Â鶹ԼÅÄ

Cyflyrau niwroamrywiol: Galw am well gwasanaethau

  • Cyhoeddwyd
Billy
Disgrifiad o’r llun,

Cymerodd dros ddwy flynedd i Billy gael ei ddiagnosis

Mae cael cefnogaeth i blentyn gyda chyflwr fel awtistiaeth "yn daith anodd iawn", meddai un fam sydd wedi cael diagnosis i'w mab ar ôl dwy flynedd o aros.

Mae Bethan, sydd o Gastell-nedd Port Talbot, wedi symud i swydd ran-amser er mwyn gallu cludo ei mab Billy, sy'n dair oed, i feithrinfa arbenigol mewn sir arall.

Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru mae nifer o deuluoedd yn wynebu brwydr "dorcalonnus" am gymorth ac maent yn galw am system sy'n gweithio ar sail angen plentyn am gefnogaeth, nid ar sail diagnosis yn unig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ceisio llenwi'r bylchau sydd yn bodoli o fewn cymorth cyn ac ar ôl diagnosis.

'Dyw e ddim yn deg'

Roedd Billy ond yn fabi pan ddechreuodd Bethan sylwi nad oedd e'n datblygu yn yr un ffordd â phlant eraill.

"Y tro cynta' nes i weld doctor gyda Billy, roedd Billy'n wyth mis oed... a cafodd e ei ddiagnosis rhyw ddau fis yn ôl," meddai Bethan.

"Felly mae wedi cymryd dros ddwy flynedd i gyrraedd diagnosis".

Trwy wneud ymchwil ei hun, llwyddodd Bethan ddod o hyd i feithrinfa arbenigol ASD Rainbows yn Aberpennar, Cwm Cynon, ond mae hyn dipyn o bellter o gartref y teulu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan wedi gorfod newid ei swydd er mwyn i Billy fynd i feithrinfa arbenigol

"Do'n i ddim ishe rhoi fy swydd lan yn gyfan gwbl achos dwi'n dwlu ar fynd i'r gwaith. Ond hefyd ro'n i ishe i Billy gael y profiad o ddod fan hyn," dywedodd Bethan.

Fel teulu, penderfynwyd y byddai Bethan yn cymryd swydd ran-amser fel athrawes er mwyn gallu cludo Billy i'r feithrinfa.

"Eto dyw hwnna ddim yn deg ar y teuluoedd sydd ddim yn gallu gwneud hwnna, a dwi wedi siarad gyda sawl rhiant sy'n teimlo'r euogrwydd o'r ffaith falle bo' nhw ddim yn gallu rhoi lan gwaith neu ddim yn gallu mynd rhan amser," meddai.

"Dyle fe ddim bod fel 'na achos dyw e ddim fel 'na i blant sydd heb anghenion arbennig."

Teithiau hir i gyrraedd gwasanaethau

I'r rhai sy'n gweithio ym meithrinfa ASD Rainbows, maen nhw'n teimlo balchder am y gwaith maen nhw'n ei wneud.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kayleigh Warford bod teuluoedd yn teithio am dros awr er mwyn dod i'r feithrinfa

Dywedodd Kayleigh Warford, sy'n gweithio yn y feithrinfa: "Dyw'r setting yma ddim yn gyffredin iawn...

"Ni gyda rhieni sy'n dod o Benarth, Glyn Nedd, Porth. Ni 'di cael rhieni'n dod o Gaerdydd hefyd.

"Ni'n base bach yn Mountain Ash. Dy'n ni ddim yn agos i'r bobl yna i deithio yma. Mae rhai rhieni'n dod o awr i ffwrdd."

Dros 9,000 yn aros am asesiad

Yn ôl Lewis Lloyd o swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, mae yna deuluoedd ledled Cymru sydd dan straen "anferthol" wrth geisio chwilio am gymorth ac sy'n aros am gyfnodau hirfaith am asesiadau.

Roedd data Llywodraeth Cymru yn dangos bod 9,014 o blant yng Nghymru yn aros am asesiad yn Chwefror 2022 a dros draean - 3,331 - wedi bod yn aros dros flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lewis Lloyd fod y system bresennol yn gymhleth

"Be ni'n clywed yn gryf yw bod y system yn gymhleth," meddai Mr Lloyd.

"Mae'n ddibynnol iawn ar gael diagnosis, a beth mae teuluoedd eisiau gweld yw system sy'n ymateb i anghenion unigol eu plant nhw a sydd ddim yn ddibynnol ar y diagnosis - sy'n ei gwneud hi lot yn haws i gael yr help mae eu plant nhw ei angen.

"Yn syml iawn dyw e ddim yn gweithio i deuluoedd ac i blant."

Gwella cymorth cyn ac ar ôl diagnosis

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn cyflwyno newidiadau ar ôl gwrando ar brofiadau teuluoedd a phobl ifanc sydd â chyflyrau niwroamrywiol.

Dywedodd llefarydd: "Rydym wedi bod yn gwrando ar deuluoedd a phobl ifanc gyda chyflyrau niwroamrywiol er mwyn helpu gwneud gwelliannau gwybodaeth i wasanaethau ar draws Cymru.

"Nod ein Rhaglen Gwella Niwroamrywiaeth yw mynd i'r afael â bylchau mewn cefnogaeth i blant a phobl ifanc a gwella cymorth cyn ac ar ôl diagnosis. Byddwn hefyd yn treialu llinell wrando 24 awr o fis Ebrill.

"Rydym yn darparu £4.5m ychwanegol i wasanaethau nirwoamrywiaeth yn 2023-24, a fydd yn codi i £6m yn 2024-25."

Pynciau cysylltiedig