鶹Լ

Gwasanaethau'n 'methu' pobl ifanc niwroamrywiol

Steven Lewkowicz
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfathrebu drwy alwadau ffôn, e-byst a negeseuon testun yn anodd i Steven Lewkowicz

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ifanc niwroamrywiol yng Nghymru yn cael eu “methu” gan wasanaethau, a rhai'n cael eu gadael yn ddigartref, yn ôl ymchwil.

Dywedodd un dyn awtistig fod ceisio deall y systemau cefnogi, ar ôl byw gyda’r bygythiad o ddigartrefedd am flwyddyn, wedi peri “pryder diddiwedd” iddo.

Dywedodd End Youth 鶹Լlessness Cymru fod gwybodaeth sy’n anodd cael gafael arno, llety amhriodol a newid mewn staff i gyd yn ychwanegu at y mater.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud ei bod wedi “ymrwymo i fynd i’r afael â phob math o ddigartrefedd”.

Mae Steven Lewkowicz, 25, sydd ag ADHD, wedi cael trafferth gyda'i iechyd meddwl ers ei arddegau.

Roedd yn wynebu bod yn ddigartref ar ôl gadael y brifysgol, heb unrhyw incwm na chymorth arall.

“Roedd fel mynydd - doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau,” meddai.

Dywedodd bod ceisio defnyddio’r systemau oedd wedi eu cynllunio i helpu, yn amhosib iddo.

“Mae galwadau ffôn, e-byst, negeseuon testun wastad wedi bod yn drafferth fawr i fi," meddai.

“Dydw i ddim yn gwybod pam ond mae'n gwaethygu fy mhryder yn sylweddol.

"Dwi’n meddwl pethau fel ‘pa eiriau dylwn i ddefnyddio? Ydy e’n iawn i fi anfon y neges? Mae’n bryder diddiwedd i fi."

'Teimlo fel morgrugyn, allan o le'

Dywedodd Steven ei fod yn “lwcus” ei fod wedi gallu cael cymorth gan elusen ddigartrefedd, Llamau.

Byddai rhywun o’r elusen yn ei atgoffa am apwyntiadau neu’n mynd gydag ef yno.

Roedd hynny, meddai, yn gwneud “y broses gyfan yn haws” iddo.

Ychwanegodd Steven fod cerdded mewn i adeiladau lle mae cymorth ar gael yn gallu bod yn anodd.

Efallai bod adeiladau yn “edrych yn fawr, yn hardd ac yn fawreddog”, ond i lawer o bobl niwroamrywiol, mae’r amgylchedd hwnnw yn gallu creu “pryder a bod yn frawychus”, meddai.

“Mae’n fawr - rydych chi’n teimlo fel morgrugyn, allan o le - ond pe bai opsiwn i gael ystafell lai, gallai hynny helpu.”

'Lwc oedd e'

Dywedodd Steven ei fod bellach yn byw mewn llety a'i fod eisiau defnyddio ei brofiadau i helpu eraill.

“Mae yna bobl wych sydd wedi helpu sicrhau’r gefnogaeth i fi, sydd wedi fy atal rhag bod ar y strydoedd," meddai.

“Ond dyna’r peth, lwc oedd e, a dyle fe ddim fod yn seiliedig ar lwc."

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen mwy o ymchwil a hyfforddiant, meddai Bill Edwards, pennaeth End Youth 鶹Լlessness Cymru

Mae hanes Steven yn gyfarwydd iawn i Bill Rowlands, pennaeth End Youth 鶹Լlessness Cymru.

Dywedodd y cafodd yr ymchwil ei ysgogi gan y nifer o bobl ifanc niwroamrywiol oedd yn dod i gysylltiad â’u gwasanaethau.

Ychwanegodd bod “risg uwch” i bobl niwroamrywiol wynebu digartrefedd, er bod y rhesymau fel problemau teuluol, methiant gyda lleoliadau gofal maeth neu anawsterau o ran cynnal tenantiaeth breifat yn debyg i bob person ifanc.

'System sydd ddim yn gweithio i chi'

Dywedodd bod angen mwy gwneud mwy o ymchwil a chasglu data, ond bod pobl ifanc yn dweud wrthyn nhw bod cael mynediad at wasanaethau yn eu llethu.

“Pan maen nhw'n dod i mewn i swyddfa arferol, mae’n swnio fel gorsaf reilffordd.

“Mae'n swnllyd, mae'n brysur, mae’n ormod i’r synhwyrau.

"Ry'ch chi'n dod i wneud cais digartrefedd, sy’n argyfwng yn eich bywyd, a chi’n dod mewn i wasanaeth, i system sydd ddim yn gweithio i chi."

Dywedodd Bill fod nifer o welliannau yn bosib, gan gynnwys darganfod y ffordd orau i gyfathrebu â phobl ifanc – yn ysgrifenedig neu dros y ffôn – creu ardaloedd tawel, a sicrhau bod yr holl staff wedi cael hyfforddiant.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Nichola Davies bod nifer o bobl ifanc, o bosib gyda ADHD, yn colli apwyntiadau

Yng Nghaerffili, mae hynny’n rhywbeth y mae Nichola Davies wedi bod rhoi ar waith.

Yn gydlynydd digartrefedd i bobl ifanc, mae Nichola yn gweithio i’r cyngor.

Mae’r gwaith mae hi’n ei wneud yn cynnwys pethau fel gwneud fideos o'u lleoliadau er mwyn paratoi pobl ifanc pan maen nhw’n ymweld.

“Gall hynny fod yn anodd iawn i berson ifanc niwroamrywiol, ond gall fod yr un mor bwysig i rywun sy'n bryderus, felly gall pobl eraill elwa ohono,” meddai.

Fe gymrodd Nichola ran yn yr ymchwil, a dywedodd bod angen mwy o hyfforddiant i staff.

“Mae gyda ni nifer o bobl ifanc, o bosib gyda ADHD, sy'n colli apwyntiadau.

“Mae'n rhaid i ni fod yn gallach a chefnogi'r bobl ifanc hyn a gwneud pethau fel creu ffyrdd i’w hatgoffa nhw."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi bron i £220m mewn gwasanaethau atal a chefnogi digartrefedd, yn ogystal â buddsoddi £330m mewn tai cymdeithasol eleni.

“Mae hyn yn cynnwys dros £7m sy’n targedu digartrefedd ymhlith yr ifanc yn gynnar, a chymorth i helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau i fyw’n annibynnol,” meddai llefarydd.