyl am asesiad cyflyrau niwroddatblygiadol - ac y mae hynny yn cynnwys asesiadau awtistiaeth.

Ond dywed meddygon teulu bod yna gynnydd sylweddol yn nifer y merched sy'n gofyn am asesiad ADHD ers y pandemig.

Dywed y Sefydliad ADHD bod 400% yn fwy o oedolion wedi dod atyn nhw ers y pandemig a bod nifer o'r rhai hynny wedi chwilio am atebion ar y cyfryngau cymdeithasol wrth iddyn nhw ei chael hi'n anodd yn ystod y cyfnod clo.

Mae Dr Simon Braybook o Gaerdydd yn dweud ei fod wedi gweld cynnydd mawr yn y bobl sy'n gofyn am asesiad a bod hanner o'r rhai hynny yn fenywod sydd wedi cael eu trin am gyflyrau fel gorbryder, iselder ac anhwylderau bwyta yn y gorffennol.

Buddsoddi £12m i wella gwasanaethau

Dywed Coleg Brenhinol y Meddygon bod llawer mwy o wybodaeth am y cyflwr bellach a bod diffyg gwybodaeth flynyddoedd yn ôl wedi arwain at beidio cael y diagnosis cywir.

Yn ôl Dr Rowena Christmas, cadeirydd y coleg yng Nghymru, mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer sydd wedi dod i'w meddgyfa hi yn Nyffryn Gwy yn gofyn am ddiagnosis.

"Bechgyn yn draddodiadol sydd wedi bod yn cael diagnosis gan fod merched, gan amlaf, yn dueddol o eistedd yn dawelach ac y maen nhw'n fwy tebygol o sicrhau eu bod yn cael eu derbyn yn gymdeithasol ond y gwir amdani yw bod nifer wedi cael oes o deimlo nad ydyn nhw'n gallu ymdopi'n iawn," ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau niwroddatblygol, gan gynnwys ADHD, ac arbenigwyr er mwyn sicrhau gwelliannau hirdymor i wasanaethau niwroddatblygol ar draws Cymru.

"Ry'n wedi ymrwymo £12m dros gyfnod o dair blynedd i wella gwasnaethau tra'n cryfhau y gefnogaeth i deuluoedd a gofalwyr y rhai sy'n disgwyl am asesiad.

"Ry'n hefyd yn datblygu Cynllun Iechyd Merched 10 mlynedd i'r GIG, er mwyn cefnogi ystod eang o faterion cysylltiedig ag iechyd merched."